Site icon St Giles' Centre

Dyddiadau cau ymgynghoriad Cymwysterau Cymru yn agosáu

Y dyddiad cau i gyflwyno’ch ymateb i ymgynghoriad Cymwysterau Cymru yw 5pm ar 9 Ebrill 2021. Yn y blog yma, rydym yn ail-ymweld â phrif ddiben yr ymgynghoriad ac yn codi rhai cwestiynau pwysig i feddwl amdanynt.

Pwrpas yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad yn rhan o broses i sicrhau fod cymwysterau TGAU yng Nghymru yn addas i’r diben o fewn cyd-destun y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Dyma’r sail i dri chwestiwn yr ymgynghoriad, sef:

  1. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynigion i adolygu a diwygio TGAU mewn Busnes, Daearyddiaeth, Hanes ac Astudiaethau Crefyddol?
  2. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynnig i greu TGAU newydd mewn Astudiaethau Cymdeithasol, os yw hynny’n ymarferol?
  3. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynnig i gredu TGAU integredig newydd yn y Dyniaethau, os yw hynny’n ymarferol?

Wrth ymateb i’r cwestiynau hyn, efallai y bydd recordiad o wemniar gan Gymwysterau Cymru o ddefnydd i chi. Mae’n trafod rhai o’r ystyriaethau yma.

Rhai cwestiynau i feddwl amdanynt

Gallai rhai o’r cwestiynau canlynol fod o ddefnydd i chi wrth ystyried eich ymateb:

If you want to talk to us about your views and/or want to offer any information to support your local authority’s response (Wrexham), please gysylltu â ni gan erbyn 8 Ebrill 2021..

Dyma 'r ddogfennaeth a dolenni i’r ymgynghoriad.

Exit mobile version