Hafan

Croeso i Ganolfan San Silyn

Saif Canolfan San Silyn yng nghalon Wrecsam yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru ar dir Eglwys drawiadol San Silyn, sy’n edrych allan ar draws y dref a’r ardal o’i chwmpas.

Wedi’i sefydlu ym mis Ionawr 2012 a gyda chyllid craidd gan Sefydliad Addysgiadol (Plwyfol) Wrecsam, mae Canolfan San Silyn yn gweithio gyda dysgwyr ac athrawon yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae ein harbenigeddau yn cynnwys addysg grefyddol (crefydd, gwerthoedd a moeseg - CGM) a’i rhiant-bynciau, yn ogystal â meysydd cysylltiedig.

Rydym yn rhoi gwerth ar gysylltu’n greadigol ac yn weithredol ag anghenion a chymhlethdodau ein hardal leol, a dyma yw canolbwynt ein gweithgareddau i gyd. Sylweddolwn, fodd bynnag, fod ein cynlluniau yma yn Wrecsam yn berthnasol hefyd i eraill ar draws Cymru a thu hwnt. Felly, gobeithiwn y bydd llawer o bobl a sefydliadau yn ymweld â’r wefan hon i ddysgu am yr hyn a wnawn ac i elwa ar ein gweithgareddau yn ogystal.

Nodau Canolfan San Silyn yw:

  • cynnig cymorth ymgynghorol arbenigol yn y pwnc i athrawon ac ysgolion yn Wrecsam drwy’r awdurdod lleol;
  • creu a chynnig adnoddau am ddim o ansawdd uchel a chanllawiau i gefnogi addysgu a dysgu mewn addysg grefyddol (CGM) ac addoli ar y cyd statudol yn Wrecsam;
  • datblygu cyrsiau dysgu proffesiynol ac adnoddau ar gyfer addysg grefyddol (CGM) a meysydd cysylltiedig yn Wrecsam;
  • canfod a rhoi ar waith prosiectau ymchwil perthnasol a chyhoeddiadau sy’n help i ddylanwadu a datblygu’n gweithgareddau;
  • galluogi lleisiau athrawon a dysgwyr yn Wrecsam i gael eu clywed ar lefelau lleol a chenedlaethol;
  • sicrhau fod Wrecsam yn gwybod y diweddaraf am y datblygiadau mwyaf pwysig sy’n effeithio ar addysg grefyddol (CGM) a meysydd cysylltiedig.

Rydym yn gwerthfawrogi’n perthynas glos a hirhoedlog gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’n perthynas fwy diweddar gyda Phrifysgol yr Esgob Grosseteste, Lincoln, sy’n ein helpu ni i gyflawni’n nodau.

Darllenwch ein Newyddlen Blog:

Diweddaraf o'r Blog

Ymgynhoriad Cymwysterau Cymru: Y cynnig llawn o gymwysterau 14-16

Dyddiad cau’r ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar y cynnig llawn o gymwysterau 14-16 yw: Dydd Mercher, 14 Mehefin 2023. Mae'n bwysig bod cymaint o sefydliadau ac unigolion â phosibl yn ymateb i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i CGM. Mae CCYSAGauC wedi recordio cyflwyniad fideo byr i egluro pam fod yr ymgynghoriad hwn mor bwysig...

Science and Faith lectures at Liverpool Cathedral – May 2023

Religion, values and ethics (RVE) specialists as well as science specialists may be interested in attending the free Gilbert Scott Lectures on Science and Faith at Liverpool Cathedral held in May 2023. All the lectures take place in the Lady Chapel (7.30 – 9pm) – Dates and speakers are listed below: 10 May 2023 Islam…

National RVE professional learning resources published on Hwb

The first national RVE professional learning resources have been published on the Welsh Government Hwb. They have been created by practitioners in Wales as part of a collaboration between the Welsh Government and the Wales Association of SACREs (WASACRE). The resources are intended to: ‘support practitioners with the changes to RVE (formerly Religious Education), within…

Wales: Catholic school pupils much more diverse than national average – new data published

The Catholic Education Service (CES) has reported that their 2022 annual census of Catholic schools has shown that learners in Catholic schools in Wales are ‘much more diverse than the national average.’ Catholic schools comprise 6% of the national total of maintained schools in Wales. The main headlines derived from these data have been published…

Digwyddiad hyfforddi CGM am ddim i ymarferwyr Cynradd yn Wrecsam

Mewn cydweithrediad ag awdurdod lleol Wrecsam, mae Canolfan AG San Silyn yn cynnal diwrnod cynllunio CGM Cynradd ddydd Mercher 29 Mawrth 2023. Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty Ramada Plaza, Wrecsam a bydd yn cael ei ariannu’n llawn gan y Ganolfan AG, felly mae'n hollol rhad ac am ddim i ysgolion Wrecsam. Bydd lluniaeth ar gael trwy’r...

Canolfan San Silyn, Tŷ’r Coleg, Rhes y Deml, Wrecsam, Cymru. LL13 8LY.

Noddir a chefnogir gan Sefydliad Addysgiadol (Plwyfol) Wrecsam.

Copyright St Giles’ Centre 2023

Cymraeg