
Rydym yn falch o dynnu sylw at gyhoeddi ar Hwb y E-gylchgrawn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) sydd wedi’i ailgynllunio’n ddiweddar ar gyfer 2026.
Mae’r cylchgrawn ar-lein dwyieithog hwn yn cael ei gyhoeddi’n dymhorol ac mae wedi’i adnewyddu gyda dyluniad newydd, mwy hygyrch. Mae’r rhifyn cyntaf yn y fformat diwygiedig hwn wedi’i gyhoeddi, gan ganolbwyntio ar y thema Perthnasoedd.
Beth sydd yn y rhifyn diweddaraf?
Mae’r rhifyn presennol yn cynnwys tair erthygl ar:
- Teuluoedd yng Nghymru;
- Cymdogion byd-eang: byw efo'n gilydd efo gwahaniaeth
- Rôl merched yn y teulu
Mae pob rhifyn yn cynnig:
- tair erthygl fer sy’n gysylltiedig â Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Cwricwlwm i Gymru;
- ffocws thematig clir i gefnogi ymgysylltiad ystyrlon gan ddysgwyr;
- nodiadau i athrawon gyda gweithgareddau awgrymedig i ddyfnhau trafodaeth a dealltwriaeth.
Perthnasedd i ysgolion Wrecsam
Mae’r adnodd hwn yn cynnig cymorth ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth i athrawon uwchradd ledled Wrecsam, gan helpu i:
- ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o faterion cyfoes moesegol a chrefyddol;
- cefnogi addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Cwricwlwm i Gymru;
- darparu deunyddiau parod i’w defnyddio y gellir eu haddasu ar gyfer gwahanol gyd-destunau dysgu.
Arbenigedd lleol
Mae’n arbennig o galonogol gweld cynrychiolaeth gref o Wrecsam wrth ddatblygu’r cylchgrawn. Mae tri arbenigwr CGM lleol yn cyfrannu at yr e-gylchgrawn:
Libby Jones fel arbenigwraig bwnc a chynghorydd
Tania ap Siôn fel Golygydd
Neera Vyas fel awdur cyfrannol
Mae eu cyfraniad yn helpu i sicrhau bod y cynnwys yn gefnogol ac yn berthnasol i anghenion ysgolion uwchradd ac athrawon yn Wrecsam.