Mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael i'r Ganolfan San Silyn.
Mae'r awdurdod lleol yn darparu lle i gartrefu adnoddau y Ganolfan San Silyn (Yr Ystafell Adnoddau) ac mae'r Ganolfan San Silyn yn dal i elwa o'r cyfleusterau a grëwyd yn wreiddiol ar ei chyfer o fewn Eglwys Blwyf San Silyn.
Mae'r Ganolfan San Silyn yn gwerthfawrogi ei pherthynas agos ag Eglwys Blwyf San Silen, sy'n cynnig 'adnodd byw' cyfoethog ar gyfer addysgu a dysgu, gwneud cysylltiadau trawsgwricwlaidd, a mannau cyfarfod / seminar o fewn yr eglwys ei hun.
Mae'r Ganolfan San Silyn yn defnyddio'r mannau hyn ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd hyfforddi wyneb yn wyneb
Yr Ystafell Adnoddau (Ysgol Clywedog)
Mae gan yr Ystafell Adnoddau gasgliad helaeth o adnoddau ar gyfer AG/CGM ac addoli ar y cyd statudol. Mae rhagor o wybodaeth am yr adnoddau hyn yn ogystal â threfniadau ymweld a benthyca ar gael ar ein tudalen ar gyfer yr Ystafell Adnoddau.
Cyfleusterau yn Eglwys y Plwyf San Silyn
Yr Ystafell Wydr
Mae'r Ystafell Wydr wedi'i lleoli'n uchel uwchben Eil Ddeheuol Eglwys Blwyf San Silyn, gan gynnig lle cyfarfod/seminar trawiadol. Defnyddir yr ystafell i gynnal digwyddiadau hyfforddi a chyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Gofodau Dysgu Hyblyg
Mae Gofodau Dysgu Hyblyg wedi’u lleoli ar eil Ddeheuol Eglwys Plwyf San Silyn. Gyda pharwydydd sy’n llithro, gellir creu amrywiaeth o ofodau dysgu i oedolion a phobl ifanc. Defnyddir y Gofodau Dysgu Hyblyg ar gyfer pob math o weithgareddau sy’n gysylltiedig ag AG/CGM.
Dysgu y tu allan i'r ddosbarth (Eglwys Plwyf San Silyn)
Mae Eglwys Plwyf San Silyn a’r fynwent yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer dysgu y tu allan i’r dosbarth. Reit yng nghalon Wrecsam, caiff yr eglwys ganoloesol hon ei disgrifio’n aml fel un o ‘Saith Rhyfeddod Cymru’, a bu’n fangre addoliad Cristnogol ers 800 mlynedd neu fwy.
Ceir gwybodaeth bellach am ymweld ag Eglwys a mynwent San Silyn ar wefan Eglwys Plwyf San Silyn.














