Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd dysgu proffesiynol arbenigol. Bellach mae’n fwy angenrheidiol gyda dyfodiad y Cwricwlwm i Gymru 2022. Mae’r staff yng Nghanolfan San Silyn yn cymryd rhan agos mewn cynlluniau dysgu proffesiynol ar lefel genedlaethol. Mae hyn yn gosod sail i’r gweithgareddau dysgu proffesiynol sy’n cael eu datblygu gan y Ganolfan yma yn Wrecsam.
Gall dysgu proffesiynol ddigwydd mewn gwahanol gyd-destunau, drwy ddefnyddio gwahanol gyfryngau. Gall Canolfan San Silyn gynnig ystod o gyfleoedd ac adnoddau dysgu proffesiynol AG/CGM a’r rheini AM DDIM i athrawon ac ysgolion Wrecsam.
Rydym yn cynyddu’n darpariaeth ar-lein i bob maes o’n gwaith dysgu proffesiynol, a gall rhywfaint o hwn gael ei gynnig i unigolion a sefydliadau y tu allan i’r fwrdeistref sirol.
Yma, gallwch gael gwybod am y cymorth ymgynghorol arbenigol, y cyrsiau diweddaraf, a deunydd cefnogi ar gyfer dysgu proffesiynol a gynigir gan Ganolfan San Silyn. Ceir hefyd adran ‘materion y cwricwlwm’ sy’n darparu’r wybodaeth hanfodol ddiweddaraf am AG/CGM yn y cwricwlwm.