
Mae Ystafell Adnoddau San Silyn yn cynnwys cannoedd o adnoddau i gefnogi’ch addysgu a dysgu AG/CGM a meysydd cysylltiedig. Datblygwyd ein casgliad dros ddau ddegawd ac mae’n cael ei ddiweddaru’n flynyddol gydag eitemau newydd.
Pa adnoddau sydd ar gael?
Mae gennym ystod eang o adnoddau i bob oed, sy’n ymdrin ag amryw o grefyddau a themâu AG/CGM. Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o adnoddau:
- blychau arteffactau
- teganau / gemau
- llyfrau stori
- gwerslyfrau
- llyfrau cyfeirio
- posteri.
Sut ydw i’n cael benthyg adnoddau?
Cysylltu â Libby Jones i drafod eich anghenion adnoddau ac i fenthyca adnoddau. Fel arfer, mae trefniadau benthyca ar sail hanner tymor neu dymhorol, yn dibynnu ar y galw.
Ble mae’r Ystafell Adnoddau?
Mae'r Ystafell Adnoddau wedi'i lleoli'n gyfleus yn Ysgol Clywedog (Ffordd Rhuthun, Wrecsam, LL13 7UB, Ystafell Gwella Ysgolion 1). Er mwyn sicrhau bod rhywun ar gael i'ch cyfarfod, bwciwch apwyntiad cyn ymweld.
Gwneud cais am adnoddau newydd
Rydym bob amser yn croesawu awgrymiadau am ychwanegiadau i’n casgliad. Rhowch wybod i ni am unrhyw adnoddau yr hoffech eu cael.
