Dolenni

abstract close up cobweb connection

Rydym wedi casglu at ei gilydd nifer o ddolenni gwefannau rhai o’r prif gyrff rhanbarthol (Wrecsam / Gogledd Cymru) a chenedlaethol sy’n ymwneud ag addysg grefyddol (CGM) a meysydd cysylltiedig yng Nghymru. Ceir dolenni hefyd i nifer o sefydliadau yn y DU yn ehangach a rhai Ewropeaidd.

Nod y rhestr hon yw cynnig mynediad hawdd i’r cyrff a ddewiswyd gyda disgrifiadau yn gosod pob un yn ei gyd-destun. Nid yw’n ceisio bod yn rhestr derfynol!

CYSAG Wrecsam

Mae ar bob Awdurdod Lleol yng Nghymru ddyletswydd statudol i sefydlu dau gorff statudol: Cynhadledd Sefydlog, sy’n cytuno ar y maes llafur lleol i addysg grefyddol, a Chyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG), sy’n goruchwylio ac yn sicrhau fod y maes llafur cytûn lleol yn cael ei weithredu.

Mae CYSAG Wrecsam, felly, yn cynghori’r awdurdod lleol ar faterion sy’n gysylltiedig ag addysg grefyddol statudol yn ogystal ag addoli ar y cyd yn ei ysgolion.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wrthi’n diweddaru ei wefan a’r manylion am GYSAG Wrecsam. Byddwn yn cynnwys y ddolen newydd pan fydd ar gael.

Gallwch lawrlwytho maes llafur cytûn diweddaraf Wrecsam i addysg grefyddol yma.

Gan fod addysg grefyddol ac addoli ar y cyd yn gyfrifoldebau ar yr awdurdod lleol, hwn ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf yn y materion hyn.

Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at yr ymgynghorydd pwnc arbenigol i GYSAG Wrecsam, Libby Jones.

Top

Cymdeithas CYSAGau Cymru

Mae Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol (CYSAGau) y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru yn aelodau o Gymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC). Pwrpas CCYSAGauC yw darparu fforwm i gyfnewid arfer da a chynrychioli nodau, gwaith a safbwyntiau’r CYSAGau sy’n aelodau ohoni. Gwneir hyn drwy:

  • aelod-GYSAGau yn anfon cynrychiolaeth i gyfarfodydd tymhorol CCYSAGauC;
  • trefnu cynlluniau a phrosiectau cenedlaethol perthnasol ym meysydd addysg grefyddol ac addoli ar y cyd;
  • siarad ar ran pob CYSAG yng Nghymru drwy ymgysylltu â chyrff ac asiantaethau perthnasol, yn cynnwys Llywodraeth Cymru;
  • coladu dogfennau CYSAG allweddol perthnasol;
  • cynnal perthynas weithio gyda chyrff cyfatebol yn Lloegr.

Top

Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol

Mae Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o’r prif fudiadau yng Nghymru sy’n ymwneud ag Addysg Grefyddol. Mae’r rhain yn cynnwys cynrychiolwyr o blith: y cynghorwyr/swyddogion/athrawon ymgynghorol/ymgynghorwyr sydd â chyfrifoldeb dros AG o bob Awdurdod Lleol, y sector Ysgolion Gwirfoddol Eglwysig; y sector Ysgolion Gwirfoddol Catholig, sefydliadau addysg uwch, cyrff arbenigwyr pwnc; CCYSAGauC, CBAC ac Estyn.

Un o nodau PYCAG yw rhoi cefnogaeth i’w aelodau drwy gyfarfodydd tymhorol a sicrhau fod yr aelodau’n gwybod am y datblygiadau pwysig diweddaraf sy’n effeithio ar addysg grefyddol (CGM) a meysydd cysylltiedig. Mae PYCAG yn cysylltu’n rheolaidd ac yn ymgynghorai i’r llywodraeth a mudiadau polisi eraill ar faterion sy’n ymwneud ag addysg grefyddol (CGM), ac yn gweithredu fel corff proffesiynol sy’n cefnogi gwaith CCYSAGauC.

Top

Hwb (Yr Uned Dysgu Digidol, Llywodraeth Cymru)

Hwb yw llwyfan canolog Llywodraeth Cymru, yn darparu gwybodaeth genedlaethol hanfodol am y cwricwlwm, adnoddau ac offerynnau ar-lein, a dysgu proffesiynol i ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Top

GwE

GwE yw Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru, ac mae’n gweithio ochr yn ochr ag Awdurdodau Lleol Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam.

Top

Y Gwasanaeth Addysg Gatholig (Cymru)

Mae Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig yn rhoi gwybodaeth am ysgolion Catholig yng Nghymru yn ogystal â manylion cyswllt Ymgynghorydd Addysg y Gwasanaeth yng Nghymru.

Top

Esgobaeth Gatholig Wrecsam

Mae Esgobaeth Gatholig Wrecsam yn gwasanaethu Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam, a Rhanbarth Trefaldwyn yn sir Powys. Ceir manylion yr ysgolion Catholig yn Esgobaeth Wrecsam.

Top

Yr Eglwys yng Nghymru, Addysg

Mae Canllawiau'r Eglwys yng Nghymru ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer eu hysgolion, adnoddau, a newyddion eraill ar y safle hwn.

Top

Esgobaeth Llanelwy (Addysg)

Mae Wrecsam yn rhan o Esgobaeth Llanelwy yr Eglwys yng Nghymru, sydd â chyfrifoldeb dros 51 o ysgolion eglwys yng ngogledd ddwyrain a chanolbarth Cymru. Gellir gweld manylion cyswllt ar gyfer tîm Addysg a Dysgu Gydol Oes Esgobaeth Llanelwy ar y safle hwn.

Top

Canolfan y Santes Fair, Cymru

Sefydliad ymchwil â’i wreiddiau yng Nghymru yw Canolfan y Santes Fair, Cymru, sy’n gweithio ym meysydd eang crefydd ac addysg. Mae’r Ganolfan yn cysylltu ymchwil ac ymarfer yng nghyd-destun yr eglwys a’r ysgol drwy ei adnoddau, seminarau a symposia, a rhaglenni sy’n datblygu ymarfer myfyriol yn seiliedig ar ymchwil.

Top

Estyn

Estyn yw arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru. Gellir gweld adroddiadau sy’n ymwneud ag addysg grefyddol ar y safle hwn.

Top

CBAC

Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) yw corff dyfarnu mwyaf Cymru. Gellir cael gwybodaeth, manylebau ac adnoddau ar gyfer Astudiaethau Crefyddol TGAU, UG/Safon Uwch CBAC ar y safle hwn.

Top

Cyngor Addysg Grefyddol Cymru a Lloegr

Mae Cyngor AG Cymru a Lloegr yn ei ddisgrifio’i hun fel a ganlyn:

“Cafodd Cyngor Addysg Grefyddol Cymru a Lloegr ei sefydlu ym 1973 i gynrychioli buddiannau cyfunol amrywiaeth eang o gymdeithasau proffesiynol a chymunedau ffydd yn y gwaith o ddyfnhau a chryfhau darpariaeth ar gyfer addysg grefyddol. Mae’n darparu fforwm aml-ffydd lle gall cyrff cenedlaethol sydd â diddordeb mewn cefnogi a hyrwyddo addysg grefyddol mewn ysgolion a cholegau rannu materion cyffredin.”

Mae’r cyrff sy’n aelod ohono yng Nghymru yn cynnwys: Cymdeithas CYSAGau Cymru; Adran Addysg yr Eglwys yng Nghymru; a Mudiad Addysg Grefyddol Cymru.

Top

Y Comisiwn Rhyng-Ewropeaidd ar yr Eglwys ac Ysgolion (ICCS)

Rhwydwaith yw hwn a grëwyd yn 1958, a’i nod yw darparu fframwaith ar gyfer cydweithio i fonitro a datblygu materion eglwys ac ysgolion yn Ewrop. Mae’n dwyn ynghyd gynrychiolwyr ac arbenigwyr o fyd ymchwil, ymarfer a pholisi sy’n gweithio ar grefydd ac addysg.

Yng Nghymru, mae Canolfan y Santes Fair a Chanolfan San Silyn yn gweithio’n agos gyda’r ICCS.

Top

Cymraeg