
Rhywfaint o hanes
Cafwyd gwasanaeth arbennig yn Eglwys Plwyf San Silyn, Wrecsam i nodi agoriad swyddogol Canolfan San Silyn ddydd Sadwrn, 14 Ionawr 2012, pryd y penodwyd Gavin Craigen, ymgynghorydd AG adnabyddus ac uchel ei barch yng Ngogledd Cymru, yn gyfarwyddwr sefydlol. Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr athrawon-ymgynghorwyr a chydweithwyr ‘datblygu ffydd’, ffurfiodd ac arweiniodd Gavin Ganolfan San Silyn yn ystod ei blynedd gyntaf ffurfiannol.
Mae Canolfan San Silyn wedi cael perthynas agos gydag Eglwys Plwyf San Silyn erioed a dangoswyd hyn reit o’r dechrau gyda phrosiect adeiladu uchelgeisiol o fewn yr eglwys ei hun, a luniwyd i letya a bod yn adnodd i ganolfan addysg grefyddol a datblygu ffydd (Canolfan San Silyn).
Pan oedd Canolfan San Silyn yn ganolfan ifanc, aeth i bartneriaeth gefnogol â Chanolfan y Santes Fair, Cymru oedd wedi’i hen sefydlu (sefydliad ymchwil Anglicanaidd) a daeth yn rhan o elusen Canolfan y Santes Fair a San Silyn. Yn 2016 roedd Canolfan San Silyn yn barod i gychwyn rhan nesaf y siwrne ar ei phen ei hun, y tu allan i’r strwythur trefniadol hwn.
Canolfan San Silyn heddiw
Tra’n aros yn agos at ei gwreiddiau, mae Canolfan San Silyn wedi ymateb yn rhagweithiol i newidiadau mewnol ac allanol, ac mae hyn wedi agor cyfleoedd newydd i’n gwaith ar gyfer Wrecsam. Heddiw, mae Canolfan San Silyn mewn cyfnod newydd a chyffrous o’i datblygiad, a gellir gweld cip o hyn drwy’r wefan a’r berthynas ddiweddar a sefydlwyd gyda Phrifysgol yr Esgob Grosseteste, Lincoln. Mae’r Brifysgol hon yn un o brifysgolion y Grŵp Cadeirlannau ac mae ganddi hanes cyfoethog o addysgu athrawon.
Er bod Canolfan San Silyn yn dal i fanteisio ar y cyfleusterau a grëwyd iddi y tu mewn i Eglwys Plwyf San Silyn, mae bellach wedi’i lleoli mewn adeilad arall (Tŷ’r Coleg) ar dir yr eglwys.
O’r dechrau, rydym wedi gwerthfawrogi gweledigaeth, nawdd a chefnogaeth Sefydliad Addysgiadol (Plwyfol) Wrecsam, a hebddo, ni fyddai dim o hyn yn bosibl.