
Mae addysg grefyddol/crefydd, gwerthoedd a moeseg yn rhan werthfawr o addysg dysgwyr, pan mae’n cael ei addysgu’n dda a’i gefnogi gan adnoddau o ansawdd uchel.
Er enghraifft, nid oes gan unrhyw bwnc arall yr un cyfle i baratoi dysgwyr at fywyd mewn byd amrywiol iawn (o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol). Mae AG/CGM hefyd yn herio dysgwyr i feddwl am y profiad dynol a’i ddehongli, y byd naturiol a’u lle nhw oddi mewn iddo. Gall gyfrannu at adeiladu gwytnwch emosiynol a meddyliol oherwydd ei fod yn ymdrin â meysydd cysylltiedig megis pwrpas ac ystyr mewn bywyd, chwilio, gwerthoedd, hunaniaeth, perthyn, perthnasau, ffynonellau awdurdod, gwneud penderfyniadau, bywyd a marwolaeth. Ar ben hynny, mae gan AG/CGM lawer i’w gynnig i ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y dysgwyr.
Gallwn gysylltu’r enghreifftiau hyn i gyd â’r anghenion a’r blaenoriaethau addysgol yma yn Wrecsam.
Mae’n ofynnol ar i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru ddarparu addysg grefyddol (CGM) statudol i’w dysgwyr, a beth bynnag eich lleoliad, dylai AG/CGM fod yn wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol.
Mae’r adran hon ar adnoddau addysg grefyddol yn cynnig mynediad am ddim i adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel i wahanol grwpiau oedran, yn ogystal â gweminarau.