Mae gan Ganolfan San Silyn ddau aelod o staff craidd, sef Libby Jones a Tania ap Siôn. Mae Libby a Tania yn cychwyn ac yn datblygu prosiectau cwricwlwm ac ymchwil, yn ogystal â gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr eraill ym meysydd addysg ac AG/CGM yng Nghymru, y DU ac Ewrop.

Libby Jones
Mae Libby Jones yn Athrawes Ymgynghorol dros Addysg Grefyddol yn Wrecsam, yn cael ei chyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae hi’n arbenigo yn y Dyniaethau ac Addysg Grefyddol. Mae ganddi Radd Anrhydedd yn y Dyniaethau o Brifysgol Birmingham, TAR Addysg Grefyddol Uwchradd o Brifysgol Coventry, ac MA mewn Crefydd ac Addysg o Brifysgol Cymru. Mae gan Libby dros 20 mlynedd o brofiad dysgu, ac am y rhan fwyaf o’r amser hwnnw bu’n dysgu addysg grefyddol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae Libby’n lleol i Ogledd Ddwyrain Cymru ac yn cefnogi grwpiau rhyng-ffydd a grwpiau sy’n gysylltiedig ag AG yn lleol ac yn genedlaethol. Mae hi hefyd yn aelod gweithgar o fudiadau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n ymwneud ag addysg grefyddol, ac ar hyn o bryd mae hi’n cynghori ac yn cefnogi Llywodraeth Cymru ar ddatblygu Addysg Grefyddol yn y Cwricwlwm i Gymru 2022. Bu Libby’n gweithio yng Nghanolfan San Silyn ers ei sefydlu yn 2012.

Tania ap Siôn
Mae Tania ap Siôn yn arbenigwr addysg grefyddol a diwinydd o Ogledd Cymru sydd wedi bod yn gweithio ym maes addysg grefyddol ers dros 25 mlynedd, yn arwain a datblygu rhaglenni ar lefel BA, BEd, Ma TAR lefel cynradd ac uwchradd, yn ogystal â lefel gradd ymchwil. Bu’n dal swyddi academaidd yng Nghymru a Lloegr, yn cynnwys prifysgolion Bangor, Glyndŵr, Warwick, ac ar hyn o bryd (fel Darllenydd Crefyddau, Dyniaethau ac Addysg) ym Mhrifysgol yr Esgob Grosseteste. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Gweithredol Anrhydeddus Canolfan y Santes Fair Cymru. Fel ymchwilydd gweithgar mewn crefydd ac addysg ac yn aelod o gymdeithasau academaidd a phroffesiynol cenedlaethol a rhyngwladol sy’n ymdrin â chrefydd, addysg a gwerthoedd, mae hi’n cydnabod pwysigrwydd cysylltu ymchwil ag ymarfer addysgol. Mae Tania wedi creu adnoddau cwricwlwm ar gyfer AG cynradd ac uwchradd yng Nghymru ac wedi bod yn ymwneud â datblygu AG yn y Cwricwlwm i Gymru 2022. Bu’n cydweithio â Chanolfan San Silyn ers ei ddechreuad, ac ym mis Hydref 2020, daeth Tania yn aelod craidd o’r staff yn y Ganolfan mewn partneriaeth â Phrifysgol yr Esgob Grosseteste.