Adnoddau ar-lein i ddysgwyr 16+
Mae Canolfan San Silyn yn adnabod ac yn creu adnoddau yn ôl yr hyn sydd ei angen yma yn Wrecsam. I ddysgwyr 16+, mae hyn yn canolbwyntio ar Astudiaethau Crefyddol UG/Safon Uwch.
Ewch i’n tudalen gweminar i gael gwybod am y gweminarau sydd ar gael yn nhymor y gwanwyn 2021 ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn Astudiaethau Crefyddol UG/Safon Uwch.
Herio Materion Crefyddol
Cyfnodolyn i fyfyrwyr ac athrawon Astudiaethau Crefyddol UG a Safon Uwch yw Herio Materion Crefyddol. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i unrhyw un sy’n dymuno datblygu neu loywi eu gwybodaeth am y pwnc.
Cefndir
Roedd Canolfan San Silyn yn rhan o’r syniad gwreiddiol am y cyfnodolyn ynghyd â Chanolfan y Santes Fair. Yn wreiddiol roedd yn adnodd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ond bellach caiff ei noddi gan y St Peter’s Saltley Trust. O Ganolfan San Silyn, Tania ap Siôn yw’r Rheolwr-Olygydd ac mae Libby Jones yn Gynghorydd Golygyddol i’r cylchgrawn.
Cynnwys
Cyhoeddwyd dros 65 o erthyglau cyfnodolyn mynediad agored hyd yma. Gallwch bori drwy deitlau’r erthyglau a’r crynodebau sydd ar y dudalen hon, lle cewch hefyd fynediad uniongyrchol i rifynnau o’r cyfnodolyn.
Mae’r cyfnodolyn yn cynnwys nifer o nodweddion allweddol:
- erthyglau wedi’u hysgrifennu gan ysgolheigion amlwg ac ymarferwyr;
- mae’r erthyglau yn cysylltu’n glir â manylebau ac opsiynau Astudiaethau Crefyddol Lefel A;
- mae’r erthyglau’n rhyngweithiol drwy ddefnyddio ‘pwyntiau trafod’ a dolenni byw i wefannau allanol perthnasol.
Mae pob rhifyn ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae Canolfan San Silyn wedi noddi a rheoli’r fersiwn Gymraeg o rifyn 14 ymlaen.
Arolwg adborth
Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig funudau yn llenwi arolwg ‘adborth’ i’r adnodd hwn. Bydd yn ein helpu i ddeall sut mae’r adnoddau’n cael eu defnyddio a’u heffaith ar athrawon a dysgwyr.
Llenwch yr arolwg adborth fan hyn.
Issue 19 (2022)
Y Salmau fel Arweiniad i Fywyd Cristionogol gan Francis Loftus
Mae’r erthygl hon yn cynnig cyflwyniad i’r Salmau a’u lle o fewn y traddodiad beiblaidd. Mae’n codi rhai materion ynghylch y ddealltwriaeth o Dduw sy’n deillio o’r Salmau, pa brofiadau crefyddol y gellir eu dirnad ynddynt a sut y defnyddir eu hiaith grefyddol. Yna ceir esboniad manylach ar rannau o ddwy Salm a golwg ar y ffordd y mae Cristnogion yn defnyddio’r Salmau mewn addoliad a gweddi ar y cyd, ac a ydynt yn gwasanaethu fel canllaw ar gyfer bywyd Cristnogol.
Ymgysylltiad Eschatolegol Cristnogol â Llyfr y Datguddiad: O’r Apocalyps i ddiffyg Milflwyddiaeth gan Dr Joseph Powell
Mae Llyfr y Datguddiad yn cynnig rhai o’r darluniau mwyaf graffig o farn danllyd a osodwyd i ddymchwel y ddynoliaeth ar bwynt amhenodol yn y dyfodol. Mae’r delweddau hyn yn ddisgrifiad byw o’r cyd-destun y deilliodd y Datguddiad ohono ac maent wedi cyflwyno llawer i Gristnogion yn y canrifoedd dilynol i’w ystyried ynglŷn â sut i’w perthnasu â’u hoes eu hunain. Mae'r erthygl hon yn edrych ar y cyfnod hwn pan ymddangosodd y Datguddiad a’r dehongliadau dilynol ohono.
Diwinyddiaeth Proses-Gysylltiedig gan Dr Wm. Andrew Schwartz
Mae safbwyntiau Groegaidd yr Henfyd ar sut le yw’r byd wedi bod yn sylfaen i safbwyntiau Cristnogol clasurol ar sut un yw Duw. Yn anffodus, mae’r bydolwg hwn yn hen ffasiwn ac wedi cyfrannu at ddiwinyddiaeth gymysglyd sy’n fwyfwy annerbyniol i genedlaethau ifanc. Os yw Cristnogaeth yr 21ain ganrif i barhau i gymell, bydd angen iddi fynegi barn am Dduw sy’n gyson â mewnwelediadau gwyddonol modern, profiadau personol a greddfau sylfaenol. Bydd gwneud hynny yn gofyn am sylfaen athronyddol newydd – dewis arall i fydolwg Groeg yr Henfyd. Dyna beth mae diwinyddiaeth sy’n ymwneud â phroses yn ceisio’i wneud. Mae’r ysgrif hon yn cynnig trafodaeth fer ar theistiaeth glasurol a chyflwyniad i’r safbwynt proses-berthynol o Dduw.
James Lovelock a Damcaniaeth Gaia gan yr Athro Jeff Astley
Mae James Lovelock ac eraill wedi dadlau bod bywyd biolegol ar y Ddaear yn effeithio ar amodau ffisegol a chemegol yr atmosffer, cefnforoedd a newidynnau amgylcheddol eraill, mewn ffordd sy’n cadw’r amgylchedd yn gyson ac mewn cyflwr cyfforddus am oes. Mae’r erthygl hon yn archwilio ac yn beirniadu’r ‘ddamcaniaeth Gaia’ hon.
Moesoldeb Maddeuant gan yr Athro Anthony Bash
Mae maddeuant wedi dod yn destun trafodaeth ymhlith diwinyddion ac athronwyr cyfoes. Mae'r erthygl hon yn edrych ar le drwgdeimlad mewn maddeuant, beth nad yw maddeuant a thri math gwahanol o ymateb y mae pobl yn eu galw’n ‘faddau’. Mae pob un o’r ymatebion yn cael eu gwerthuso.
Ymwybyddiaeth Ofalgar a’r Teulu (McMindfulness) gan Phra Nicholas Thanissaro
Mae ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) a myfyrio yn rhan o’r ffordd y mae Bwdhyddion yn ffurfio ac yn mynegi eu hunaniaeth grefyddol. Mae ymwybyddiaeth ofalgar wedi dod yn fwy ‘prif ffrwd’ yn ddiweddar yn y gymdeithas Orllewinol fel therapi ar gyfer anhwylderau iechyd penodol ac hefyd i hyrwyddo lles personol – gan arwain at ddealltwriaeth o ymwybyddiaeth ofalgar sy’n cyferbynnu ag un Bwdhyddion traddodiadol. Yn yr ysgrif hon ceisir disgrifio tri cham addasu ymwybyddiaeth ofalgar yn y Gorllewin, gan ddangos sut mae myfyrdod ac ymwybyddiaeth yn cael eu deall yn fwy traddodiadol, y tensiynau y mae ymwybyddiaeth ofalgar ‘fasnachol’ wedi’u creu i’r gymuned ymarferwyr Bwdhaeth traddodiadol, a’r ffyrdd amrywiol y cafodd y rhain eu datrys yn y presennol.
Beth all Cyfrifiad 2021 ei Ddweud wrthym Mewn Gwirionedd am Gyfansoddiad Crefyddol Cymru a Lloegr? gan yr Athro Leslie J. Francis
Mae’r erthygl hon yn tynnu ar y prif ystadegau o’r cwestiwn am grefydd yng nghyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr er mwyn archwilio’r hyn y gellir a’r hyn na ellir ei gasglu o’r ystadegau hyn, ac i archwilio pam mae’r cwestiwn am grefydd yn parhau i fod yn rhan bwysig o fapio ‘cyflwr cymdeithasol a sifil’ y boblogaeth yn yr 21ain ganrif. Mae cynnwys y cwestiwn hwn yn y cyfrifiad yn dystiolaeth o arwyddocâd cyhoeddus parhaus crefydd.
Rhifyn 18 (Gwanwyn 2021)
Gweinidogaeth Gyhoeddus Iesu. Rhan 1: Geiriau a Gweithredoedd gan Dr James M. M. Francis
Mae’r erthygl ddwy ran hon yn cyflwyno adroddiad beirniadol o’r hyn a wyddom am weinidogaeth Iesu o’i fedydd tan ei groeshoeliad. Ni cheir awgrym o drefn hanesyddol i’r digwyddiadau hyn a gan mwyaf mae’n dibynnu ar dystiolaeth yr Efengylau Synoptig. Fodd bynnag, mae’r efengylau’n dangos y gallwn wybod llawer am natur hanesyddol gweinidogaeth Iesu. Mae rhan un yn edrych ar ei bregethu a’i ddysgeidiaethau, ei wyrthiau a’r enwau roedd yn cael eu galw.
James Lovelock a Damcaniaeth Gaiaweinidogaeth Gyhoeddus Iesu. Rhan 2: Gwrthodiad ac Ymatebion gan Dr James M. M. Francis
Mae ail ran y myfyrdod hwn ar weinidogaeth gyhoeddus Iesu yn canolbwyntio ar yr amgylchiadau a arweiniodd at dreial Iesu a’i groesholiad dilynol. Mae’r cyd-destunau hyn yn gyfuniad o’r crefyddol a’r gwleidyddol, na fyddai wedi gallu cael eu gwahanu’n hawdd yn ei ddydd, cyfuniad sy’n dal yr un fath mewn rhai rhannau o’r byd heddiw.
Beirniadaeth Hume o’r Ddadl o (i) Ddyluniad. Rhan 1 gan Dr L. Philip Barnes
Mae’r erthygl hon, sydd mewn dwy ran, yn crynhoi beirniadaethau dylanwadol Hume o’r ddadl dyluniad i gefnogi cred yn Nuw.
Beirniadaeth Hume o’r Ddadl o (i) Ddyluniad. Rhan 2 gan Dr L. Philip Barnes
Mae’r erthygl hon, sydd mewn dwy ran, yn crynhoi beirniadaethau dylanwadol Hume o’r ddadl dyluniad i gefnogi cred yn Nuw.
Ystyried Effaith Covid-19 ar Gristnogaeth yn y DU: Cyfle neu Her? gan yr Athro Leslie J. Francis a'r Athro Andrew Village
Mae’r erthygl hon yn myfyrio ar beth all fod effaith debygol Covid-19 ar arweinwyr eglwysig (clerigwyr), aelodau o’r eglwys (eglwyswyr) a’r dyfodol cyhoeddus gweladwy i eglwysi. Mae’n cynnig pum damcaniaeth am yr effaith.
Asesu Effaith Covid-19 ar Gristnogaeth yn y DU: Cyfle neu Her? gan yr Athro Leslie J. Francis a'r Athro Andrew Village
Mae’r erthygl hon yn tynnu ar ganfyddiadau arolwg ar-lein, oedd yn fyw rhwng 8 Mai a 23 Gorffennaf 2020, a luniwyd i asesu effaith Covid-19 ar arweinwyr eglwysig (clerigwyr) ac aelodau eglwysi (eglwyswyr). A oedden nhw’n teimlo fod y pandemig wedi cynnig cyfle neu heriau i ddyfodol eu heglwysi?
Rhifyn 17 (Hydref 2020)
Y Goeden Deulu: Pwy yw’r Baban Iesu? gan Dr John Holdsworth
Mae penodau cyntaf Efengyl Mathew yn ffordd arddulliedig o adnabod Iesu, yn ôl y traddodiadau cydnabyddedig. Mae hyn yn arbennig o wir am y bennod gyntaf nad yw’n cael fawr o sylw, sy’n sôn am ei linach. Er mwyn gwerthfawrogi’r Efengyl yn llawn, mae angen i ni ddadansoddi’r adran hon, gan gofio pwy oedd cynulleidfa wreiddiol yr Efengyl. Caiff Iesu ei gyflwyno fel mab i Abraham, mab i Ddafydd, a’r Meseia, y mae ei ddyfodiad ar adeg addawol ar fin gosod cyfeiriad newydd yn hanes crefydd.
Crefydd yn mynd yn Feiral: Ffydd a Chred mewn Pandemig gan yr Athro Martyn Percy
Mae’r erthygl hon yn rhoi trosolwg o hanes clefydau pandemig – yr effaith amlwg ar gyfraddau marwoldeb ac amodau byw, a’r dymuniad dilynol am drefn wleidyddol a chymdeithasol newydd gydag ailddosbarthu grym a chyfoeth – a sut mae hyn yn croestorri â theodiciaeth. Mae’r erthygl yn edrych ar ddealltwriaethau’r ysgrythur o sut mae clefydau pandemig yn ffurfio ffydd ac yn ennyn y syniad o ‘grefydd feiral’ gan ddangos y dyngarwch sydd yn gweld y tu hwnt i ystadegau.
Stephen Hawking a Bydysawd heb Dduw? gan yr Athro David Wilkinson
A yw hanes gwyddonol am darddiad y Bydysawd yn diystyru, neu o leiaf yn tanseilio, yr honiad crefyddol mai Duw yw creawdwr y bydysawd? Mae gwaith y ffisegydd Stephen Hawking yn aml yn cael ei ddyfynnu fel tystiolaeth dros hyn. Mae’r erthygl hon yn edrych ar waith Hawking ac yn awgrymu ei bod yn bwysig fod trafodaeth ddiwinyddol yn herio rhai dadleuon ynglŷn â bodolaeth Duw, ac ar yr un pryd yn codi cwestiynau buddiol.
A yw Sail Enetig Bywyd ar y Ddaear yn gwneud Bywyd ar ôl Marwolaeth yn Beth Amhosibl?gan C. Mark Harrison
Crëwyd yr erthygl hon i ddechrau mewn ymateb i gwestiwn o bapur sampl Safon Uwch athroniaeth crefydd. Y cwestiwn oedd ‘Aseswch yn feirniadol honiad Dawkins, gan nad yw bywyd yn fwy na DNA yn atgynhyrchu ei hun, ni all fod bywyd ar ôl marwolaeth. Mae’n codi cwestiynau am syniadau Richard Dawkins, rhydwythiaeth fiolegol a phwnc astrus a heriol bodolaeth ar ôl marwolaeth.
Ar Fwdhaeth a Thrais gan Phra Nicholas Thanissaro
Gall pobl o’r tu allan synnu i weld Bwdhyddion yn cymryd rhan mewn rhyfeloedd neu’n cymeradwyo byddinoedd sefydlog a gorfodaeth filwrol yn eu gwledydd. Mae’r erthygl hon yn darlunio symudiad hanesyddol ym meddylfryd Bwdhyddion am drais, o heddychiaeth y cyfnod cynnar, drwy amddiffyn a chyfiawnhau trais yn ddiweddarach, i gyfnod diweddar o drais a ffiwdaliaeth. Amlinellir chwe esgus a ddefnyddir gan Fwdhyddion i gyfiawnhau eu hanes amherffaith ar drais, ynghyd â gwrth-ddadleuon.
Rhai Tueddiadau mewn Eco-ddiwinyddiaeth gan Dr Samuel Tranter
Mae’r erthygl yn cynnig trosolwg o rai tueddiadau mewn eco-ddiwinyddiaeth (ecotheology). Mae’n cyflwyno’r darllenydd i feddylwyr allweddol, sy’n arddel ystod o wahanol safbwyntiau, ac i nifer o gysyniadau craidd yn y drafodaeth gyfoes. Mae’r casgliad yn dangos rhai ffyrdd lle nad yw diwinyddiaeth Gristnogol wedi damcaniaethu’n unig am foeseg amgylcheddol, ond wedi bod yn sail i weithgaredd amgylcheddol ymarferol.
Rhifyn 16 (Gwanwyn 2020)
Dieithriaid: Eglwyseg ac 1 Pedr gan Dr John Holdsworth
Yn 1981 gwelwyd dechreuad cyfeiriad newydd yn astudiaeth 1 Pedr, a oedd fel pe wedi cyrraedd lle amhosibl cyn hynny. Mae astudiaethau cymdeithasol gan Elliott a Goppelt wedi mapio ffordd newydd ymlaen sydd wedi helpu i dynnu sylw at ddiwinyddiaeth 1 Pedr, ac yn arbennig ei eglwyseg, ac sydd wedi helpu i ail-ddiffinio astudiaeth eglwysegol. Cynigiodd hyn bosibilrwydd deongliadol newydd hefyd.
Y Geni a’r Croeshoeliad mewn Celf Gristnogol: Gweld, Dehongli ac Addoli gan Dr Bridget Nichols
Mae’r erthygl hon yn trafod rôl celf Gristnogol mewn ffurfio hunaniaeth Gristnogol a phatrymau defosiwn, gan ganolbwyntio ar enedigaeth Crist a’i groeshoeliad.
Y Meddwl, yr Ymennydd a’r Enaid sy’n Uno gan Dr Mark Graves
Mae’r erthygl yn rhoi trosolwg o ddatblygiad hanesyddol y cysyniad o’r enaid mewn athroniaeth a diwylliant Gorllewinol, ac yng nghyd-destun safbwyntiau gwyddonol cyfoes.
Crefydd Ymhlyg: Ymagwedd Newydd at Astudio Crefydd? gan Dr Francis Stewart
Mae’r erthygl yn dadlau mai un newid a wnaed i astudiaeth crefydd drwy ddatblygiad y thesis seciwlareiddio, a’i fethiant yn y pen draw, oedd ymagwedd newydd a oedd yn ceisio ateb y cwestiwn, ‘Beth yw crefydd seciwlar?’ Yr ymagwedd hon oedd Crefydd Ymhlyg, y mae ei tharddiad, ei natur a’i harwyddocâd yn cael ei thrafod yma.
Dirgelwch Anhraethol Duw? gan yr Athro Jeff Astley
Mae’r erthygl yn ystyried cysyniadau am anhraetholdeb, trosgynoldeb a dirgelwch Duw, gan gyfeirio’n arbennig at y profiad crefyddol ac iaith grefyddol.
Gwnaed ar Ddelw Duw: Profiad Merch ag Anabledd yn Nigeria gan Jessie Fubara-Manuel a Dr Elijah Obinna
Mae’r erthygl hon yn trafod y datganiad Cristnogol fod dynoliaeth (gyda neb heb anableddau) wedi’i gwneud ar ddelw Duw. I bobl anabl mae’r datganiad hwn yn gysur a gallai fod yn sail i siwrne dorfol cymdeithas tuag at gydraddoldeb, urddas a chyfiawnder i bob unigolyn.
Rhifyn 15 (Hydref 2019)
Mae’r rhifyn arbennig hwn, ar bynciau o’r drafodaeth gwyddoniaeth/crefydd, wedi bod yn bosibl drwy gymorth grant gan Sefydliad John Templeton, UDA.
Technoleg a’r Natur Ddynol gan Dr Adam Willows
Mae’r erthygl hon yn adolygu rhai o’r trafodaethau diwinyddol am dechnoleg sy’n datblygu. Mae’n trafod sut mae technolegau newydd yn codi cwestiynau am ein dealltwriaeth o’r natur ddynol, a sut gallai ymatebion diwinyddol gwahanol ddelio â’r cwestiynau hyn.
Esblygiad a’r Ddadl o (neu i) Gynllun gan yr Athro Jeff Astley
Mae’r erthygl yn crynhoi effaith y mecanwaith a gynigir gan Darwin am esblygiad ar y ddadl ddyluniad dros fodolaeth Duw.
Stiwardiaeth y Greadigaeth gan yr Athro Andrew Village
Mae’r traddodiad Iddewig-Gristnogol wedi cael ei feio i raddau am greu agwedd tuag at yr amgylchedd sy’n ei weld fel rhywbeth i fodau dynol dra-arglwyddiaethu arno a manteisio arno er eu budd nhw. Mae hefyd yn pwysleisio’r syniad fod pobl yn ‘stiwardiaid’ y greadigaeth, wedi cael y gwaith o edrych ar ôl y blaned dros Dduw. Ond beth yw ystyr stiwardio’r greadigaeth? Mae’r erthygl hon yn disgrifio dwy enghraifft o’r ffordd y mae gweithgarwch dynol wedi ffurfio cynefinoedd gwahanol ac wedi cael effeithiau cymhleth ar yr adar sy’n byw yno.
Meddwl am fod yn Ddynol mewn Bydysawd o Estroniaid gan yr Athro David Wilkinson
Un o bynciau llosg gwyddonol mwyaf ein cenhedlaeth yw’r Ymchwil am Ddeallusrwydd Allfydol (Search for Extraterrestrial Intelligence neu SETI). Mae’r cwestiwn a ydym ar ein pennau ein hunain yn y bydysawd wedi cyfareddu’r cyfryngau a’r cyhoedd ers tro ac wedi ennyn diddordeb newydd wrth i ecsoblanedau gael eu darganfod, gyda nifer bach ohonynt â nodweddion tebyg i’r Ddaear. Mae darganfod bywyd yn rhywle arall yn y bydysawd, yn enwedig os yw’n ddeallus, yn codi cwestiynau mawr i’r ffydd Gristnogol mewn meysydd fel y creu, ymgnawdoliad, iachawdwriaeth a natur beth mae’n ei olygu i fod yn ddynol.
Ydi’r Greadigaeth yn Gyflawn? Trafodaeth ar Greadigaeth Barhaus gan Timothy Wall
Mae’r erthygl yn archwilio’r syniad fod y greadigaeth yn anghyflawn, drwy’r cysyniad o greadigaeth barhaus. Mae hyn yn codi o’r byd dynamig fel y disgrifir gan wyddoniaeth ac yn y Beibl, ond dadleuir ei fod yn ddiffygiol yn y bôn, yn wyddonol ac yn ddiwinyddol. Yn ei hanfod mae’n broblem dweud fod y greadigaeth yn anghyflawn oherwydd nid yw’n caniatáu dim toriad rhwng creadigaeth a chreadigaeth newydd. Mae’r erthygl yn awgrymu y gall barn am greadigaeth wedi’i gwreiddio yng Nghrist ganiatáu i ni ddweud fod creadigaeth yn gyflawn ac yn ddynamig.
Rhifyn 14 (Hydref 2018)
Yr Iawn: Profiad, Stori, Damcaniaeth? gan yr Athro Jeff Astley
Mae’r erthygl hon yn archwilio statws hanesion Cristnogol am yr iawn, yn cynnwys cyfeiriad at ‘wrthrychedd’ a ‘goddrychedd’.
Crefydd a Diwylliant Poblogaidd gan yr Athro Clive Marsh
Mae helpu myfyrwyr i ddeall sut mae crefydd ‘a’ diwylliant poblogaeth yn cysylltu yn codi cwestiynau pryfoclyd o’r cychwyn. Mae’r gair ‘a’ yn awgrymu eu bod ar wahân, fel pe nad oes dim crefydd mewn diwylliant poblogaidd, a bod crefydd rywsut ar wahân i ddiwylliant. Felly, gellir cymryd fod diwylliant poblogaidd yn ‘seciwlar’ neu (hyd yn oed yn waeth) yn niwtral o safbwynt crefydd neu werthoedd. O ongl arall, gall diwylliant poblogaidd ymddangos yn fwy diddorol (neu’n fwy difyr) na chrefydd – yn enwedig i fyfyrwyr anghrefyddol. Neu gellid barnu ei fod yn tynnu sylw neu’n beryglus i fyfyrwyr crefyddol, neu i fyfyrwyr o deuluoedd crefyddol sy’n ymgodymu â’r tensiwn, a’r gwahaniaeth llwyr, rhwng ‘bywyd gartref’ a ‘bywyd yn yr ysgol/coleg’. Yn yr erthygl hon rwyf yn cynnig myfyrdodau syml ac awgrymiadau ar gyfer mynd i’r afael â materion o’r fath, gan fy mod yn teimlo’n bendant ei bod yn hollbwysig i fyfyrwyr fod yn edrych yn ofalus ar y berthynas – ffrwythlon ac adeiladol ond sydd hefyd yn creu straen a phroblemau – rhwng y ddau ‘fyd’ yma.
‘Impersonating Beyoncé is Not Your Destiny, Child’: Myfyrdodau ar Ddiwinyddiaeth Ffeministaidd gan Dr Hayley Matthews
Mae’r erthygl hon yn edrych ar yr ystod o safbwyntiau diwinyddol Cristnogol ar rywedd (gender).
Richard Swinburne ar yr Enaid gan yr Athro Jeff Astley
Mae’r erthygl yn crynhoi amddiffyniad Swinburne o ddeuoliaeth sylwedd, a’i gyfrif ef o fywyd ar ôl marwolaeth a hunaniaeth bersonol.
Rhifyn 13 (Haf 2018)
Anffyddiaeth Newydd gan yr Athro David Wilkinson
Yn yr erthygl hon, trafodir prif gynigwyr a dadleuon anffyddiaeth newydd gan gyfeirio at eu cryfderau a'u gwendidau penodol ac at ffurfiau cynharach o anffyddiaeth.
Islam a Democratiaeth: A Ydyn Nhw'n Cydweddu Neu’n Anghymharus? Rhan 2: Dadleuon o Blaid ac yn Erbyn gan Dr Abdullah Sahin
This article follows from the author’s analysis of the background to the relationship between Islam and secular democracy, and the problems it raises (in Challenging Religious Issues, Issue 12). The present article details the arguments both for and against the claim that Islam can be reconciled with modern secular democracy.
Rhai Damcaniaethau Anwybyddol ynghylch Moesoldeb gan yr Athro Jeff Astley
Mae'r erthygl yn rhoi ystyriaeth feirniadol ar y damcaniaethau meta-foesegol anwybyddol o emosiynaeth a mynegiannaeth.
Profiad Crefyddol trwy Gelf gan Dr Daniel Moulin-Stozek
This article introduces and explores religious experience through the example of Bernini’s sculpture, The Ecstasy of St Teresa.
Rhifyn 12 (Gwanwyn 2018)
Rudolf Otto ar Brofiad Nwmenaidd gan yr Athro Jeff Astley
The article describes Rudolf Otto’s analysis of religious experience and lists some criticisms of it.
A Oedd Jung yn Gywir: A yw Crefydd yn dda ar Gyfer lles Seicolegol Pobl Gyffredin? gan yr Athro Leslie J Francis
Mae’r erthygl yn tynnu ar wyddor empirig seicoleg crefydd er mwyn profi’r gosodiad bod crefydd yn dda i les seicolegol pobl gyffredin. I wneud hynny, mae’r erthygl yn trafod y problemau cymhleth o gysyniadoli a gweithredoli crefydd a lles cyn canolbwyntio ar werthuso’r dystiolaeth.
Islam a Democratiaeth: A Ydyn Nhw'n Cydweddu Neu’n Anghymharus? Rhan 1: Cefndir a Materion gan Dr Abdullah Sahin
Mae’r erthygl yn cyflwyno cefndir i’r berthynas rhwng Islam a democratiaeth seciwlar, a’r materion a godir gan astudiaeth o’r fath.
Iwtilitariaeth a Moeseg Ddiwinyddol gan Samuel Tranter
Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng ymagweddau iwtilitaraidd a diwinyddol tuag at foeseg, gan gyflwyno’r darllenydd i rywfaint o ysgolheictod cyfoes ar y cwestiwn hwn a dangos yr hyn a allai fod yn y fantol trwy ganolbwyntio ar dri phwnc moesegol.
Rhifyn 11 (Hydref 2017)
Ian Ramsey ar Iaith Grefyddol gan yr Athro Jeff Astley
Mae'r erthygl hon yn arolygu'n feirniadol yr ystyriaeth o iaith grefyddol ddisgrifiadol a ddarparwyd gan Ian T. Ramsey.
Protestaniaid a Chyfraith Naturiol: Gwrthod ac Adferiad gan Samuel Tranter
Mae'r erthygl hon yn archwilio tueddiad diweddar mewn moeseg: y tro gan feddylwyr Protestannaidd tuag at gyfraith naturiol. Mae'n ystyried pryderon Protestannaidd nodweddiadol am ymagweddau cyfraith naturiol tuag at foesoldeb, cyn ymchwilio i rai elfennau o adferiad diweddar.
Naratifau Cynharaf am y Pasg gan Dr James Francis
Yn dilyn trosolwg cyd-destunol cryno, mae'r erthygl hon yn archwilio rhai mewnwelediadau allweddol o'r ddau safbwynt cynharaf o'r Testament Newydd ar yr Atgyfodiad gan Paul a Marc.
Thomas Aquinas ac Achos Cyfiawn dros Ryfel gan Dr Emily Pollard
This article discusses Thomas Aquinas’ definition of a just cause for war, and offers criticisms of his argument.
Rhifyn 10 (Gwanwyn 2016)
William James ar brofiad crefyddol gan yr Athro William K Kay
Mae'r erthygl hon yn ystyried y drafodaeth ar brofiad crefyddol y seicolegydd a'r athronydd Americanaidd, William James (1842-1910), a gyhoeddodd ei lyfr The Varieties of Religious Experience yn y flwyddyn 1902.
Addoli: Derbyn, Datblygu a Byw Traddodiad gan Bridget Nichols gan Dr Bridget Nichols
Mae'r erthygl yn ystyried addoli fel gweithred sy’n amlwg yn un a rennir, sydd â'i ffurfiau yn adrodd llawer am y modd y mae cymunedau yn dirnad Duw. Yn ogystal ag edrych hefyd ar yr Ysgrythur a thraddodiad fel y prif ffynonellau ar gyfer patrymau addoliad, mae'n myfyrio ar y ffordd y mae'r llinynnau hyn yn cael eu hamsugno yn y cyd-destun o fyw. Mae hyn yn cymryd gwahanol ffurfiau mewn gwahanol gymunedau Cristnogol. Mae rôl addolwyr fel dehonglwyr, a rôl y corff mewn addoliad yn destunau pwysig yn y datblygiad hwn.
Y Ddadl ynghylch Goleuedigaeth mewn Bwdhaeth Gynnar gan Phra Nicholas Thanissaro
Fierce historical debates surround the concept of ‘true self’ in Buddhism and its relevance to enlightenment. Opponents of the concept consider ‘true self’ an impostor derived from a Hindu worldview. The article presents ‘true-self’ or Buddha-nature as a possible key to understanding the differences between the nature of phenomena in the cycle of existence and Nirvana.
Y Diwygiadau: Ynadol a Radical gan Paul Wilson
Mae'r erthygl hon yn cyferbynnu'r Diwygiad Protestannaidd â'r Diwygiad Radical (Ailfedyddiaeth).
Rhifyn 9 (Hydref 2015)
Ymdrin â Mudiadau Crefyddol Newydd gan Dr Richard Bartholomew
This article suggests that New Religious Movements should be understood as responses to the structure and knowledge of the modern world. It explains that ‘alternative’ religious beliefs and ideas can be found in individualised contexts as well as in formal groups, and argues for a balanced approach to whether particular NRMs are socially problematic. It further argues that NRMs should not be ‘exoticised’, and that they are of interest because of the insights they can offer into religion more generally.
John Hick’s Philosophy of Religion gan yr Athro Jeff Astley
The article critically surveys some elements of John Hick’s thought.
Iesu Hanes a Christ y Ffydd gan Dr Peter Watts
This article explores how much we can know about the historical figure of Jesus and outlines the way that a ‘Jesus of history’ arose as distinct from the church’s ‘Christ of faith’ at the time of the Enlightenment. After discussing the implications of this division for Christianity, the article looks at whether it is possible to bring the Jesus of history and the Christ of faith back together within our typical twenty-first century understanding of what is historical and what is not.
Pum Piler Islam a'u Harwyddocâd mewn Cymdeithas Fodern by Dr Declan O’Sullivan
Mae'r erthygl hon yn diffinio pum piler Islam, gan nodi eithriadau dilys ar gyfer Mwslim defosiynol pryd y caiff ohirio eu cynnal nhw, yn seiliedig ar amgylchiadau penodol sy'n codi yng nghyd-destun y byd seciwlar modern y mae Mwslimiaid hefyd yn byw o’i fewn.
Rhifyn 8 (Haf 2015)
Bywyd Tragwyddol fel Meddiant Presennol gan Dr Mikel Burley
This article examines the contention, made by some Christian theologians, that ‘eternal life’ is best understood to mean not a life that goes on forever, but a characteristic of, or perspective upon, the finite life that each of us is now living. It includes a tentative suggestion that certain ideas in theoretical physics and the philosophy of time are comparable to this contention.
Kant ar Dduw a'r Da: Gobeithio am Hapusrwydd gan yr Athro Christopher Insole
Kant holds that we should be moral simply because it is the right thing to do, and not because it will bring us good consequences. At the same time, he argues that we should believe in God, as only God can bring it about that being moral leads to happiness. Is there a contradiction here? The article argues that there is not, and that when we understand what ‘being good’ means for Kant, the hope for happiness properly follows. Although Kant is thought not to value happiness much, the article argues that happiness is important for Kant, but only the right sort of happiness.
Soul-making and ‘Horrors’ gan Dr Ian James Kidd
The article introduces the problem of evil before focusing on the theodicy of soulmaking and the challenge of ‘dysteleological evil’ that it faces.
Moeseg Rhyfel: Damcaniaeth Rhyfel Cyfiawn gan Emily Pollard
The article offers a general overview of just war theory, and explains how a war may be considered morally justified according to the ‘just war’ tradition.
Rhifyn 7 (Gwanwyn 2015)
Gwrthrychedd Profiad Crefyddol: Dadleuon Athronyddol gan yr Athro Jeff Astley
Mae’r erthygl hon yn amlinellu ac yn trafod dwy agwedd ar y broblem o wrthrychedd profiad crefyddol.
Y Cyfan yn y Meddwl? Seicoleg Crefydd a Phrofiad Crefyddol gan Dr Mark Fox
This article seeks to explore some of the most significant contributions to the understanding of religious experience that have emerged from within psychology of religion – and specifically neurotheology – and to assess their effectiveness, together with the assumptions that underlie them.
Identity and Belonging: A perspective on Paul’s letter to the Galatians gan Dr James Francis
Identity and belonging are significant themes for both human meaning and religious discourse. This article considers the issue of identity in Paul’s letter to the Galatians in the New Testament, exploring the arguments on both sides of what was a sharp debate. It demonstrates how early Christian belief was characterised by diversity in the forging of its emerging identity.
Y Mudiadau Pentecostaidd a Charismataidd gan yr Athro William K Kay
Cafodd y Mudiad Pentecostaidd gyda'i wreiddiau ym Methodistiaeth ei sbarduno gan ddiwygiadau ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Carlamodd ledled y byd gan ffurfio llawer o enwadau, yn pwysleisio llefaru â thafodau ac iacháu, ac yn ystod y 1960au unodd y mudiad carismataidd â’r mudiad – mudiad a oedd yn credu'r un pethau, fwy neu lai, ond yn gweithredu oddi mewn i enwadau prif-lif. Rhoddodd y mudiad carismataidd ei hun fodolaeth i'r mudiad neo-garismataidd a oedd yn cynnwys Eglwysi a dorrodd yn rhydd oddi wrth eu henwadau traddodiadol. Cafodd y neo-garismatiaid eu galw ambell dro yn Y Drydedd Don, gyda'r Pentecostaliaid y Don Gyntaf a'r Carismatiaid fel yr Ail Don.
Rhifyn 6 (Hydref 2014)
Ewthanasia: A oes gennym yr hawl i farw pan fyddwn ni eisiau? gan Dr Michael Armstrong
This article seeks to explore the main legal and Christian theological issues surrounding the current debate over euthanasia and ‘assisted dying’.
Y Mudiad Seionaidd gan yr Athro Gareth Lloyd Jones
Mae'r erthygl hon yn amlinellu twf Seioniaeth fel mudiad seciwlar yn Ewrop gyfandirol a'r gwrthwynebiad a barodd, datblygiad Seioniaeth grefyddol o ganlyniad i'r Holocost a'r gwrthdaro Israel-Arabaidd, a'r cyfiawnhad a roddir gan y Seionyddion seciwlar yn ogystal â'r Seionyddion crefyddol er mwyn cyfeddiannu tir Palestinaidd.
Ffwndamentaliaeth fel Ymateb i Feirniadaeth Feiblaidd gan Paul Wilson
Mae’r erthygl hon yn amlinellu natur a tharddiad Ffwndamentaliaeth Gristnogol fel ffenomen Ôl-oleuedigaeth orllewinol.
Y Cysyniad o Jihad mewn Islam by Dr Declan O’Sullivan
This article defines the term jihad and other related words, explaining how their meaning can change over time. It discusses the greater jihad and the lesser jihad, what is understood by ‘holy war’, and the idea of jihad as the ‘sixth pillar’ of Islam.
Rhifyn 5 (Haf 2014)
Jung a Seicoleg Crefydd gan Philippe Dauphin
This article critically discusses Jung’s key ideas, focusing especially on the concepts of the collective consciousness, archetypes and individuation, and his views in religion.
A yw Credu mewn Gwyrthiau'n rhesymol mewn Oes Wyddonol? gan yr Athro David Wilkinson
Many people doubt the existence of miracles because ‘science rules them out’. This article explores the complexity of this kind of argument, noting that the definition of miracles is far from straightforward, even within a religious community; and suggesting that scientific objections against miracles are weak and that the current scientific description of the world is very different from a Newtonian predictable clock where God has no freedom to act in unusual ways.
Datblygiad Ffydd gan yr Athro Jeff Astley
This article outlines Fowler’s theory of faith development, and the criticisms it has provoked.
Moeseg Sefyllfa: A oedd Joseph Fletcher yn iawn trwy'r adeg? gan Dr Ashley Wilson
This article discusses the dangers of ‘abstract’ ethics and argues for a more situated approach. The author suggests that Fletcher’s Situation Ethics provides an accurate account of much moral decision-making, but his reliance on agape as the sole guide to moral decision-making is open to criticism.
Rhifyn 4 (Gwanwyn 2014)
Meddwl ar ol Marwolaeth? Deuoliaeth Sylwedd, Anfarwoldeb a'r Profiad o fod ar fin Marw gan Dr Mark Fox
This article seeks to explore the possibility of the mind’s survival of death by examining the philosophical position of substance dualism while making specific reference to near-death experiences.
Jeremeia gan yr Athro Gareth Lloyd Jones
Mae'r erthygl hon yn gosod neges Jeremeia yn ei chyd-destun hanesyddol a diwinyddol, yn nechrau’r chweched ganrif CC. Mae'n archwilio natur a phwrpas naratif yr alwad, yn rhoi sylwadau ar ddameg a berfformiwyd, yn ystyried y rhesymau dros natur farnedigaethol ei bregethu, ac yn dangos ei obaith am adferiad.
Cabledd a Rhydd Fynegiant gan Dr Richard Bartholomew
This article explores why governments have had laws against attacking religion, using Britain as the primary example. It shows that concern has evolved from protecting religious minorities from vilification, but that recent trends have prompted campaigners to assert ‘the right to offend’.
Ydyn ni'n Fodau Rhydd? gan Adam Willow
Beth yw ewyllys rydd, ac a ydym yn meddu arno ai peidio, yw dwy o'r problemau mwyaf diddorol a pharhaus yn y meddylfryd athronyddol a diwinyddol. Mae'r erthygl hon yn trafod rhai o'r cwestiynau a'r syniadau allweddol sy'n ymwneud ag ewyllys rydd, yn cynnwys y ddadl ynghylch natur-magwraeth, rhagordeiniad, a phenderfyniaeth achosol.
Rhifyn 3 (Hydref 2013)
Duw mewn Diwylliant Poblogaidd gan yr Athro David Wilkinson
While some argue that Western culture is becoming increasingly secular, within the area of popular culture – that is movies, television and music – questions of God are being explored in entertaining and serious ways. This article surveys this new and growing area of thinking within religious studies and gives a framework that goes beyond the extremes of those who dismiss it all as trivial entertainment and those who read their own faith beliefs into everything.
Aristotle’s Virtue Theory gan Adam Willows
This article discusses the moral thought of Aristotle, with a particular focus on the nature of virtue and virtuous behaviour. It also looks at modern Aristotelians and how Aristotle’s thought is received by some religious traditions.
Ffydd, Rheswm a Datguddiad gan yr Athro Gerald Loughlin
Mae'r erthygl hon yn gwahaniaethu dau safbwynt ar y berthynas rhwng ffydd a rheswm, fel y cawsant eu hegluro gan Karl Barth a Thomas Aquinas, ac mae'n ystyried yr hyn y gall rheswm oddi mewn i ffydd ei olygu.
Disgrifio Duw gan yr Athro Jeff Astley
This article discusses two main types of descriptive religious language: analogical and metaphorical. Attention is also paid to its ‘symbolic’ status and to the arguments for treating some parts of theology as univocal.
Rhifyn 2 (Haf 2013)
Drygioni a Dioddefaint gan yr Athro Jeff Astley
Mae’r erthygl yn gwahaniaethu rhwng amrywiol fathau o ddrygioni, cyn adolygu’r eglurhad radical a’r eglurhad mwy prif lif ynghylch bodolaeth dioddefaint a chamweddau dynol mewn creadigaeth sy’n cael ei rheoli gan Dduw hollol dda sydd â gallu a gwybodaeth ddiderfyn.
Seicoleg a Chyfriniaeth: Ymagwedd empirig gan yr Athro Leslie J Francis
William James’ classic analysis of the dimensions of mysticism were expanded by Happold to embrace seven components: ineffability, noesis, transiency, passivity, consciousness of the oneness of everything, sense of timelessness and true ego. These components have been used to construct the Francis-Louden Mystical Orientation scale. Readers are invited to learn about this measure and to participate in a new study of the psychology of mysticism.
Seciwlareiddio: Dulliau ac Agweddau gan Dr Richard Bartholomew
Mae'r erthygl hon yn dadansoddi'r dealltwriaethau gwahanol o seciwlareiddio, gan gyfeirio'n neilltuol at y sialensiau sy'n deillio o wyddoniaeth, gwahaniaethiad, ymyleithiad, plwraliaeth a bydolrwydd.
Myfyrdod Seciwlar a Chrefyddol gan Phra Nicholas Thanissaro
Mae'r erthygl yn disgrifio myfyrdod yn ei gyd-destun seciwlar gan dynnu ar ymchwil meddygol, ac yn ei gyd-destun crefyddol yn tynnu ar gyfweliadau â glaslanciau o blith Bwdhyddion Prydeinig. Yn gynwysedig mae ymarfer myfyrdod enghreifftiol, a thrafodir pwysigrwydd myfyrdod mewn cymdeithas ôl-seciwlar.
Issue 1 (Spring 2013)
Esblygiad a’r Creu gan yr Athro Jeff Astley
Mae’r erthygl yn disgrifio dwy elfen yn athrawiaeth y creu, gan ddadlau bod creu parhaus yn cyd-fynd ag unrhyw ddamcaniaeth wyddonol. Disgrifir honiadau am esblygiad ynghyd ag ymatebion diwinyddol deistiaeth, theistiaeth esblygiadol, cynllun deallus a chreadaeth. Nodir beirniadaethau ar y cynllun deallus.
Ymchwilio i Brofiad Crefyddol yn Tsieina: Prosiect Alister Hardy gan yr Athro Leslie J Francis
Mae'r erthygl hon yn disgrifio gweledigaeth Sir Alister Hardy wrth iddo sefydlu'r Uned Ymchwil i Brofiad Crefyddol (yn ddiweddarach Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiad Crefyddol), a'r materion ynghylch ymestyn yr ymchwil i Tsieina a'r honiadau a wnaed er mwyn hynny.
Moeseg Rhyw Gristnogol: Cyfunrywioldeb a Phriodas by Dr Stephen Parker
Mae’r erthygl hon yn archwilio rhai rhesymau dros wrthwynebu priodas un-rhyw o ran rhai Cristnogion, sut mae Cristnogion o’r fath yn llunio’u moeseg ac ar beth mae’r foeseg hon yn seiliedig. Yn olaf, mae’n disgrifio persbectif moesegol Cristnogol amgen yn ôl safbwynt y clerigwr Anglicanaidd, Jeffrey John.
Twf Pentecostaliaeth newydd ym Mhrydain: Beirniadaeth ar Seciwlariaeth gan yr Athro William K Kay
Mae'r erthygl hon yn disgrifio damcaniaeth o seciwlariaeth sy'n amlinellu'r ffordd y mae crefydd wedi colli tir mewn cymunedau diwydiannol. Ar ôl dangos, mewn dulliau cyffredinol sut mae'r ddamcaniaeth wedi cael ei beirniadu, mae'r erthygl yn darparu enghraifft o fudiad crefyddol sydd wedi ffynnu er gwaethaf y dirywiad mewn man arall.