
Adnoddau ar-lein i ddysgwyr uwchradd
Mae Canolfan San Silyn yn adnabod ac yn creu adnoddau yn ôl yr hyn sydd ei angen yma yn Wrecsam. I ddysgwyr uwchradd, mae hyn yn cynnwys AG / CGM statudol ac Astudiaethau Crefyddol TGAU.
Ewch i’n tudalen gweminar i gael gwybod am y gweminarau sydd ar gael yn nhymor y gwanwyn a'r haf 2021 ar gyfer dysgwyr sy'n dilyn Astudiaethau Crefyddol TGAU ac AG graidd CA4 yn Wrecsam.
Yn ogystal, mae CBAC wedi cyhoeddi llawer o adnoddau ar-lein am ddim i gefnogi Astudiaethau Crefyddol TGAU, y gellir eu cyrchu ar wefan CBAC.
Datblygiadau i’r dyfodol
Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu cyfres newydd o’r enw ‘Cyfres Archwilio Eglwys Plwyf San Silyn’ (11-14 oed), yn ogystal â chyfres thema ar PowerPoint. Wrth i’r adnoddau hyn ddod ar gael, byddwn yn eu rhannu ar y dudalen hon.