Gydag arian craidd gan Sefydliad Addysgiadol (Plwyfol) Wrecsam, mae Canolfan San Silyn yn ymwneud bob amser â Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn gweithio gyda’i athrawon a‘i ysgolion mewn materion sy’n gysylltiedig ag AG/CGM. Rydym yn cynnig arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol ar y pwnc, a hynny mewn trafodaeth ag anghenion a diddordebau’r ardal leol. Mae partneriaethau creadigol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phrifysol yr Esgob Grosseteste, Lincoln, yn helpu i alluogi a chyfoethogi agweddau sylweddol o’n gwaith.
Rydym yn sylweddoli fod llawer o’r hyn a wnawn yn Wrecsam o ddiddordeb hefyd i eraill yng Nghymru a thu hwnt, felly rydym yn rhannu cymaint ag y gallwn drwy’r wefan hon yn ogystal â thrwy ymgysylltu’n uniongyrchol â grwpiau a mudiadau perthnasol mewn amryw o ffyrdd.
Yma, gallwch ddarganfod mwy am y staff craidd ymroddedig sy’n gweithio yng Nghanolfan San Silyn, y cefndir i Ganolfan San Silyn, a’r cyfleusterau ffisegol sy’n gwreiddio’r Ganolfan yn gadarn yn Wrecsam.