Adnoddau ar-lein i ddysgwyr cynradd
Mae Canolfan San Silyn wedi cyfrannu ar nifer o brosiectau adnoddau cwricwlwm Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion cynradd, yn cefnogi addysgu a dysgu mewn AG/CGM oddi mewn i gwricwla integredig. Rydym hefyd yn adnabod ac yn creu adnoddau yn ôl yr hyn sydd ei angen yma yn Wrecsam. Dim ond adnoddau cwricwlwm electronig AM DDIM sydd ar y safle hwn.
Mae’n hadnoddau cwricwlwm cynradd ar-lein diweddaraf yn cynnwys:
- Cyfres Archwilio Ein Byd (3-7 oed)
- Cyfres Archwilio Pam (5-7 oed)
- Cyfres Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr (8-11 oed)
Datblygiadau i’r dyfodol
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar deitl newydd yng nghyfres Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr, wedi’i ffurfio’n arbennig i Wrecsam, o’r enw Gweithio gyda’n Gilydd (8-11 oed).
Rydym hefyd yn datblygu cyfres newydd o’r enw ‘Cyfres Archwilio Eglwys Plwyf San Silyn’ (3-7 oed; 8-11 oed), yn ogystal â chyfres thema ar PowerPoint.
![]() | Cyfres Archwilio Ein Byd |
Oed | 3-7 |
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm | AG/CGM; trawsgwricwlaidd |
Crynodeb | Cyfres o lyfrau stori a noddwyd gan Lywodraeth Cymru yw hon sy’n archwilio themâu poblogaidd i ddysgwyr 3 - 7 mlwydd oed. Mae’r gyfres yn dilyn dau blentyn chwilfrydig o’r enw Aled a Siân, sydd wrth eu bodd yn archwilio’r byd o’u cwmpas. Yn y Archwilio Ein Byd , mae Aled a Siân yn rhannu rhai o’u profiadau â’u ffrindiau Cristnogol, Hindŵaidd, Iddewig a Mwslimaidd. Mae Aled a Siân yn mwynhau gwrando ar brofiadau eu ffrindiau hefyd, wrth iddyn nhw ddysgu am sut mae’r rhain yn gysylltiedig â’u rhai nhw. Mae pob teitl yn y gyfres yn archwilio thema: Dathliadau; Fi Fy Hun Ac Eraill; Teithiau; Arwyddion a Symbolau; Pobl Arbennig; Adegau a Thymhorau. Lluniwyd y gyfres i wneud cysylltiadau rhwng AG/CGM a meysydd eraill y cwricwlwm. Ceir digonedd o gyfle i archwilio a datblygu cysyniadau a chyd-destunau AG/CGM perthnasol drwy gydol y gyfres. |
Fformat | Llyfr stori (fersiwn fer), llyfr stori (fersiwn hir), sleidiau cwestiynau allweddol, sleidiau llun, canllaw i athrawon. |
Iaith | Cymraeg a Saesneg. |
Mynediad | Am ddim; ar-lein. |
Beth sy’n newydd? | Mae’r canllaw i athrawon wrthi’n cael ei ddatblygu i adlewyrchu’r Cwricwlwm i Gymru 2022. |
Arolwg adborth | Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig funudau yn llenwi arolwg ‘adborth’ i’r adnodd hwn. Bydd yn ein helpu i ddeall sut mae’r adnoddau’n cael eu defnyddio a’u heffaith ar athrawon a dysgwyr. Llenwch yr arolwg adborth fan hyn. |
![]() | Cyfres Archwilio Pam |
Oed | 5-7 |
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm | AG/CGM; trawsgwricwlaidd |
Crynodeb | Cyfres o lyfrau stori a noddwyd gan Lywodraeth Cymru yw hon sy’n archwilio saith thema benodol i AG/CGM. Mae’r gyfres yn dilyn dau blentyn chwilfrydig o’r enw Aled a Siân, sy’n mwynhau chwarae ‘Dw i’n gweld â’m llygad bach i’ i’w helpu i ddod i adnabod y llefydd o’u cwmpas yn well. Yn y Archwilio Pam , mae Aled a Siân eisiau gwybod mwy am pam mae rhai o’r pethau o’u cwmpas yn bwysig i’w ffrindiau Cristnogol, Iddewig a Mwslimaidd. Mae pob teitl yn y gyfres yn archwilio thema: Bara (Cristnogaeth); Croes (Cristnogaeth); Dŵr (Islam); Fêl (Islam); Goleuni (Iddewiaeth); Menora (Iddewiaeth); Symbolau Ffydd (Gŵyl Ffydd). Lluniwyd y gyfres i wneud cysylltiadau rhwng AG/CGM a meysydd eraill y cwricwlwm. Ceir digonedd o gyfle i archwilio a datblygu cysyniadau a chyd-destunau AG/CGM perthnasol drwy gydol y gyfres. |
Fformat | Llyfr stori (fersiwn fer), llyfr stori (fersiwn hir), sleidiau cwestiynau allweddol, sleidiau llun, canllaw i athrawon. |
Iaith | Cymraeg a Saesneg. |
Mynediad | Am ddim; ar-lein. |
Beth sy’n newydd? | Mae’r canllaw i athrawon wrthi’n cael ei ddatblygu i adlewyrchu’r Cwricwlwm i Gymru 2022. |
Arolwg adborth | Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig funudau yn llenwi arolwg ‘adborth’ i’r adnodd hwn. Bydd yn ein helpu i ddeall sut mae’r adnoddau’n cael eu defnyddio a’u heffaith ar athrawon a dysgwyr. Llenwch yr arolwg adborth fan hyn. |
![]() | Cyfres Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr |
Oed | 8-11 |
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm | AG/CGM; Dyniaethau; Iechyd a Lles |
Crynodeb | Cyfres llyfr stori a noddir gan Lywodraeth Cymru yw hon sy’n archwilio’r cwestiwn, “Beth sydd wir yn bwysig?". Mae’r cwestiwn hwn yn mynd â Randalph Ddoeth ar daith trwy Gymru, lle mae’n dod o hyd i rai lleoedd a phobl arbennig i’w helpu gyda’i ymchwil. Mae rhai pethau sydd wir yn bwysig yn cynnwys: Dod ag Iechyd ac Iachâd; Gofalu am y Dyfodol; Byw gyda Natur; Mynd ar Deithiau Ysbrydol; Cofio’r Gorffennol; Gwasanaethu Eraill. Lluniwyd y gyfres i gefnogi AG/CGM o fewn y Dyniaethau. Ceir digonedd o gyfle i archwilio a datblygu cysyniadau a chyd-destunau AG/CGM perthnasol drwy gydol y gyfres. |
Fformat | Llyfrau stori, canllawiau i athrawon, ffilmiau, cerddoriaeth. |
Iaith | Cymraeg a Saesneg. |
Mynediad | Am ddim; ar-lein. |
Beth sy’n newydd? | Mae Canolfan San Silyn wedi comisiynu llyfr stori newydd ar gyfer Wrecsam, Gweithio gyda'n Gilydd, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2021. |