
Mae plant 0-17 oed yn cael gwarchodaeth hawliau dynol arbennig gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru’r Confensiwn hwn fel sail ar gyfer llunio polisïau i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn 2004. Yna cyflwynwyd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), i gryfhau ac adeiladu ar yr ymagwedd hon sy’n seiliedig ar hawliau.
O ganlyniad mae’n hanfodol fod pob ysgol a lleoliad yng Nghymru yn mabwysiadu ymagwedd hawliau plant at yr addysg a ddarparant i’w dysgwyr. Gellir gwneud hyn drwy ddatblygu ymarfer seiliedig ar hawliau drwy gydol eu hysgol neu leoliad.
Ceir amryw o ffyrdd o wreiddio ymarfer seiliedig ar hawliau, yn cynnwys:
- cael cyngor ysgol a gwneud yn siŵr ei fod yn cael rhan mewn gwneud penderfyniadau
- datblygu parch y naill at y llall rhwng staff a disgyblion
- cysylltu dysgu â hawliau plant
- darparu lle diogel i fynd iddo os yw dysgwyr yn teimlo’u bod yn profi gwahaniaethu
- darparu lle i ymarfer eu ffydd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gofynion deietegol penodol
- bod yn onest am fwlio
- cynnig cyfleoedd i archwilio a thrafod hawliau plant yn yr ysgol
- cynnig cyfleoedd i’r dysgwyr gael dweud eu dweud
- gadael i’r dysgwyr wybod am y cyfleoedd i gael dweud eu dweud
- gadael i’r dysgwyr wybod fod eu safbwyntiau wedi cael eu hystyried
- gadael i’r dysgwyr wybod beth fydd yr ysgol yn ei wneud am y materion a godwyd ganddynt.
(Cyfeiriad: Dull gweithredu seiliedig ar hawliau dynol plant o ymdrin ag addysg yng Nghymru, Comisiynydd Plant Cymru, t.7 a t.9)
Yng Nghanolfan San Silyn rydym yn teimlo fod llais y dysgwr yn agwedd hollbwysig o ymagwedd hawliau dynol a byddem yn annog ysgolion a lleoliadau i ymgysylltu gymaint â phosibl â’u dysgwyr o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, er mwyn gwneud yn siŵr fod eu darpariaeth yn addas a bod barn y dysgwyr wedi cael ei chlywed a’i hystyried.
Adnoddau
Addysg Grefyddol yn eich ysgol: Beth sy'n newid yn 2022?
Dyma gyflwyniad PowerPoint a grëwyd gan Ganolfan San Silyn, sy’n canolbwyntio ar CGM yn y Cwricwlwm i Gymru.