Mewn ymateb i’r anghenion newidiol am adnoddau mewn ysgolion a chyd-destunau addysgol eraill, mae Canolfan San Silyn wedi bod yn rhoi sylw i ddatblygu a thyfu casgliad o adnoddau electronig i ysgogi a chefnogi dysgu ac addysgu mewn meysydd sy’n gysylltiedig ag AG/CGM. Mae gennym hefyd adran o adnoddau electronig ar gyfer addoli ar y cyd statudol.
Serch hynny, mae gan adnoddau go iawn ar gyfer AG / CGM, le pwysig iawn oherwydd eu bod yn gallu sbarduno cysylltiadau diriaethol a synhwyraidd pwysig mewn dysgwyr o bob oed. Am y rheswm hwn, mae gan Ganolfan San Silyn Ystafell Adnoddau lle y gellir gweld a chael benthyg pob math o wahanol adnoddau.
Mae’r adran ‘Dolenni’ yn dwyn ynghyd rhai o’r prif gyrff rhanbarthol (Wrecsam / Gogledd Cymru) a chenedlaethol sy’n gweithio dros AG/CGM yng Nghymru fel eu bod i gyd ar gael mewn un lle.