
Arolwg
Yma, yn ‘Materion cwricwlwm’, rhown yr wybodaeth ddiweddaraf a dolenni sy’n berthnasol i addysg grefyddol/CGM yn Wrecsam, ac yng Nghymru yn ehangach. Mae yna dair prif adran sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd.
- Materion cwricwlwm yng Nghymru
- Beth sy’n digwydd yn Lloegr?
- Beth sy’n digwydd yn Ewrop?
Materion cwricwlwm yng Nghymru
Dogfennau canllaw cyfredol Llywodraeth Cymru i AG/CGM
Mae gwahanol ddogfennau canllaw ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru 2008 a’r Cwricwlwm i Gymru 2022. Yn y Cwricwlwm i Gymru 2022, mae AG/CGM yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, ond mae gan y pwnc hefyd ei ganllawiau Llywodraeth Cymru ar Hwb. Penderfynir yn lleol ar AG/CGM o fewn pob awdurdod lleol yng Nghymru – golyga hyn fod eich maes llafur cytunedig i addysg grefyddol yn rhoi canllawiau statudol hanfodol i AG/CGM yn Wrecsam a bod angen ei darllen ochr yn ochr ag unrhyw ganllawiau gan Lywodraeth Cymru.
Dyma’r canllawiau pwysicaf gan Lywodraeth Cymru i AG/CGM yng Nghymru:
- Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) (Cwricwlwm i Gymru 2022).
- Y Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer cyflwyno Addysg Grefyddol i ddysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru (y Cwricwlwm i Gymru 2008).
- Y Dyniaethau: Canllawiau i helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain, i alluogi dysgwyr i ddatblygu tuag at y pedwar diben (Cwricwlwm i Gymru 2022).
- Crynodeb o'r ddeddfwriaeth (Cwricwlwm i Gymru 2022)
Maes llafur cytunedig statudol cyfredol Wrecsam i AG/CGM
Gallwch lawrlwytho'r maes llafur cytunedig statudol ar gyfer Wrecsam.
Maes Llafur Cytunedig Wrecsam ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (2022)

Maes Llafur Cytunedig Wrecsam ar Addysg Grefyddol (2008)


SYLWER: Gall y gofynion cyfreithiol ar gyfer AG/CGM mewn ysgolion o gymeriad crefyddol fod yn wahanol i’r rhai i ysgolion cymunedol yng Nghymru. Am fanylion pellach, gweler y dolenni canlynol:
Church in Wales Guidance on Religion, Values and Ethics
Canllawiau’r Eglwys yng Nghymru ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Yr hawliau i dynnu’n ôl o AG/CGM yng Nghymru
Yn 2017, cyhoeddodd Cymdeithas CYSAGau Cymru ddogfen ganllawiau ddwyieithog o’r enw, Rheoli’r hawl i dynnu’n ôl o addysg grefyddol, sydd ar gael ar ffurf copi caled. Mae copi wedi’i argraffu ar gael i bob ysgol yng Nghymru. Mae copïau ar gael hefyd i aelodau CYSAG a phob Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol yng Nghymru.
Os na allwch ddod o hyd i’ch copi o’r canllawiau, cysylltwch â Libby Jones. Mae copïau ar gael yn Ystafell Adnoddau.
Mae'r ddogfen hon yn berthnasol i AG yn y cwricwlwm etifeddol yn unig.
Sylwer: Yn y Cwricwlwm i Gymru nid oes hawl gan rieni i dynnu eu plant yn ôl o CGM statudol.
Deunydd canllaw diweddar ar gyfer addoli ar y cyd statudol yng Nghymru
Mae’r dogfennau canllaw diweddar mwyaf defnyddiol ar gyfer addoli ar y cyd statudol yng Nghymru wedi’u cyhoeddi gan Gymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC).
- Canllawiau ynglŷn ag Addoli ar y Cyd (Mehefin 2012) . Mae'r ddogfen yn amlinellu’r rhesymeg addysgol dros addoli ar y cyd a hefyd y ffactorau sy’n sail i addoli ar y cyd effeithiol. Ceir hefyd adran sy’n delio ag addoli ar y cyd a’r gyfraith i ysgolion a gynhelir, y rhai o gymeriad crefyddol neu heb.
- Cyngor i ysgolion yng Nghymru ar addoli ar y cyd yn ystod pandemig covid-19 (Mai 2020) Mae'r ddogfen yn delio ag addoli ar y cyd yn yr hinsawdd sydd ohoni, sut i hwyluso addoli ar y cyd ar gyfer dysgu o bell; ac awgrymiadau am adnoddau.
Beth sy’n digwydd yn Lloegr?
Adroddiad y Comisiwn ar Addysg Grefyddol (CoRE)
Yn 2018, cyhoeddodd y Comisiwn ar Addysg Grefyddol ei ganfyddiadau ar addysg grefyddol yn Lloegr, gan wneud nifer o argymhellion. Gellir gweld y rhain drwy lawrlwytho: Religion and worldviews: The way forward. A national plan for RE. Ceir gwybodaeth bellach gan wefan Cyngor Addysg Grefyddol Cymru a Lloegr‘.
Sylwer: Mae ymchwil a chanfyddiadau’r Comisiwn yn ymdrin ag addysg grefyddol yn Lloegr yn unig, er y gall yr adroddiad CoRE fod o ddiddordeb ehangach i’r rheini sydd â rhan mewn AG/CGM yng Nghymru.
Y Prosiect Bydolygon
Mae Cyngor Addysg Grefyddol Cymru a Lloegr wedi comisiynu’r Worldview Project, sef ymateb i Adroddiad y Comisiwn ar Addysg Grefyddol (CoRE). Fel rhan o’r prosiect hwnnw, cyhoeddodd y Cyngor AG ym mis Hydref 2020 adolygiad llenyddiaeth bydolygon academaidd y gellir ei lawrlwytho - Worldview: A multidisciplinary report gyda'r Worldview project discussion papers.
Beth sy’n digwydd yn Ewrop?
Signposts – addysgu am grefyddau a bydolygon anghrefyddol mewn addysg ryng-ddiwylliannol
Sut gall astudio bydolygon crefyddol ac anghrefyddol gyfrannu at addysg ryng-ddiwylliannol mewn ysgolion yn Ewrop? Mae’r cyhoeddiad o 2014, Signposts: Policy and practice for teaching about religions and non-religious worldviews in intercultural education yn cynnig cyngor ar sut i ymateb i faterion sy’n codi o Argymhelliad Cyngor Ewrop CM/Rec(2008)12 ar hyd a lled argyhoeddiadau crefyddol ac anghrefyddol mewn addysg ryng-ddiwylliannol. Mae’n trafod: y derminoleg sy’n gysylltiedig ag addysgu am grefyddau a chredoau; cymhwysedd a didacteg ar gyfer deall crefyddau; yr ystafell ddosbarth fel man diogel; cynrychiolaeth crefyddau yn y cyfryngau; argyhoeddiadau a bydolygon anghrefyddol; materion hawliau dynol; a chysylltu ysgolion â chymunedau a mudiadau ehangach.
Ym mis Gorffennaf 2020 cyhoeddwyd modiwl ategol i hyfforddi athrawon, a gellir lawrlwytho hwn a’i ddefnyddio yn eich cyd-destunau eich hunain: Signposts teacher training module: Signposts teacher training module: Teaching about religions and non-religious worldviews in intercultural education.