
Dweud eich dweud
Mae Canolfan San Silyn yn gwerthfawrogi ei pherthynas glos â chyrff lleol a chenedlaethol a phwyllgorau sy’n weithgar mewn addysg grefyddol i ddysgwyr 3 i 18 oed. Mae’r rhain yn cynnwys CYSAG Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW), Cymdeithas CYSAGau Cymru, Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol, Esgobaeth Llanelwy (Eglwys yng Nghymru) a’r Gwasanaeth Addysg Gatholig ymhlith eraill.
Os ydych chi’n wynebu materion AG/CGM arbennig yn Wrecsam, y credwch y dylid eu codi ar lefel leol neu genedlaethol, rhowch wybod i ni fel eich bod yn cael cyfle i leisio’ch barn.
Materion cyfredol
Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (ar agor - 21 Mai 2021; dyddiad cau 16 Gorffennaf). Gwyliwch ein fideo.
Noder: Dewiswch yr opsiwn HD i wylio'r fideo mewn 'diffiniad uchel'.
Mae'r ddolen i'r ymgynghoriad yma.
Rhai ymatebion
Ymateb CYSAG Wrecsam: Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) (ar agor - 21 Mai 2021; dyddiad cau 16 Gorffennaf 2021).
Ymateb CYSAG Wrecsam: Ymgynghoriad cymwys ar gyfer y dyfodol – dweud eich dweud (ar agor - 27 Ionawr 2021; dyddiad cau 16 Ebrill 2021).