Deunydd cefnogi

close up of photo of books

Mae Canolfan San Silyn yn datblygu amrywiaeth o ddeunydd cefnogi dysgu proffesiynol i athrawon ac ysgolion yn Wrecsam, sydd ar gael hefyd am ddim i unrhyw unigolyn neu sefydliad y tu allan i’r fwrdeistref sirol. Caiff y deunyddiau cefnogi hyn eu cyflwyno mewn sawl fformat.

Mae’r deunyddiau cefnogi Dysgu Proffesiynol sydd gennym ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Y Gyfres Dysgu Proffesiynol;
  • Adnoddau enghreifftiol i athrawon.

Y Gyfres Dysgu Proffesiynol

Casgliad o gyflwyniadau PowerPoint ac adnoddau eraill yw Cyfres Dysgu Proffesiynol Canolfan San Silyn, y gallwch eu defnyddio yn eich cyd-destun eich hun. I ysgolion yn yr awdurdod lleol, gallwn hefyd gyflwyno cyflwyniadau ‘personol’ o’r deunydd, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb. Mae teitlau newydd yn cael eu datblygu’n rheolaidd a byddant yn cael eu postio ar y dudalen hon.

Maes Llafur Cytunedig Wrecsam

Gwyliwch fideo 6 munud yn disgrifio sut y cafodd Maes Llafur Cytûn Wrecsam ei ysgrifennu (18 Mehefin 2022).

Archwilio Bydolygon: Adnodd Ysgogol ar Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yng Nghymru

Mae'r cyhoeddiad dysgu proffesiynol hwn (Mehefin 2022, pdf) yn:

  • Cyflwyno’r cysyniad o 'fydolygon' o safbwynt Cwricwlwm i Gymru;
  • Ystyried sut y gallai ‘dull’ bydolygon effeithio ar arfer ystafell ddosbarth.
Dysgu broffesiynol sylfaenol ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn y Cwricwlwm i Gymru

Gwyliwch fideo 45 munud ar 'CGM a'r Cwricwlwm i Gymru'. (Fersiwn wedi’i addasu o’r sesiwn ar-lein - 12 Ionawr 2022 - yw’r fideo.)

Noder: Dewiswch yr opsiwn HD i wylio’r fideo mewn ‘diffiniad uchel’.

Datblygu Ysbrydoledd yn yr Ysgol Gynradd

Mae’r adnodd dysgu proffesiynol hwn yn gofyn:

  • Beth yw ysbrydoledd a pham ei fod yn bwysig?
  • Sut a pham mae datblygiad ysbrydol yn bwysig yn y cwricwlwm?
  • Ym mha ffyrdd ymarferol y gellir rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu hysbrydolrwydd?

Adnoddau enghreifftiol i athrawon

Enghraifft o gynllunio ar gyfer cynnydd yn RVE (3-16)

Mae Canolfan San Silyn wedi cyhoeddi Cynllunio ar gyfer cynnydd mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) i blant rhwng 3 ac 16 oed: enghraifft i gefnogi ymarferwyr. Crëwyd yr enghraifft mewn partneriaeth â Thîm Addysg Esgobaeth Llanelwy mewn cydweithrediad â phump ysgolion cynradd yn Wrecsam.

Mae'r adnodd cynllunio ar gyfer cynnydd yn cynnwys hefyd adran i helpu ymarferwyr mewn lleoliadau meithrin i gynllunio ar gyfer CGM, cyn cam cynnydd 1. Datblygwyd hyn mewn cydweithrediad â’r arbenigwyr sy’n gweithio â lleoliadau meithrin nas cynhelir a gaiff eu hariannu ac ysgolion â darpariaeth meithrin.

Rhagwelwn y bydd ymarferwyr yn defnyddio’r sgiliau CGM a amlinellir yn yr enghraifft hon i’w harwain i werthuso sefyllfa dysgwyr a’u trywydd ar wahanol gyfnodau o’u cynnydd dysgu, yn ogystal â’u helpu i wneud penderfyniadau am gynnwys ac addysgeg CGM.

Yn yr un modd â phob adnodd, mae Canolfan San Silyn yn annog ymarferwyr i ymgysylltu â’r enghraifft hon mewn modd beirniadol. Anogir ymarferwyr hefyd i gyfathrebu â’i gilydd mewn modd proffesiynol i helpu i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd mewn perthynas â CGM o fewn eu lleoliad.

Lawrlwythwch a darllenwch am yr adnodd yma.

Enghraifft o Dempled Cynllunio Tymor Canolig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM)

Mae Canolfan San Silyn wedi datblygu enghraifft o adnodd cynllunio tymor canolig enghreifftiol. Lluniwyd yr adnodd i amlygu’r ystyriaethau cynllunio sylweddol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i gefnogi ysgolion i ystyried canllawiau a maes llafur cytunedig lleol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg y Cwricwlwm i Gymru.

Cymraeg