Cynllunio ar gyfer cynnydd mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) i blant rhwng 3 ac 16 oed: enghraifft i gefnogi ymarferwyr

Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn hanfodol yn y Cwricwlwm i Gymru ac yn cyfrannu’n helaeth at gyflawniad y pedwar diben ymhlith dysgwyr. Mae gan CGM rôl hanfodol i’w chwarae o ran datblygiad dysgwyr o fewn y maes Dyniaethau. Nid yw’r enghraifft hon yn darparu cyfres amgen o ddisgrifiadau dysgu ar gyfer pob datganiad o’r pethau sy’n bwysig o ran Dyniaethau. Yn hytrach, mae’n cynnig enghreifftiau o sgiliau disgyblu CGM penodol ac amhenodol a nodwyd o fewn y disgrifiadau o ddysgu, a’r sgiliau cyfannol, sy’n sail i’r pedwar diben.

Beth yw sail yr enghraifft hon?

Dylanwadwyd ar yr enghraifft hon, a grëwyd gan Ganolfan San Silyn yn Wrecsam, gan drafodaethau a chanfyddiadau’r Grŵp Prosiect Cydweithredol CGM 2023/2024, a gafodd ei hwyluso gan Ganolfan San Silyn mewn partneriaeth â Thîm Addysg Esgobaethol Llanelwy, ac roedd yn cynnwys pum ysgol gynradd yn Wrecsam.

Sut cafodd yr enghraifft hon ei ffurfio?

Ffurfiwyd y sgiliau CGM a amlinellir yn yr enghraifft hon gan ddefnyddio nifer o ddogfennau yn ogystal â’r disgrifiadau dysgu ar gyfer pob un o’r datganiadau Dyniaethau o beth sy’n bwysig a’r sgiliau cyfannol. Mae’r rhain yn cynnwys y Canllawiau ar Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg sydd ar gael ar Hwb, Religious Education: supporting the early stages of the process of developing the Humanities’ AoLE (Medi 2017) a gynhyrchwyd gan weithgor Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGC) a Phanel Ymgynghori Cenedlaethol ar Addysg Grefyddol (PYCAG), a dogfen a gynhyrchwyd gan PYCAG yn 2018 o’r enw What is essential in RE?. Mae’r sgiliau CGM yn Nhabl 1 yn dilyn strwythur y teithiau dysgu enghreifftiol yn y canllawiau CGM, sy’n defnyddio tri disgrifiad eang o gynnydd; ‘camau cynnar y daith’, ‘ymhellach ar hyd y daith’, ac ‘yn ddiweddarach ar y daith’. Caiff y sgiliau CGM yn yr enghraifft hon eu grwpio i bum categori, a fydd o bosibl yn gorgyffwrdd yn naturiol wrth addysgu a dysgu CGM. Penderfynodd Aelodau Grŵp Prosiect Cydweithredol CGM 2023-2024 ar y categorïau arbennig hyn ar ôl cytuno y byddai’n ddefnyddiol, yn ymarferol ac o ran cysyniad, pe bai’r 20 sgil CGM a bennir yn cael eu grwpio yn ôl eu nodweddion cyffredin, er mwyn i ymarferwyr fedru eu defnyddio yn y dosbarth. Y categorïau y penderfynwyd arnynt yw archwilio, gwerthuso, gwybodaeth a dealltwriaeth, parch, ymateb personol.

Sut gallai’r enghraifft hon gefnogi cynlluniau ar gyfer cynnydd mewn CGM?

Rhagwelwn y bydd ymarferwyr yn defnyddio’r sgiliau CGM a amlinellir yn yr enghraifft hon i’w harwain i werthuso sefyllfa dysgwyr a’u trywydd ar wahanol gyfnodau o’u cynnydd dysgu, yn ogystal â’u helpu i wneud penderfyniadau am gynnwys ac addysgeg CGM. Fodd bynnag, mae Canolfan San Silyn yn annog ymarferwyr i ymgysylltu â’r enghraifft hon mewn modd beirniadol. Nid yw’r sgiliau CGM a amlinellwyd yn derfynol ac mae modd eu diwygio. Anogir ymarferwyr hefyd i gyfathrebu â’i gilydd mewn modd proffesiynol i helpu i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd mewn perthynas â CGM o fewn eu lleoliad. Byddai Canolfan San Silyn yn croesawu adborth ar ddefnyddioldeb yr enghraifft hon o fewn y broses honno.

Tabl 1 Cynllunio ar gyfer cynnydd mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) i blant rhwng 3 ac 16 oed: enghraifft i gefnogi ymarferwyr

Tabl 2. Cynllunio ar gyfer cynydd mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) i blant rhwng 3 ac 16 oed: enghraifft i gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau meithrin

Yn ystod deialog proffesiynol â chydweithwyr arbenigol sy’n gweithio â lleoliadau meithrin nas cynhelir a gaiff eu hariannu ac ysgolion â darpariaeth meithrin, daeth yn amlwg fod rhywfaint o’r disgrifiadau yn yr enghraifft hon, dan y disgrifiad ‘camau cynnar y siwrnai’ ychydig yn rhy uchelgeisiol ar gyfer plant oedran meithrin, ac efallai y bydd angen rhagflaenydd i’r disgrifiadau hyn. Felly, datblygwyd tabl 2 mewn cydweithrediad â’r arbenigwyr hynny i helpu ymarferwyr mewn lleoliadau meithrin i gynllunio ar gyfer CGM, cyn cam cynnydd 1.

Gallwch lawrlwytho copi .pdf cyflawn o'r wybodaeth ar y dudalen hon yma:

Cymraeg