
Cynigir cymorth ymgynghorol anffurfiol a ffurfiol i athrawon yn ysgolion cynradd ac uwchradd Wrecsam drwy bartneriaeth greadigol rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW) a Chanolfan San Silyn. Mae’r bartneriaeth hon yn golygu mai Wrecsam yw’r unig awdurdod lleol yng Nghymru sydd ag ymgynghorydd AG/CGM pwrpasol.
Yn ogystal â rhoi cefnogaeth ymgynghorol i athrawon yn Wrecsam, darperir cymorth arbenigol ar y pwnc i Gyngor Ymgynghorol Sefydlog Wrecsam ar Addysg Grefyddol (CYSAG), sef y corff statudol sy’n cynghori CBSW ar faterion sy’n gysylltiedig â darparu addysg grefyddol ac addoli ar y cyd o fewn yr awdurdod lleol.
Enghreifftiau o gymorth yn y gorffennol
Mae ysgolion ac athrawon yn gofyn am nifer o wahanol fathau o gefnogaeth ymgynghorol. Dyma rai enghreifftiau diweddar o’r gefnogaeth a roddwyd.
- Cynllunio ar gyfer AG mewn dosbarth integredig.
- Datblygu ysbrydolrwydd yn y dosbarth.
- Cefnogi Astudiaethau Crefyddol ar lefel arholiad.
Sut ydw i’n cael gafael ar gymorth ymgynghorol?
Gallwch gysylltu’n uniongyrchol â Libby i drafod pa gymorth ymgynghorol sydd ei angen arnoch. Gellir rhoi cymorth drwy e-bost, ffôn, cynhadledd fideo, ac wyneb yn wyneb. Cysylltwch â Libby yn: Libby.Jones@wrexham.gov.uk