
Mae Canolfan San Silyn yn darparu cyfres o weminarau a luniwyd i gynnig cefnogaeth a dargedwyd ar-lein i ddysgwyr yn Wrecsam. Mae manylion am y ddarpariaeth a mynediad i’r gweminarau ar gael yma.
Astudiaethau Crefyddol (TGAU, UG/ Safon Uwch)
Mae’n amser heriol i ddysgwyr ac athrawon sy’n paratoi at gyfer asesiadau Astudiaethau Crefyddol TGAU ac UG/Safon Uwch, wrth i effaith Covid-109 ar arholiadau gael ei deimlo.
Er mwyn cefnogi dysgwyr ac athrawon yn Wrecsam, mae Canolfan San Silyn wedi gofyn i’r addysgwr a’r hyfforddwr profiadol, Greg Barker, greu cyfres o weminarau ar gyfer Astudiaethau Crefyddol TGAU ac Astudiaethau Crefyddol UG/Safon Uwch (CBAC).
Ceir gwybodaeth am y gweminarau i ddysgwyr ar y dudalen hon, ac mae’r gweminarau i athrawon i’w gweld yn adran dysgu proffesiynol y wefan hon yn Cyrsiau.
TGAU Astudiaethau Crefyddol

Pwy? Dysgwyr TGAU yn Wrecsam.
Beth? Mae pedwar gweminar 60 munud wedi’u recordio’n barod ar gyfer dysgwyr:
- Un yn seiliedig ar sgiliau (Uned 1, rhan 1);
- Un yn seiliedig ar gynnwys (Uned 1, rhan 2);
- Un yn seiliedig ar sgiliau (Uned 2, rhan 1);
- Un yn seiliedig ar gynnwys (Uned 2, rhan 2).
Pryd? Mawrth – 30 Medi 2021 . (Gall athrawon Wrecsam gysylltu â ni i gael y dolenni gweminar.)
UG/Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol

Pwy? Dysgwyr UG/Safon Uwch yn Wrecsam.
Beth? Mae tri gweminar wedi’u recordio’n barod ar gyfer dysgwyr:
- Cynnwys UG ac ymarferion AA1/AA2 (1 awr, 9 munud i’r cyflwyniad + 30 munud i ymarferion y myfyrwyr);
- Cynnwys UG ac ymarferion AA1/AA2 (1 awr, 30 munud i’r cyflwyniad + 20 munud i ymarferion y myfyrwyr);
- Priodweddau asesu AA1 ac AA2 – Trosolwg (tua 50 munud o hyd).
Pryd? Ebrill - 30 Medi 2021. (Gall athrawon Wrecsam gysylltu â ni i gael y dolenni gweminar.)
Addysg Grefyddol Graidd (CA4)

Pwy? Dysgwyr CA4 sy’n derbyn AG statudol yn Wrecsam.
Beth? Mae un gweminar cyfoethogi ar gael, yn cael ei arwain gan Dr Greg Barker (28 munud).
Pryd? Mai 2021 - 31 Gorffennaf 2022. (Gall athrawon Wrecsam gysylltu â ni i gael y dolenni gweminar.)
Hefyd, gallwch rag-weld clip 8 munud yma.