Fersiwn Gymraeg o Herio Materion Crefyddol wedi'i chyhoeddi

Fersiwn Gymraeg o Herio Materion Crefyddol (20) wedi'i chyhoeddi

Erthyglau yn cynnwys:

Moeseg Rhinwedd mewn Sefydliadau Busnes gan yr Athro Geoff Moore
Yn rhan gyntaf yr erthygl ddwy ran hon darperir crynodeb byr o foeseg rhinwedd cyn troi i lunio fframwaith o arferion, sefydliadau, nwyddau a rhinweddau y mae Alasdair MacIntyre yn eu cynnig yn ei lyfr After Virtue. Yn yr ail ran, archwilir goblygiadau’r fframwaith hwn i sefydliadau busnes.

Gwneud Synnwyr o Anghrefydd: Ailedrych ar Seciwlariaeth o’r Ochr Arall gan yr Athro Mathew Guest
Mae’r erthygl hon yn ystyried y cwestiwn o seciwlariaeth o safbwynt y rhai sy’n eu galw eu hunain yn ‘anghrefyddol’ ac yn gofyn beth allai’r label hwn ei olygu.


Ai Rhywbeth a Ddyfeisiwyd yw Hindŵaeth? gan Dr Stephen Jacobs
Mae’r erthygl hon yn ymdrin â sut a phryd y lluniwyd Hindŵaeth fel crefydd bendant y gellid ei chymharu â chrefyddau eraill. Er fod modd, o bosibl, olrhain gwreiddiau Hindŵaeth yn ôl i Wareiddiad Dyffryn Indus (c.2500CC–CC) ,nid oedd y term ‘Hindŵaeth’ yn cael ei ddefnyddio yn helaeth tan y 19eg ganrif. Mae’r erthygl yn canolbwyntio ar y cyfarfyddiad rhwng Indiaid ac Ewropeaid yn ystod y cyfnod trefedigaethol, sef y cyd-destun ar gyfer ymddangosiad y syniad o Hindŵaeth fel traddodiad crefyddol cydlynol ac unedig.


A ddylai Bwdhyddion gefnu ar ddefodau a seremonïau? gan Phra Dr Nicholas Thanissaro
Er bod defodau a seremonïau ym ymddangos yn rhywbeth cyffredin mewn Bwdhaeth draddodiadol, mae peth amwysedd ynghylch a oedd seremonïau yn hanesyddol yn cael eu hannog neu’n rhywbeth y dylid cefnu arnynt, yn enwedig pan restrir ‘cadw at ddefodau a seremonïau’ ymhlith y llyffetheiriau sy’n dal ymarferydd yn ôl rhag yr oleuedigaeth. Mae’r ddadl hon wedi dod i’r amlwg eto mewn Bwdhaeth Orllewinol heddiw lle mae’r rhai y mae Protestaniaeth wedi dylanwadu arnynt yn tueddu i ddad-flaenoriaethu seremoni o blaid myfyrdod. Mae'r erthygl hon yn archwilio agweddau posibl at seremoni a all gysoni dwy ochr y ddadl.

Dirnadaeth Sikhaidd o’r Dwyfol gan Dr Opinderjit Kaur Takhar
Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar y safbwynt Sikhaidd ar natur a dirnadaeth y Dwyfol. Mae dysgeidiaethau gan y Guru Granth Sahib yn portreadu’r Dwyfol Eithaf fel un di-ryw, di-ffurf sy’n cael ei brofi trwy’r synhwyrau - yn enwedig drwy’r broses o ‘weld’ y Dwyfol [darśan ]. Caiff profiad y dilynwyr o’r Dwyfol (y cyfeirir ato'n aml fel Waheguru) ei gymharu â’r undod dedwydd â’r Anwylyd. Deellir yr undod hwn fel y mecanwaith y gall y dilynwr ei ddefnyddio i ddyrchafu eu hymwybyddiaeth o’r bydol [manmukh] i'r Dwyfol [gurmukh]. Eglurir y berthynas bersonol hon â’r Dwyfol fel profi yr hanfod hwn oddi mewn, yn hytrach nag edrych am y Dwyfol mewn lleoedd y tu allan i’r corff.

Darllenwch / lawrlwythwch rifyn 20 yma:

Cymraeg

Discover more from St Giles' Centre

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading