
Issue 21 of the popular journal for A-level students and teachers has been published on the St Giles’ Centre website today. Herio Materion Crefyddol is packed once again with short articles on a whole range of issues. Find out more about Ethics and the Climate Crisis, Christian Perspectives on the Meaning of Death and Life in the Assisted Dying Debate, Hindu Attitudes towards Women, and Gender Equality in Islam as well as other informed articles.
Details of the articles are summarised below, where you will also find a link to the free journal.
Pa Gwestiynau Allwn Ni Ofyn am Naratifau Geni Iesu? gan Jane Heath
Mae pobl yn gofyn llawer o gwestiynau am yr adroddiadau am y geni yn yr Efengylau, ond dylem gymryd pwyll i geisio canolbwyntio ar y cwestiynau y gall y naratifau eu hateb. Ni allwn brofi oddi wrthynt beth a ddigwyddodd mewn gwirionedd na sut yn union y cafodd Iesu ei genhedlu, ond gallwn weld sut y cafodd Cristnogion cynnar ystyr yn y digwyddiadau a oedd wedi digwydd yn eu plith, a sut yr oedd yr ystyr hwnnw yn cyfleu iddynt ryngweithio Duw â’r byd yn ymgnawdoliad ei Fab.
Astudio’r Efengylau: Dull Sefyllfaol gan James M. M. Francis
Mae’r erthygl hon yn cyflwyno fframwaith ar gyfer astudio’r Efengylau wedi’i llywio gan fyfyrio ar hunaniaeth, ystyr a phwrpas dynol. Disgrifir y fframwaith yn fyr ac yna caiff ei gymhwyso i bob un o’r Pedair Efengyl yn y Testament Newydd. Gellir dadlau bod gweithio gyda fframwaith o’r fath yn cyfrannu at yr hyn a ddisgrifir weithiau fel gwneud diwinyddiaeth o’r gwaelod i fyny.
Crefydd a Hanes gan William K. Kay
Mae hanes crefyddol yn gangen o hanes cyffredinol, a defnyddir yr un mathau o dystiolaeth yn y ddau achos. Rhaid asio gwahanol fathau o wybodaeth am y gorffennol i wneud naratifau cydlynol a bydd y naratifau hyn yn cael eu gyrru gan athroniaethau hanes ymhlyg. Mae rhai crefyddau wedi eu gwreiddio yn llawer cryfach mewn digwyddiadau hanesyddol nag eraill, ond mae twf gwyddoniaeth ers yr 17eg ganrif OC wedi dylanwadu ar bob crefydd.
Moeseg a’r Argyfwng Hinsawdd gan Robert Song
Mae’r erthygl hon yn archwilio rhai materion canolog mewn moeseg amgylcheddol. Mae’n dechrau drwy feddwl pa gwestiynau moesegol y dylem eu gofyn mewn perthynas â’r argyfwng hinsawdd, ac yna’n ystyried pwy sy’n gyfrifol amdano. Yn olaf, mae’n gwahaniaethu rhwng optimistiaeth a gobaith, ac mae’n cynnig rhai awgrymiadau ar sut y gallem fynd ati i fyw’n fwy gobeithiol.
‘Yng Nghanol Bywyd yr ydym mewn Angau’: Safbwyntiau Cristnogol ar Ystyr Marwolaeth a Bywyd yn y Ddadl ar Gymorth i Farw gan Sam Hole
Mae’r erthygl hon yn gosod allan agweddau allweddol ar farwolaeth a marw Cristnogol, er mwyn taflu goleuni newydd ar faterion sy’n cael eu herio yn y ddadl ynghylch cymorth i farw.
Ar ôl Anselm: Sant Bonaventure ac Ail-greu y Ddadl Ontolegol gan William Crozier
Mae’r erthygl hon yn edrych ar sut y derbyniwyd dadl ontolegol Anselm ym meddwl cydweithiwr Ffransisgaidd Thomas Aquinas, Bonaventure o Bagnoregio, a’i ymdrech i’w chysoni â fersiynau o’r ddal gosmolegol.
Gwragedd Ffyddlon a Duwiesau Ffyrnig: Agweddau Hindŵaidd Tuag at Fenywod gan Steven Jacobs
Mae’r erthygl hon yn mynd i’r afael â dau bortread o fenywod sy’n ymddangos yn groes i’w gilydd. Y cyntaf yw’r syniad o’r wraig berffaith sy’n eilradd i’w gŵr. Mae stori Sītā, yn y chwedl epig y Rāmāyaṇa, yn crynhoi’r cysyniad hwn o fenywdod, sy’n dilyn ei gŵr yn ffyddlon i alltudiaeth. Fodd bynnag, mewn cyferbyniad, ceir y dduwies hynod annibynnol ac erchyll Kālī, a bortreadir fel un sy’n tramgwyddo normau cymdeithasol, yn wrthgyferbyniad i’r Sītā ymostyngol.
Ai rhywbeth Pesimistaidd yw Bwdhaeth? gan Phra Nicholas Thanissaro
Roedd ysgolheigion Gorllewinol cynnar yn cyfateb Bwdhaeth â phesimistiaeth yn bennaf oherwydd ei bod yn cynnwys ‘dioddefaint’ ymhlith y gwirioneddau ‘nobl’. Mae’r hyn y mae Bwdhyddion yn ei olygu mewn gwirionedd wrth ddioddefaint yn cael ei ddangos gan wahanol gategorïau o dukkha – sy’n cynnwys dioddefaint corfforol, dioddefaint meddyliol sy’n deillio o’r newid yn natur bodolaeth a dioddefaint sy’n gynhenid ym mlociau adeiladu bodolaeth ddynol. Er bod Bwdhaeth yn portreadu dioddefaint fel rhywbeth enbyd, mae’n cael ei hamddiffyn yn erbyn y cyhuddiad o besimistiaeth, trwy bwysleisio nodweddion cadarnhaol bodolaeth ddynol, a’r pwyslais yn y Pedwar Gwirionedd Nobl ar ddiwedd dioddefaint a’r llwybr i hyn.
Cydraddoldeb Rhywedd mewn Islam: Posibiliadau a Chyfyngiadau gan Shama Ajoubi a Fariza Bisaeva
Mae’n bwnc dadleuol beth bynnag ond mae cydraddoldeb rhywedd yn fwy fyth o bwnc llosg mewn Islam. Mae rhai yn credu bod y geiriau cydraddoldeb rhywedd Mwslimaidd yn gwrth-ddweud ei gilydd oherwydd natur batriarchaidd lem Islam. Cred eraill bod Islam eisoes wedi rhoi’r holl hawliau sydd ar gael i fenywod ac felly nad oes angen unrhyw ‘brosiectau modern’ fel cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae’r ddau safbwynt eithafol yn rhannu’r un farn am Islam, sef rhywbeth statig a digyfnewid. Mae’r erthygl hon yn ceisio cyflwyno trydydd persbectif, sy’n anelu at ganolbwyntio ar ysbryd Islam pan ddaw i gydraddoldeb rhywedd ac yn gofyn y cwestiwn sut y gallai rhoi’r ysbryd yma ar waith weithio heddiw.
Read the latest issue here:
The Welsh version is available soon.