The Welsh version of Challenging Religious Issues, issue 19, has now been published online. You can access both the Welsh and English versions for free by following this link:
https://stgilescentre.org/cy/16-2/
Articles included in the latest issue
Ymwybyddiaeth Ofalgar a’r Teulu (McMindfulness)
Mae ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) a myfyrio yn rhan o’r ffordd y mae Bwdhyddion yn ffurfio ac yn mynegi eu hunaniaeth grefyddol. Mae ymwybyddiaeth ofalgar wedi dod yn fwy ‘prif ffrwd’ yn ddiweddar yn y gymdeithas Orllewinol fel therapi ar gyfer anhwylderau iechyd penodol ac hefyd i hyrwyddo lles personol – gan arwain at ddealltwriaeth o ymwybyddiaeth ofalgar sy’n cyferbynnu ag un Bwdhyddion traddodiadol. Yn yr ysgrif hon ceisir disgrifio tri cham addasu ymwybyddiaeth ofalgar yn y Gorllewin, gan ddangos sut mae myfyrdod ac ymwybyddiaeth yn cael eu deall yn fwy traddodiadol, y tensiynau y mae ymwybyddiaeth ofalgar ‘fasnachol’ wedi’u creu i’r gymuned ymarferwyr Bwdhaeth traddodiadol, a’r ffyrdd amrywiol y cafodd y rhain eu datrys yn y presennol.
Moesoldeb Maddeuant
Mae maddeuant wedi dod yn destun trafodaeth ymhlith diwinyddion ac athronwyr cyfoes. Mae'r erthygl hon yn edrych ar le drwgdeimlad mewn maddeuant, beth nad yw maddeuant a thri math gwahanol o ymateb y mae pobl yn eu galw’n ‘faddau’. Mae pob un o’r ymatebion yn cael eu gwerthuso.
Beth all Cyfrifiad 2021 ei Ddweud wrthym Mewn Gwirionedd am Gyfansoddiad Crefyddol Cymru a Lloegr?
Mae’r erthygl hon yn tynnu ar y prif ystadegau o’r cwestiwn am grefydd yng nghyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr er mwyn archwilio’r hyn y gellir a’r hyn na ellir ei gasglu o’r ystadegau hyn, ac i archwilio pam mae’r cwestiwn am grefydd yn parhau i fod yn rhan bwysig o fapio ‘cyflwr cymdeithasol a sifil’ y boblogaeth yn yr 21ain ganrif. Mae cynnwys y cwestiwn hwn yn y cyfrifiad yn dystiolaeth o arwyddocâd cyhoeddus parhaus crefydd.
Diwinyddiaeth Proses-Gysylltiedig
Mae safbwyntiau Groegaidd yr Henfyd ar sut le yw’r byd wedi bod yn sylfaen i safbwyntiau Cristnogol clasurol ar sut un yw Duw. Yn anffodus, mae’r bydolwg hwn yn hen ffasiwn ac wedi cyfrannu at ddiwinyddiaeth gymysglyd sy’n fwyfwy annerbyniol i genedlaethau ifanc. Os yw Cristnogaeth yr 21ain ganrif i barhau i gymell, bydd angen iddi fynegi barn am Dduw sy’n gyson â mewnwelediadau gwyddonol modern, profiadau personol a greddfau sylfaenol. Bydd gwneud hynny yn gofyn am sylfaen athronyddol newydd – dewis arall i fydolwg Groeg yr Henfyd. Dyna beth mae diwinyddiaeth sy’n ymwneud â phroses yn ceisio’i wneud. Mae’r ysgrif hon yn cynnig trafodaeth fer ar theistiaeth glasurol a chyflwyniad i’r safbwynt proses-berthynol o Dduw.
James Lovelock a Damcaniaeth Gaia
Mae James Lovelock ac eraill wedi dadlau bod bywyd biolegol ar y Ddaear yn effeithio ar amodau ffisegol a chemegol yr atmosffer, cefnforoedd a newidynnau amgylcheddol eraill, mewn ffordd sy’n cadw’r amgylchedd yn gyson ac mewn cyflwr cyfforddus am oes. Mae’r erthygl hon yn archwilio ac yn beirniadu’r ‘ddamcaniaeth Gaia’ hon.
Ymgysylltiad Eschatolegol Cristnogol â Llyfr y Datguddiad: O’r Apocalyps i ddiffyg Milflwyddiaeth
Mae Llyfr y Datguddiad yn cynnig rhai o’r darluniau mwyaf graffig o farn danllyd a osodwyd i ddymchwel y ddynoliaeth ar bwynt amhenodol yn y dyfodol. Mae’r delweddau hyn yn ddisgrifiad byw o’r cyd-destun y deilliodd y Datguddiad ohono ac maent wedi cyflwyno llawer i Gristnogion yn y canrifoedd dilynol i’w ystyried ynglŷn â sut i’w perthnasu â’u hoes eu hunain. Mae'r erthygl hon yn edrych ar y cyfnod hwn pan ymddangosodd y Datguddiad a’r dehongliadau dilynol ohono.
Y Salmau fel Arweiniad i Fywyd Cristionogol
Mae’r erthygl hon yn cynnig cyflwyniad i’r Salmau a’u lle o fewn y traddodiad beiblaidd. Mae’n codi rhai materion ynghylch y ddealltwriaeth o Dduw sy’n deillio o’r Salmau, pa brofiadau crefyddol y gellir eu dirnad ynddynt a sut y defnyddir eu hiaith grefyddol. Yna ceir esboniad manylach ar rannau o ddwy Salm a golwg ar y ffordd y mae Cristnogion yn defnyddio’r Salmau mewn addoliad a gweddi ar y cyd, ac a ydynt yn gwasanaethu fel canllaw ar gyfer bywyd Cristnogol.