Mae Canolfan San Silyn yn cynnig gweminarau am ddim i athrawon yn Wrecsam dan arweiniad Dr Greg Barker. Ar ôl ymgynghori ag athrawon, bydd y gweminarau TGAU a Safon Uwch yn canolbwyntio ar: ennyn diddordeb dysgwyr mewn dysgu ar-lein; cefnogi athrawon ag asesiad di-arholiad. Ewch i'n tudalen Cyrsiau i gael manylion am y sesiynau gweminar rhyngweithiol TGAU a Safon Uwch ym mis Chwefror.