
Yn rhifyn mis Rhagfyr o gylchlythyr ICCS* (a gyhoeddwyd heddiw), gallwch ddarllen am y datblygiadau Ewropeaidd diweddaraf sy’n berthnasol i addysg grefyddol, a’r Eglwys a’r Ysgol.
Mae’r erthyglau newyddion byr yn cynnwys:
- Adroddiad ar gynhadledd Klingenthal sy’n ymwneud â defnyddio adrodd straeon i gyfathrebu pam mae crefydd mewn addysg yn bwysig;
- Menter i ddatblygu AG Cristnogol cyffredin yn ‘Lower-Saxony’, yr Almaen (cydweithrediad Catholig-Protestannaidd);
- Prosiect ymchwil Ewropeaidd ar Covid-19 ac AG;
- Prosiect i asesu rhaglenni addysgol yn erbyn anoddefgarwch a gwahaniaethu.
Gellir gweld cylchlythyr ICCS yma.
* Rhwydwaith yw’r Comisiwn Rhyng-Ewropeaidd ar yr Eglwys a’r Ysgol (ICCS) a grëwyd yn 1958. Ei nod yw darparu fframwaith ar gyfer cydweithredu mewn monitro a datblygu materion eglwysi ac ysgolion yn Ewrop. Mae’n dwyn ynghyd gynrychiolwyr ac arbenigwyr o ymchwil, ymarfer a pholisi sy’n gweithio ar grefydd ac addysg.