Digwyddiad hyfforddi CGM am ddim i ymarferwyr Cynradd yn Wrecsam

Mewn cydweithrediad ag awdurdod lleol Wrecsam, mae Canolfan AG San Silyn yn cynnal diwrnod cynllunio CGM Cynradd ddydd Mercher 29 Mawrth 2023. Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty Ramada Plaza, Wrecsam a bydd yn cael ei ariannu’n llawn gan y Ganolfan AG, felly mae'n hollol rhad ac am ddim i ysgolion Wrecsam. Bydd lluniaeth ar gael trwy’r dydd, gan gynnwys bwffe poeth ac oer.

Mae 28 o leoedd ar gael, ar sail y cyntaf i'r felin. Gall ysgolion ofyn am hyd at ddau le yr un. Bydd rhagor o fanylion am y diwrnod, gan gynnwys adnoddau ac agenda perthnasol, yn dilyn maes o law.

I archebu lle cysylltwch â'r Cynghorydd AG, Libby Jones yn libby.jones@wrexham.gov.uk neu drwy'r dudalen gyswllt ar y wefan hon.

Cymraeg

Discover more from St Giles' Centre

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading