
Mae adnodd newydd i Lywodraethwyr ysgolion wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar ar Hwb Llywodraeth Cymru.
Mae’r adnodd dwyieithog rhad ac am ddim yn cefnogi dysgu proffesiynol hanfodol mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) ar gyfer Llywodraethwyr ysgolion, a’i enw yw:
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg: Yr hyn y mae angen i lywodraethwyr ysgolion ei wybod
Mae’r adnodd newydd hwn ar gael ar Hwb, a gellir dod o hyd iddo yn y gyfres bresennol o adnoddau dysgu proffesiynol ar gyfer CGM trwy ddilyn y ddolen hon:
https://hwb.gov.wales/repository/resource/eef7e399-93bb-4d7c-ab68-145c93f4c6d3/overview
Canolfan San Silyn sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu’r adnodd hwn, ac mae’n falch o weld ei fod bellach ar gael yn ehangach.