Mae Cam 3 o Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn dechrau heddiw

Mae cyfarfod Senedd oedd yn garreg filltir bwysig ddydd Gwener, 29 Ionawr 2021 wedi gwthio Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) i Gam 3 y broses ddeddfwriaethol.

Yng nghyfarfod diwedd Cam 2 dydd Gwener y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, cytunwyd ar bob un o’r gwelliannau a gynigiwyd gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams. Mae nifer o’r gwelliannau hyn yn uniongyrchol berthnasol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn ogystal ag i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir â chymeriad crefyddol.

Y prif welliannau a gytunwyd arnynt

Roedd y gwelliannau hyn yn cynnwys:

  • Newid cyfeiriadau at Brydain Fawr i ‘Gymru’;
  • Gwneud gwelliannau yn gysylltiedig â chynrychiolaeth ar grŵp/pwyllgor A ar GYSAGau - newidir grŵp / pwyllgor A i gynnwys “argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol eraill” yn ogystal ag ‘enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill ac enwadau’r crefyddau hynny’. Yn ychwanegol, dylai nifer yr aelodau a benodir i gynrychioli crefydd, enwad neu argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol “cyn belled ag sy’n unol â chyflawni swyddogaethau’r grŵp yn effeithiol, adlewyrchu’n fras gryfder cymesurol y grefydd, yr enwad neu’r argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol hwnnw yn yr ardal,” ac y dylai “pob cam rhesymol i sicrhau’r canlyniad [hwn]” gael ei wneud gan yr awdurdod lleol. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru dalu sylw hefyd i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan weinidogion Cymru yn hyn o beth. Mewn trafodaeth, eglurodd Kirsty Williams y byddai aelodau cynrychioliadol ‘argyhoeddiadau athronyddol’ yn eistedd ochr yn ochr ond ar wahân i aelodau eraill y grŵp a oedd yn cynrychioli crefyddau a’u henwadau, fel mae dim ond un grŵp fyddai. Mae gan hyn oblygiadau cysylltiedig i Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig pob CYSAG.
  • Gwneud gwelliannau yn gysylltiedig â maes llafur cytunedig i CGM a fabwysiadwyd gan Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig i sicrhau fod y maes llafur yn adlewyrchu’r ffaith fod amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn cael eu coleddu yng Nghymru, yn ogystal â pharhau i sicrhau fod y meysydd llafur cytunedig yn adlewyrchu’r ffaith fod y traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn Gristnogol gan mwyaf ac ystyried athrawiaethau ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru.
  • Gwneud gwelliannau yn gysylltiedig ag addysgu a dysgu CGM i ddygwyr ôl-16 yng Nghymru sy’n adlewyrchu’r ffaith fod y traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn Gristnogol gan mwyaf, gan ystyried athrawiaethau ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru, ac ystod o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol a goleddir yng Nghymru.
  • Gwneud gwelliannau yn gysylltiedig â CGM mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir â chymeriad crefyddol – mae gofyn i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir â chymeriad crefyddol “ddarparu ar gyfer addysgu a dysgu CGM anenwadol sy’n ‘talu sylw’ i’r maes llafur cytunedig (yn hytrach na CGM sy’n ‘cyd-fynd â’r maes llafur CGM).”

(Cymerwyd o’r hysbysiadau ynghylch gwelliannau a’r tablau diben ac effaith.)

Pwyntiau diddorol eraill o’r drafodaeth

Mae gwybodaeth ddiddorol arall a ddaeth i’r amlwg o gynnwys y drafodaeth yn cynnwys trafod safbwynt Kirsty Williams ar:

  • [yn Saesneg] sut mae Llywodraeth Cymru yn deall y term ‘convictions’ – sy’n dilyn y ddealltwriaeth bresennol o ‘convictions’ fel y gwelir mewn cyfraith achos er mwyn defnydd cyffredin ac osgoi dryswch drwy gyflwyno dealltwriaeth wahanol;
  • amserlen cyhoeddi’r Fframwaith ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg – cyhoeddir y canllawiau terfynol cyn diwedd 2021, ac ni fydd newid i’r amserlen oherwydd yr angen am ymgynghoriad priodol;
  • y term ‘rhoi sylw’ (have regard) mewn deddfwriaeth, a’r effaith a fwriedir ar ymarfer ysgol;
  • amrywiaeth i gael ei wreiddio ar draws y cwricwlwm ac nid yn MDdaPh y Dyniaethau yn unig;
  • iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr (ac athrawon), a ddylai fod yn greiddiol i’r penderfyniadau a wneir o fewn y cwricwlwm cyfan.

Gwyliwch y drafodaeth ar Senedd.tv (mae darn o’r drafodaeth sy’n berthnasol i CGM ar gael 1h 45m – 2h 5m yn ogystal â 2h 48m i’r drafodaeth ‘talu sylw’).

Mae Cam 3 o’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn golygu ystyried y gwelliannau mewn Cyfarfod Llawn, a bydd y dyddiadau perthnasol yn cael eu cyhoeddi cynir. Bydd memorandwm diwygiedig o’r penderfyniadau a wnaed yng nghyfarfod dydd Gwener yn cael ei gyhoeddi o leiaf bum diwrnod cyn Cam 3.

Edrych ar y papurau perthnasol
Gwylio’r drafodaeth

Recordiad o gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 29 Ionawr 2021 (mae’r darn 20 munud diddorol o 1h 45m – 2h 5m yn ogystal â 2h 48m i mewn i’r drafodaeth ‘talu sylw’).

Beth yw cefndir y Bil?

Mae’r Bil Cwricwlwm ac Asesu yn ymwneud â sefydlu “fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig” i gefnogi gweithredu trefniadau cwricwlwm ac asesu newydd yng Nghymru” (Senedd Cymru).

Rhoddwyd cychwyn ar Fil Llywodraeth Cymru gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ac mae’r Pwyllgor Busnes wedi rhoi cyfrifoldeb i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Fe adroddon ni ar Gam 1 y bil yn ein blog ar 6 Ionawr, lle y cysylltwyd â’r 66 o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei adroddiad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), rhywfaint o’r rhain yn ymwneud yn uniongyrchol ag AG / CGM a CYSAGau.

Ar ddiwedd Cam 1 lle cafodd pleidlais o aelodau’r Senedd ar 15 Rhagfyr o blaid parhad y Bil drwy’r broses ddeddfwriaethol, symudodd y Bil ymlaen i Gam 2, a ddaeth i ben gyda chyfarfod dydd Gwener.

Cymraeg