Mae’r cwricwlwm yng Nghymru yn newid sy’n golygu y bydd angen i gymwysterau newid hefyd er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben.
O nawr tan 9 Ebrill, mae Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar:
- y pynciau TGAU a ddylai fod ar gael yn y dyfodol;
- y cymwysterau eraill a wnaed ar gyfer Cymru a ddylai fod ar gael hefyd.
Mae’r ymgynghoriad bellach yn fyw ar wefan Cymwysterau Cymru a’r cynigion ar gyfer yr ystod o TGAU y cynigir eu cynnig yn y dyfodol. Gellir gweld rhai astudiaethau crefyddol ac eraill ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, drwy glicio yma:
Cymwys ar gyfer y dyfodol – dweud eich dweud
Mae Adran 3 yr ymgynghoriad yn ymdrin â chynigion i’r Dyniaethau (yn dechrau ar dudalen 22) a dyma lle gosodir astudiaethau crefyddol.
Y Cynigion yn fras
I ffurfio’r ystod o gymwysterau yn y Dyniaethau, mae Cymwysterau Cymru yn cynnig:
- Adolygu a diwygio TGAU mewn Busnes, Daearyddiaeth, Hanes ac Astudiaethau Crefyddol.
- Creu TGAU newydd mewn Astudiaethau Cymdeithasol, os yw’n ymarferol bosibl.
- Creu TGAU integredig newydd yn y Dyniaethau, os yw’n ymarferol bosibl.
Mae Canolfan San Silyn yn eich annog chi a’ch dysgwyr i fynegi’ch barn yn yr ymgynghoriad pwysig hwn fel bod Cymwysterau Cymru yn derbyn cynifer o ymatebion â phosibl i fod yn sail i benderfyniadau a wneir ar yr agwedd hollbwysig hon o addysg, sy’n effeithio’n uniongyrchol ar astudiaethau crefyddol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn neu os ydych yn dymuno trafod elfennau o’r cynigion ar gyfer y Dyniaethau gyda staff yng Nghanolfan San Silyn, mae croeso i chi gysylltu â ni.