
Mae Canolfan San Silyn yn falch bod Archwilio Mannau Cristnogol Arbennig (2il argraffiad diwygiedig ar-lein) ar gael ar Hwb.
Yn y gyfres ddwyieithog ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, mae Aled a Siân wrth iddynt archwilio chwe eglwys a chapel gwahanol iawn i’w gilydd yng Nghymru yn dysgu am y flwyddyn Gristnogol, y bywyd Cristnogol a Christnogion yn gwasanaethu eraill. Mae’r gyfres yn cynnwys stori, lluniau a llawlyfr athrawon ar gyfer pob teitl:
- Gwasanaeth Bedydd
- Y Capel Mawr
- Gwasanaeth Teuluol y Pasg
- Diolchgarwch am y Cynhaeaf
- Gwasanaeth Preseb y Nadolig
- Gwasanaeth Priodas
Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2003, Archwilio Mannau Cristnogol Arbennig oedd y gyfres Aled a Sian gyntaf a noddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae Canolfan San Silyn wedi bod yn rhan o ddatblygiad dwy gyfres Aled a Siân ddiweddarach ar gyfer y Cyfnod Sylfaen – Archwilio Pam (2016) ac Archwilio Ein Byd (2016). Yn Archwilio Pam ac Archwilio Ein Byd, mae Aled a Siân yn archwilio’r byd o’u cwmpas gyda’u ffrindiau Cristnogol, Hindwaidd, Iddewig, a Mwslimaidd. Ar ôl cyhoeddi Archwilio Mannau Cristnogol Arbennigy mis hwn, mae holl adnoddau Aled a Siân ar gael am ddim ar-lein.
Dolenni:
Archwilio Mannau Cristnogol Arbennig
Archwilio Pam
Archwilio Ein Byd