
Ers rhai blynyddoedd, dim ond yn Saesneg y cyhoeddwyd y cyfnodolyn dwyieithog, Herio Materion Crefyddol - Challenging Religious Issues. Mae Canolfan San Silyn yn sylweddoli pwysigrwydd bod adnoddau cyfrwng Cymraeg o safon uchel ar gael i gefnogi dysgwyr ac athrawon Cymraeg eu hiaith yn ardal Wrecsam.
I wneud hyn yn bosibl, mae Canolfan San Silyn wedi cymryd cyfrifoldeb dros gyhoeddi fersiwn Gymraeg y cyfnodolyn unigryw hwn i UG / Safon Uwch. Gobeithiwn y bydd y fenter hon gan Wrecsam o fudd i eraill ledled Cymru hefyd.
Ewch i’n tudalen adnoddau 16+ i gael mynediad am ddim i rifyn diweddaraf y cylchgrawn yn Gymraeg.
Mae'r erthyglau yn y rhifyn diweddaraf yn cynnwys:
- Y Goeden Deulu: Pwy yw’r Baban Iesu?
- Crefydd yn mynd yn Feiral: Ffydd a Chred mewn Pandemig
- Stephen Hawking a Bydysawd heb Dduw?
- A yw Sail Enetig Bywyd ar y Ddaear yn gwneud Bywyd ar ôl Marwolaeth yn Beth Amhosibl?
- Ar Fwdhaeth a Thrais
- Rhai Tueddiadau mewn Eco-ddiwinyddiaeth