Gall dysgwyr ac athrawon yn Wrecsam gyrchu set arall o ddeunydd gweminar wedi’i recordio, o dan arweiniad Dr Greg Baker a ddarperir gan Ganolfan San Silyn.
Yn y gyfres ddiweddaraf o adnoddau i ddysgwyr, mae’r sylw ar:
- TGAU Astudiaethau Crefyddol Uned 2 (Rhan 1 - materion cyffredinol, cwestiynau rhan a) a thermau allweddol, ffynonellau gwybodaeth a chwestiynau rhan b). Rhan 2 - Dylanwad crefydd a chwestiynau rhan c). Cwestiynau gwerthuso rhan ch);
- Cynnwys lefel UG ac ymarferion AA1 / AA2 (Otto a Chysyniad y Nwminaidd, Myfïaeth Foesegol Stirner);
- Cynnwys Safon Uwch ac ymarferion AA1 / AA2 (Beirniadaethau Ayer o Iaith Grefyddol, Finnis a’r Ddeddf Naturiol);
- Trosolwg o nodweddon asesu AA1 ac AA2 UG a Safon Uwch.
Mae’r deunyddiau hyn i gyd mewn ymateb i’r gweminarau byw i athrawon a gynhaliwyd gan Ganolfan San Silyn ym mis Chwefror 2021 ac maent ar gael tan 30 Medi 2021.
Cewch wybod mwy am ein cyfres o weminarau i’r dysgwyr yma.