Diolch i bawb ohonoch a rannodd eich barn gyda ni am ddyfodol cymwysterau yng Nghymru. Mae’ch llais yn bwysig ac mae Canolfan San Silyn wedi ymrwymo i rannu profiadau a safbwyntiau Wrecsam ar lefelau lleol a chenedlaethol.
Efallai yr hoffech ddarllen ymateb CYSAG Wrecsam i ymgynghoriad diweddar Cymwysterau Cymru yma. Roedd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar dri phrif gwestiwn:
- I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynigion i adolygu a diwygio TGAU mewn Busnes, Daearyddiaeth, Hanes ac Astudiaethau Crefyddol?
- I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynnig i greu TGAU newydd mewn Astudiaethau Cymdeithasol, os yw hynny’n ymarferol?
- I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynnig i gredu TGAU integredig newydd yn y Dyniaethau, os yw hynny’n ymarferol?
Y cam nesaf yn y broses o ddatblygu cymwysterau i’r dyfodol yng Nghymru yw dylunio’r cymwysterau eu hunain. Gallwch ddod o hyd i’r amserlen yma.