Mae’n bleser gan Ganolfan San Silyn gynnig gweminar newydd sy’n ysgogi meddwl i athrawon a dysgwyr a luniwyd i hybu trafodaeth a diddordeb mewn gwersi AG (CGM) statudol. Crëwyd y gweminar i Ganolfan San Silyn gan Dr Greg Baker ac mae’n rhan o brosiect adnoddau ehangach i gefnogi AG (CGM) ac Astudiaethau Crefyddol ar gamau allweddol 4 a 5.
Mae’r gweminar diweddaraf hwn a recordiwyd yn barod yn dangos sut gall dysgu am grefydd, credoau a gwerthoedd ac amryw o ddamcaniaethau moesegol fod yn wirioneddol werthfawr i ddysgwyr drwy gydol eu bywydau, pa bynnag lwybr maent yn ei ddilyn. Felly, mae gwersi AG (a fydd yn y dyfodol yn cael eu galw’n wersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg) nid yn unig yn cael eu hyrwyddo fel rhywbeth hanfodol, ond diddorol a gwerth chweil hefyd.
Gallwch wylio darn 8 munud o’r adnodd hwn ar ein tudalen gweminarGall athrawon Wrecsam gysylltu â ni i gael y ddolen i’r fideo llawn (28 munud).