
Yng Nghanolfan San Silyn rydym yn teimlo fod llais y dysgwr yn agwedd hollbwysig o ymagwedd hawliau dynol a byddem yn annog ysgolion a lleoliadau i ymgysylltu gymaint â phosibl â’u dysgwyr o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, er mwyn gwneud yn siŵr fod eu darpariaeth yn addas a bod barn y dysgwyr wedi cael ei chlywed a’i hystyried.
Er mwyn helpu i gefnogi ysgolion a lleoliadau yn y broses hon, mae Canolfan San Silyn wedi ychwanegu tudalen gwefan newydd ac adnodd ar gyfer llais y dysgwr yn CGM. Ymwelwch â’r dudalen newydd trwy ddilyn y ddolen hon.
(Am newyddion cysylltiedig ar lais y dysgwr, darllenwch ein herthygl newyddion diweddar: Gwrando ar bobl ifanc yn Wrecsam – Senedd yr Ifanc yn trafod CGM yn y Cwricwlwm i Gymru.)