Gwrando ar bobl ifanc yn Wrecsam: Senedd yr Ifanc yn trafod CGM yn y Cwricwlwm i Gymru

Senedd yr Ifanc website

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn dod â llawer o newidiadau i’r ddarpariaeth, yr addysgeg a’r ymarfer presennol yn ein hysgolion lleol. Mae Addysg Grefyddol yn mynd yn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) o fis Medi 2022. Felly roedd hi’n bwysig i GYSAG Wrecsam fod llais lleol y dysgwr yn cael ei glywed cyn i Gynhadledd y Maes Llafur Cytunedig argymell maes llafur cytunedig newydd i CGM i’r awdurdod lleol.

Cyfarfu Libby Jones â chynrychiolwyr o Senedd yr Ifanc ddydd Llun 25 Ebrill i ganfod safbwyntiau a barn pobl ifanc 11 – 25 oed ar y newidiadau sy’n effeithio ar addysg grefyddol a’r trawsnewid i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Bu’r bobl ifanc yn gwrando’n astud ac yn barchus, wrth iddyn nhw ystyried y newidiadau gydag aeddfedrwydd a difrifoldeb. Fe ofynnon nhw gwestiynau perthnasol a chraff am sut bydd y newidiadau’n effeithio arnyn nhw a’u cyd-ddysgwyr. Soniodd y cynrychiolwyr hŷn am eu profiadau nhw yn y gorffennol yn yr ysgol gan ddangos empathi a pharch i’w cyfoedion iau a fydd yn cael eu heffeithio’n bennaf gan y newidiadau.

Roedd rhai o’r pwyntiau a godwyd yn cynnwys:

  • pwysigrwydd archwilio gwahanol gredoau crefyddol ac anghrefyddol er mwyn cael cymdeithas gydlynus;
  • pwysigrwydd teimlo eich bod yn cael eich cynnwys yn y gwersi hyn a sut bydd CGM yn gwneud addysgu a dysgu yn fwy hygyrch a pherthnasol iddyn nhw;
  • bydd dysgu am werthoedd a moeseg pobl yn ogystal â’u crefyddau yn fwy diddorol ac apelgar i ddysgwyr o bob oed a chefndir;
  • pryder a fyddai cynnwyd credoau anghrefyddol mewn cwricwlwm sydd eisoes yn llawn yn gorlwytho’r pwnc ac yn gwneud arholiadau CGM felly yn fwy trymlwythog o ran cynnwys;
  • pryder am sut y gall y newidiadau effeithio ar faint maen nhw’n ei ddysgu am eu crefydd eu hunain;
  • pryder am eu hathrawon yn gorfod sicrhau fod eu gwybodaeth bynciol yn ddigon eang i gynnwys ychwanegu credoau anghrefyddol; ac
  • yr angen i sicrhau fod yr addysgu a’r dysgu yn seiliedig ar wybodaeth ddilys a chywir, yn enwedig i grefyddau neu enwadau llai cyfarwydd efallai sy’n cael eu cynrychioli’n lleol ac yn genedlaethol.

Drwyddi draw, roedd Senedd yr Ifanc yn gadarnhaol iawn am CGM, a bydd cyfraniadau gwerthfawr y bobl ifanc oedd yn bresennol yn helpu i lywio’r maes llafur cytunedig ar CGM a’r gefnogaeth a gynigir gan yr awdurdod lleol drwy ei Gyngor Ymgynghorol Sefydlog i ysgolion wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.

Diolch i bawb o’r bobl ifanc a ddaeth i’r cyfarfod ac i Caroline a Tricia am hwyluso.

Cymraeg

Discover more from St Giles' Centre

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading