Gwyddoniaeth yn cyfarfod CGM mewn prosiect cwricwlwm newydd i ysgolion cynradd Wrecsam

Mae Gwyddoniaeth Gogledd Cymru yn elusen sydd â gweledigaeth i fod yn 'Gartref i Ysbrydoli Gwyddoniaeth yng Nghalon y Gymuned'. Mae'r elusen yn rhedeg y ganolfan darganfod gwyddoniaeth, Xplore! Wrecsam, ac yn darparu gweithgareddau rhyngweithiol allgymorth ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

Mae'r tîm yn Xplore! yn cyd-greu pedwar gweithdy mewn cydweithrediad agos â Chanolfan San Silyn Wrecsam, yn arbennig i ysgolion cynradd. Bydd pob gweithdy yn dwyn ynghyd addysgu a dysgu mewn crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) a gwyddoniaeth mewn ffyrdd creadigol a rhyngweithiol.

Ddydd Iau 1 Rhagfyr, bu Ysgol Gynradd y Santes Fair, Owrtyn, yn treialu un o weithdai In Search of Light gyda dysgwyr bl 3 a 4. Mwynhaodd y plant y profiad yn fawr a chanfod llawer o gysylltiadau defnyddiol rhwng y ddau faes pwnc. Mae'r ysgol wedi creu cyfres o collages i ddangos sut roedd y cysylltiadau hyn yn ymwneud â’u cwricwlwm newydd.

Bydd y peilot yn parhau yn 2023, ac yn cynnwys hyd at 20 o ysgolion cynradd yn Wrecsam. Am fanylion pellach ar sut y gall eich ysgol gymryd rhan, gysylltu â ni.

Collages wedi'u creu gan Ysgol Gynradd y Santes Fair, Owrtyn

(gyda diolch i Nia Williams)

Cymraeg

Discover more from St Giles' Centre

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading