
Mae rhifyn mis Mehefin o E-gylchgrawn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg wedi'i gyhoeddi ar Hwb. Yn y rhifyn hwn, mae tair erthygl fer yn archwilio cwestiynau allweddol sy'n berthnasol i Foeseg Deallusrwydd Artiffisial, gan gynnwys:
- Delio efo Deallusrwydd Artiffisial a cham-wybodaeth: Sut ydyn ni’n gwybod beth sy’n wir?
- Fedrith robot fod yn arweinydd ysbrydol i chi?
- Sut allai’r defnydd o AI effeithio ar amgylcheddau naturiol a dynol
Beth sydd wedi'i gynnwys yn yr e-gylchgrawn?
Mae pob rhifyn o e-gylchgrawn wedi'i ailwampio 2026 yn darparu:
- tair erthygl fer sy’n gysylltiedig â Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Cwricwlwm i Gymru;
- ffocws thematig clir i gefnogi ymgysylltiad ystyrlon gan ddysgwyr;
- nodiadau i athrawon gyda gweithgareddau awgrymedig i ddyfnhau trafodaeth a dealltwriaeth.
Perthnasedd i ysgolion Wrecsam
Mae’r adnodd hwn yn cynnig cymorth ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth i athrawon uwchradd ledled Wrecsam, gan helpu i:
- ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o faterion cyfoes moesegol a chrefyddol;
- cefnogi addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Cwricwlwm i Gymru;
- darparu deunyddiau parod i’w defnyddio y gellir eu haddasu ar gyfer gwahanol gyd-destunau dysgu.
Mae hefyd yn ddefnyddiol i athrawon cynradd sydd eisiau datblygu eu harbenigedd pwnc.
Arbenigedd lleol
Mae tri arbenigwr CGM lleol bellach yn cyfrannu at yr e-gylchgrawn:
- Libby Jones fel arbenigwraig bwnc a chynghorydd
- Tania ap Siôn fel Golygydd
- Neera Vyas fel awdur cyfrannol
Mae eu cyfraniad yn helpu i sicrhau bod y cynnwys yn gefnogol ac yn berthnasol i anghenion ysgolion uwchradd ac athrawon yn Wrecsam.