Archwilio bydolygon: adnodd ysgogol i grefydd, gwerthoedd a moeseg yng Nghymru

Mae Canolfan San Silyn wedi cyhoeddi adnodd dysgu proffesiynol dwyieithog newydd o’r enw Archwilio bydolygon: adnodd ysgogol i grefydd, gwerthoedd a moeseg yng Nghymru. Lansiwyd yr adnodd mewn sesiwn arbennig o ddysgu proffesiynol a ddarparwyd gan Ganolfan San Silyn ar 9 Mehefin 2022 i ymarferwyr uwchradd yn Wrecsam. Mae cyhoeddi Archwilio bydolygon:Parhau i ddarllen “Exploring worldviews: a stimulus resource for religion, values and ethics in Wales”

Rhagflas ar gyfer Maes Llafur Cytunedig newydd Wrecsam ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Ar ddechrau mis Mehefin, cafodd ymarferwyr cynradd ac uwchradd yn awdurdod lleol Wrecsam ragolwg o Faes Llafur Cytunedig newydd Wrecsam ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Roedd y rhagflas yn rhan o ddwy sesiwn dysgu proffesiynol a gynhaliwyd gan Ganolfan San Silyn a gynlluniwyd i gefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.Parhau i ddarllen Trailer for the new Wrexham Agreed Syllabus for Religion, Values and Ethics

Dysgu proffesiynol yn CGM: Digwyddiad Mewnwelediad Polisi wedi’i gyhoeddi ar Hwb

Roedd hi’n fraint i staff Canolfan San Silyn, Libby Jones a Tania ap Siôn, gael lletya Digwyddiad Mewnwelediad Polisi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) Llywodraeth Cymru ar ran Cymdeithas CYSAGau Cymru. Nod y Digwyddiadau Mewnwelediad Polisi ar-lein yw diweddaru rhanddeiliaid â datblygiadau dysgu proffesiynol ar gyfer y CwricwlwmParhau i ddarllen “Professional learning in RVE: Policy Insight Event now published on Hwb”

Fideo ar Grefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) yn y Cwricwlwm i Gymru

Mae Canolfan San Silyn wedi creu fideo am ddim ar CGM yn y Cwricwlwm i Gymru, y gellir ei weld ar wefan y Ganolfan. Addasiad yw’r fideo 45 munud o sesiwn dysgu proffesiynol a gynigiwyd gan y Ganolfan i bob ysgol yn Wrecsam ar 12 Ionawr 2022. Mynychodd dros 90 o ymarferwyr yn Wrecsam y digwyddiad hwn ar-leinParhau i ddarllen “Video on Religion, values and ethics (RVE) in the Curriculum for Wales”

Cymraeg