Adnodd i gefnogi athrawon a dysgwyr Safon Uwch sy’n archwilio gwyddoniaeth a chrefydd

Yn ddiweddar, mae Canolfan San Silyn wedi cyhoeddi rhifyn arbennig Cymraeg o Herio Materion Crefyddol ar wyddoniaeth a chrefydd. (Cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg yn hydref 2019.)

Yn wreiddiol, mae’r rhifyn arbennig hwn wedi bod yn bosibl drwy gymorth grant gan Sefydliad John Templeton, UDA.

Mae lawrlwythiadau am ddim o’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael yma ar ein tudalen 16+.

Mae erthyglau rhifyn arbennig yn cynnwys:

Technoleg a’r Natur Ddynol gan Adam M. Willows
Mae’r erthygl hon yn adolygu rhai o’r trafodaethau diwinyddol am dechnoleg sy’n datblygu. Mae’n trafod sut mae technolegau newydd yn codi cwestiynau am ein dealltwriaeth o’r natur ddynol, a sut gallai ymatebion diwinyddol gwahanol ddelio â’r cwestiynau hyn.

Esblygiad a’r Ddadl o (neu i) Gynllun gan Jeff Astley
Mae’r erthygl yn crynhoi effaith y mecanwaith a gynigir gan Darwin am esblygiad ar y ddadl ddyluniad dros fodolaeth Duw.

Stiwardiaeth y Greadigaeth gan Andrew Village
Mae’r traddodiad Iddewig-Gristnogol wedi cael ei feio i raddau am greu agwedd tuag at yr amgylchedd sy’n ei weld fel rhywbeth i fodau dynol dra-arglwyddiaethu arno a manteisio arno er eu budd nhw. Mae hefyd yn pwysleisio’r syniad fod pobl yn ‘stiwardiaid’ y greadigaeth, wedi cael y gwaith o edrych ar ôl y blaned dros Dduw. Ond beth yw ystyr stiwardio’r greadigaeth? Mae’r erthygl hon yn disgrifio dwy enghraifft o’r ffordd y mae gweithgarwch dynol wedi ffurfio cynefinoedd gwahanol ac wedi cael effeithiau cymhleth ar yr adar sy’n byw yno.

Meddwl am fod yn Ddynol mewn Bydysawd o Estroniaid gan David Wilkinson
Un o bynciau llosg gwyddonol mwyaf ein cenhedlaeth yw’r Ymchwil am Ddeallusrwydd Allfydol (Search for Extraterrestrial Intelligence neu SETI). Mae’r cwestiwn a ydym ar ein pennau ein hunain yn y bydysawd wedi cyfareddu’r cyfryngau a’r cyhoedd ers tro ac wedi ennyn diddordeb newydd wrth i ecsoblanedau gael eu darganfod, gyda nifer bach ohonynt â nodweddion tebyg i’r Ddaear. Mae darganfod bywyd yn rhywle arall yn y bydysawd, yn enwedig os yw’n ddeallus, yn codi cwestiynau mawr i’r ffydd Gristnogol mewn meysydd fel y creu, ymgnawdoliad, iachawdwriaeth a natur beth mae’n ei olygu i fod yn ddynol.

Ydi’r Greadigaeth yn Gyflawn? Trafodaeth ar Greadigaeth Barhaus gan Timothy Wall
Mae’r erthygl yn archwilio’r syniad fod y greadigaeth yn anghyflawn, drwy’r cysyniad o greadigaeth barhaus. Mae hyn yn codi o’r byd dynamig fel y disgrifir gan wyddoniaeth ac yn y Beibl, ond dadleuir ei fod yn ddiffygiol yn y bôn, yn wyddonol ac yn ddiwinyddol. Yn ei hanfod mae’n broblem dweud fod y greadigaeth yn anghyflawn oherwydd nid yw’n caniatáu dim toriad rhwng creadigaeth a chreadigaeth newydd. Mae’r erthygl yn awgrymu y gall barn am greadigaeth wedi’i gwreiddio yng Nghrist ganiatáu i ni ddweud fod creadigaeth yn gyflawn ac yn ddynamig.

Mae Herio Materion Crefyddol yn gyfnodolyn ar-lein, mynediad agored am ddim a luniwyd i gefnogi athrawon a myfyrwyr sy’n dilyn Astudiaethau Crefyddol Safon Uwch, gan ddod ac ysgolheictod ac ymchwil diweddar a pherthnasol o’r Brifysgol i’r ystafell ddosbarth lefel A.

Caiff fersiwn Gymraeg Herio Materion Crefyddol ei noddi a’i reoli gan Ganolfan San Silyn Wrecsam.

Cymraeg

Discover more from St Giles' Centre

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading