Mae Gwyddoniaeth Gogledd Cymru yn elusen sydd â gweledigaeth i fod yn 'Gartref i Ysbrydoli Gwyddoniaeth yng Nghalon y Gymuned'. Mae'r elusen yn rhedeg y ganolfan darganfod gwyddoniaeth, Xplore! Wrecsam, ac yn darparu gweithgareddau rhyngweithiol allgymorth ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Mae'r tîm yn Xplore! yn cyd-greu pedwar gweithdy mewn cydweithrediad agosParhau i ddarllen “Science meets RVE in a new curriculum project for Wrexham primary schools”
Tagio Archifau: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM)
Argraffiad cyfyngedig o adnoddau Randalph Ddoeth ar gyfer CGM yn cael eu rhoi i ysgolion cynradd Wrecsam
Ar 22 Tachwedd, rhoddodd Cynghorydd CGM Awdurdod Lleol Wrecsam, Libby Jones, gyflwyniad yng nghyfarfod Briffio Penaethiaid ysgolion cynradd ac uwchradd awdurdod lleol Wrecsam. Yn ystod y cyflwyniad, rhoddodd Libby negeseuon allweddol i benaethiaid am: • CGM yn y Cwricwlwm i Gymru; • Maes Llafur Cytunedig Wrecsam ar gyfer CGM; • dysgu proffesiynol ar lefel genedlaethol aParhau i ddarllen “Limited edition Randalph the Wise resources for RVE given to Wrexham primary schools”
Canllawiau anstatudol ategol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ysgolion Catholig yng Nghymru
Mae Canolfan San Silyn yn croesawu cyhoeddi'r ddogfen Cwricwlwm i Gymru: canllawiau anstatudol ategol ar gyfer ysgolion Catholig, sy'n ymwneud â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg statudol (CGM). Mae canllawiau ar 'Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb' hefyd wedi'u cynnwys yn y ddogfen. Nod y ddogfen yw rhoi arweiniad anstatudol ychwanegol i benaethiaid, llywodraethwyr, staff, rhieni a chlerigwyrParhau i ddarllen “Supporting non-statutory guidance published for Catholic schools in Wales”
Qatar, Pêl-droed a Hawliau Dynol: ‘All Things Considered’ yn dod i Wrecsam
Dydd Iau 10fed Tachwedd bydd cyfres ffydd a moeseg arobryn BBC Radio Wales 'All Things Considered' yn cael ei recordio o flaen cynulleidfa fyw ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae hyn i nodi Gŵyl Bêl-droed Wal Goch, sy’n cael ei dathlu yn Wrecsam o 11-13 Tachwedd. Mae gwesteion y rhaglen yn cynnwys: Graham Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cristnogion mewn ChwaraeonParhau i ddarllen “Qatar, Football and Human Rights: ‘All Things Considered’ comes to Wrexham”
Cofrestrwch ar gyfer gweminar ar y cynigion TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd
Fel rhan o’r broses ymgynghori, mae Cymwysterau Cymru yn cynnal gweminar yn rhoi trosolwg o’r cynigion TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd ar 19 Hydref 2022, 16.00 – 17.00. Bydd TGAU Astudiaethau Crefyddol Newydd yn “annog dysgwyr i wneud synnwyr o’r profiad dynol, y byd naturiol,Parhau i ddarllen “Sign up for webinar on the new Religious Studies GCSE proposals”
Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yr Eglwys yng Nghymru
Mae Canolfan San Silyn yn croesawu cyhoeddi’n ddiweddar Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yr Eglwys yng Nghymru. Gan gyfeirio’n benodol at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, mae Datganiad yr Eglwys yng Nghymru ar Addysg yn dweud: “Trwy gydol ei hanes mae Cymru wedi croesawu pobl o wahanol ffydd ac o ddiwylliannau gwahanol, a thrwy ei haddysg ar bwncParhau i ddarllen “Church in Wales Religion, Values and Ethics Guidance”
Maes Llafur Cytunedig Wrecsam wedi'i gyhoeddi
Mae Maes Llafur Cytunedig newydd Wrecsam ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) 2022 ar gael, a chafodd ei ddosbarthu i benaethiaid yn yr awdurdod lleol yr wythnos diwethaf. Yn nhymor yr hydref, bydd y Maes Llafur Cytunedig hefyd ar wefan awdurdod lleol Wrecsam. Gallwch ddarllen fersiynau Cymraeg a Saesneg y Maes Llafur CytunedigParhau i ddarllen “Wrexham Agreed Syllabus now published”
Archwilio bydolygon: adnodd ysgogol i grefydd, gwerthoedd a moeseg yng Nghymru
Mae Canolfan San Silyn wedi cyhoeddi adnodd dysgu proffesiynol dwyieithog newydd o’r enw Archwilio bydolygon: adnodd ysgogol i grefydd, gwerthoedd a moeseg yng Nghymru. Lansiwyd yr adnodd mewn sesiwn arbennig o ddysgu proffesiynol a ddarparwyd gan Ganolfan San Silyn ar 9 Mehefin 2022 i ymarferwyr uwchradd yn Wrecsam. Mae cyhoeddi Archwilio bydolygon:Parhau i ddarllen “Exploring worldviews: a stimulus resource for religion, values and ethics in Wales”
Rhagflas ar gyfer Maes Llafur Cytunedig newydd Wrecsam ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Ar ddechrau mis Mehefin, cafodd ymarferwyr cynradd ac uwchradd yn awdurdod lleol Wrecsam ragolwg o Faes Llafur Cytunedig newydd Wrecsam ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Roedd y rhagflas yn rhan o ddwy sesiwn dysgu proffesiynol a gynhaliwyd gan Ganolfan San Silyn a gynlluniwyd i gefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.Parhau i ddarllen “Trailer for the new Wrexham Agreed Syllabus for Religion, Values and Ethics“
Tudalen gwefan newydd ac adnodd ar gyfer llais y dysgwr yn CGM
Yng Nghanolfan San Silyn rydym yn teimlo fod llais y dysgwr yn agwedd hollbwysig o ymagwedd hawliau dynol a byddem yn annog ysgolion a lleoliadau i ymgysylltu gymaint â phosibl â’u dysgwyr o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, er mwyn gwneud yn siŵr fod eu darpariaeth yn addas a bod barn y dysgwyrParhau i ddarllen “New website page and resource for the learner voice in RVE”