Cofrestrwch ar gyfer gweminar ar y cynigion TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd

Fel rhan o’r broses ymgynghori, mae Cymwysterau Cymru yn cynnal gweminar yn rhoi trosolwg o’r cynigion TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd ar 19 Hydref 2022, 16.00 – 17.00. Bydd TGAU Astudiaethau Crefyddol Newydd yn “annog dysgwyr i wneud synnwyr o’r profiad dynol, y byd naturiol,Parhau i ddarllen “Sign up for webinar on the new Religious Studies GCSE proposals”

Maes Llafur Cytunedig Wrecsam wedi'i gyhoeddi

Mae Maes Llafur Cytunedig newydd Wrecsam ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) 2022 ar gael, a chafodd ei ddosbarthu i benaethiaid yn yr awdurdod lleol yr wythnos diwethaf. Yn nhymor yr hydref, bydd y Maes Llafur Cytunedig hefyd ar wefan awdurdod lleol Wrecsam. Gallwch ddarllen fersiynau Cymraeg a Saesneg y Maes Llafur CytunedigParhau i ddarllen “Wrexham Agreed Syllabus now published”

Archwilio bydolygon: adnodd ysgogol i grefydd, gwerthoedd a moeseg yng Nghymru

Mae Canolfan San Silyn wedi cyhoeddi adnodd dysgu proffesiynol dwyieithog newydd o’r enw Archwilio bydolygon: adnodd ysgogol i grefydd, gwerthoedd a moeseg yng Nghymru. Lansiwyd yr adnodd mewn sesiwn arbennig o ddysgu proffesiynol a ddarparwyd gan Ganolfan San Silyn ar 9 Mehefin 2022 i ymarferwyr uwchradd yn Wrecsam. Mae cyhoeddi Archwilio bydolygon:Parhau i ddarllen “Exploring worldviews: a stimulus resource for religion, values and ethics in Wales”

Rhagflas ar gyfer Maes Llafur Cytunedig newydd Wrecsam ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Ar ddechrau mis Mehefin, cafodd ymarferwyr cynradd ac uwchradd yn awdurdod lleol Wrecsam ragolwg o Faes Llafur Cytunedig newydd Wrecsam ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Roedd y rhagflas yn rhan o ddwy sesiwn dysgu proffesiynol a gynhaliwyd gan Ganolfan San Silyn a gynlluniwyd i gefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.Parhau i ddarllen “Trailer for the new Wrexham Agreed Syllabus for Religion, Values and Ethics“

Dysgu proffesiynol yn CGM: Digwyddiad Mewnwelediad Polisi wedi’i gyhoeddi ar Hwb

Roedd hi’n fraint i staff Canolfan San Silyn, Libby Jones a Tania ap Siôn, gael lletya Digwyddiad Mewnwelediad Polisi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) Llywodraeth Cymru ar ran Cymdeithas CYSAGau Cymru. Nod y Digwyddiadau Mewnwelediad Polisi ar-lein yw diweddaru rhanddeiliaid â datblygiadau dysgu proffesiynol ar gyfer y CwricwlwmParhau i ddarllen “Professional learning in RVE: Policy Insight Event now published on Hwb”

Gwrando ar bobl ifanc yn Wrecsam: Senedd yr Ifanc yn trafod CGM yn y Cwricwlwm i Gymru

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn dod â llawer o newidiadau i’r ddarpariaeth, yr addysgeg a’r ymarfer presennol yn ein hysgolion lleol. Mae Addysg Grefyddol yn mynd yn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) o fis Medi 2022. Felly roedd hi’n bwysig i GYSAG Wrecsam fod llais lleol y dysgwr yn cael ei glywed cyn i Gynhadledd y Maes Llafur Cytunedig argymell maes llafur cytunedig newydd i CGM i’rParhau i ddarllen “Listening to young people in Wrexham: Senedd yr Ifanc discusses RVE in the Curriculum for Wales”

Fideo ar Grefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) yn y Cwricwlwm i Gymru

Mae Canolfan San Silyn wedi creu fideo am ddim ar CGM yn y Cwricwlwm i Gymru, y gellir ei weld ar wefan y Ganolfan. Addasiad yw’r fideo 45 munud o sesiwn dysgu proffesiynol a gynigiwyd gan y Ganolfan i bob ysgol yn Wrecsam ar 12 Ionawr 2022. Mynychodd dros 90 o ymarferwyr yn Wrecsam y digwyddiad hwn ar-leinParhau i ddarllen “Video on Religion, values and ethics (RVE) in the Curriculum for Wales”

Cyhoeddi Canllawiau i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg Statudol ar Hwb

Cyhoeddwyd y canllawiau i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) statudol ar Hwb ddoe (10 Ionawr 2022). Mae’r canllawiau CGM wedi’u hintegreiddio’n llawn i’r Cwricwlwm i Gymru, ac mae’n eistedd yn adran ‘Cynllunio eich Cwricwlwm’ Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Gellir gweld gwybodaeth berthnasol ar CGM a’r ddeddfwriaeth yn adran ‘CrynodebParhau i ddarllen “Statutory Religion, Values and Ethics Guidance (RVE) published on Hwb”

Mae Canolfan San Silyn yn cynnig sesiwn ddysgu proffesiynol ar CGM yn y Cwricwlwm i Gymru i ysgolion Wrecsam

Mae Canolfan San Silyn yn cynnig sesiwn ddysgu broffesiynol sylfaenol ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn y Cwricwlwm i Gymru i ysgolion yn Wrecsam. Mae’r sesiwn am ddim a bydd yn cael ei chynnal ar Dimau Microsoft ddydd Mercher, 12 Ionawr 2022 am 4pm. Bydd yn para tua awr, a fydd yn cynnwys amser ar gyferParhau i ddarllen “St Giles’ Centre offers Wrexham schools professional learning session on RVE in the Curriculum for Wales”

Cymraeg