Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yr Eglwys yng Nghymru

Mae Canolfan San Silyn yn croesawu cyhoeddi’n ddiweddar Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yr Eglwys yng Nghymru. Gan gyfeirio’n benodol at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, mae Datganiad yr Eglwys yng Nghymru ar Addysg yn dweud: “Trwy gydol ei hanes mae Cymru wedi croesawu pobl o wahanol ffydd ac o ddiwylliannau gwahanol, a thrwy ei haddysg ar bwncParhau i ddarllen “Church in Wales Religion, Values and Ethics Guidance”

Rhaglen dysgu proffesiynol CBAC ar gyfer 2022/23

Mae CBAC newydd gyflwyno ei raglen dysgu proffesiynol newydd ar gyfer 2022/23. Mae dros 600 o gyrsiau wyneb yn wyneb neu ar-lein yn cael eu cynnig, a fydd yn cael eu rhedeg gan dîm o arbenigwyr CBAC ar draws y wlad. Bydd Canolfan San Silyn yn ariannu lleoedd i ysgolion Wrecsam ar y cyrsiau Astudiaethau Crefyddol TGAU ac UG/Safon Uwch Astudiaethau CrefyddolParhau i ddarllen “WJEC professional learning programme for 2022/23”

Maes Llafur Cytunedig Wrecsam wedi'i gyhoeddi

Mae Maes Llafur Cytunedig newydd Wrecsam ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) 2022 ar gael, a chafodd ei ddosbarthu i benaethiaid yn yr awdurdod lleol yr wythnos diwethaf. Yn nhymor yr hydref, bydd y Maes Llafur Cytunedig hefyd ar wefan awdurdod lleol Wrecsam. Gallwch ddarllen fersiynau Cymraeg a Saesneg y Maes Llafur CytunedigParhau i ddarllen “Wrexham Agreed Syllabus now published”

Archwilio bydolygon: adnodd ysgogol i grefydd, gwerthoedd a moeseg yng Nghymru

Mae Canolfan San Silyn wedi cyhoeddi adnodd dysgu proffesiynol dwyieithog newydd o’r enw Archwilio bydolygon: adnodd ysgogol i grefydd, gwerthoedd a moeseg yng Nghymru. Lansiwyd yr adnodd mewn sesiwn arbennig o ddysgu proffesiynol a ddarparwyd gan Ganolfan San Silyn ar 9 Mehefin 2022 i ymarferwyr uwchradd yn Wrecsam. Mae cyhoeddi Archwilio bydolygon:Parhau i ddarllen “Exploring worldviews: a stimulus resource for religion, values and ethics in Wales”

Rhagflas ar gyfer Maes Llafur Cytunedig newydd Wrecsam ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Ar ddechrau mis Mehefin, cafodd ymarferwyr cynradd ac uwchradd yn awdurdod lleol Wrecsam ragolwg o Faes Llafur Cytunedig newydd Wrecsam ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Roedd y rhagflas yn rhan o ddwy sesiwn dysgu proffesiynol a gynhaliwyd gan Ganolfan San Silyn a gynlluniwyd i gefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.Parhau i ddarllen “Trailer for the new Wrexham Agreed Syllabus for Religion, Values and Ethics“

Tudalen gwefan newydd ac adnodd ar gyfer llais y dysgwr yn CGM

Yng Nghanolfan San Silyn rydym yn teimlo fod llais y dysgwr yn agwedd hollbwysig o ymagwedd hawliau dynol a byddem yn annog ysgolion a lleoliadau i ymgysylltu gymaint â phosibl â’u dysgwyr o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, er mwyn gwneud yn siŵr fod eu darpariaeth yn addas a bod barn y dysgwyrParhau i ddarllen “New website page and resource for the learner voice in RVE”

Sesiynau dysgu proffesiynol i lansio maes llafur cytunedig Wrecsam ar gyfer CGM

Yn ystod tymor yr haf hwn, mae Canolfan San Silyn yn cynnig dwy sesiwn dysgu proffesiynol i ysgolion yn Wrecsam i lansio maes llafur cytunedig Wrecsam ar gyfer CGM. Mae’r sesiynau am ddim a byddant yn cael eu cynnal ar Microsoft Teams. Cynhelir y sesiwn ar gyfer ysgolion cynradd ddydd Mawrth 7 Mehefin 2022, rhwng 4pm a 5.30pm. Fel rhan o lansiad y maes llafur cytunedig, bydd y sesiwn yn archwilio cynefin a CGM. Cynhelir y sesiwn ar gyfer ysgolion uwchradd ddydd Iau 9 Mehefin 2022, am 4pm – 5.30pm. Fel rhanParhau i ddarllen “Professional learning sessions to launch the Wrexham agreed syllabus for RVE”

Dysgu proffesiynol yn CGM: Digwyddiad Mewnwelediad Polisi wedi’i gyhoeddi ar Hwb

Roedd hi’n fraint i staff Canolfan San Silyn, Libby Jones a Tania ap Siôn, gael lletya Digwyddiad Mewnwelediad Polisi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) Llywodraeth Cymru ar ran Cymdeithas CYSAGau Cymru. Nod y Digwyddiadau Mewnwelediad Polisi ar-lein yw diweddaru rhanddeiliaid â datblygiadau dysgu proffesiynol ar gyfer y CwricwlwmParhau i ddarllen “Professional learning in RVE: Policy Insight Event now published on Hwb”

Gwrando ar bobl ifanc yn Wrecsam: Senedd yr Ifanc yn trafod CGM yn y Cwricwlwm i Gymru

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn dod â llawer o newidiadau i’r ddarpariaeth, yr addysgeg a’r ymarfer presennol yn ein hysgolion lleol. Mae Addysg Grefyddol yn mynd yn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) o fis Medi 2022. Felly roedd hi’n bwysig i GYSAG Wrecsam fod llais lleol y dysgwr yn cael ei glywed cyn i Gynhadledd y Maes Llafur Cytunedig argymell maes llafur cytunedig newydd i CGM i’rParhau i ddarllen “Listening to young people in Wrexham: Senedd yr Ifanc discusses RVE in the Curriculum for Wales”

Y newyddion diweddaraf ar faes llafur cytunedig newydd Wrecsam

Dydd Iau 28 Ebrill 2022, bydd Cynhadledd y Maes Llafur Cytunedig Wrecsam (y Gynhadledd) yn galw ei gyfarfod olaf i gymeradwyo’r maes llafur cytunedig lleol newydd i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Cyfarfu gweithgor y Gynhadledd yn rheolaidd drwy Chwefror a Mawrth i drafod y canllawiau statudol cenedlaethol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar Hwb, ac i baratoiParhau i ddarllen “Latest news on the new Wrexham agreed syllabus”

Cymraeg