Enghraifft o Dempled Cynllunio Tymor Canolig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM)

Mae cynllunio tymor canolig gofalus ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y dull ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei sefydlu’n briodol ar draws y cwricwlwm.

O ganlyniad, mae Canolfan San Silyn wedi datblygu enghraifft o adnodd cynllunio tymor canolig enghreifftiol. Lluniwyd yr adnodd i amlygu’r ystyriaethau cynllunio sylweddol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i gefnogi ysgolion i ystyried canllawiau a maes llafur cytunedig lleol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg y Cwricwlwm i Gymru.

Gellir diwygio’r enghraifft hon er mwyn galluogi defnyddwyr i’w theilwra i fodloni anghenion unigol yr ysgol neu’r lleoliad. Bydd Canolfan San Silyn yn ddiolchgar iawn o unrhyw adborth ar yr enghraifft hon yn ogystal ag unrhyw enghreifftiau eraill y mae ysgolion yn eu defnyddio wrth iddynt baratoi ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sut gellid defnyddio’r enghraifft hon, cysylltu â ni.

Gellir lawrlwytho fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r templed isod. Maen nhw ar gael hefyd ar ein tudalen Deunydd Cefnogi .

Mae dogfennau wedi’u diweddaru ar gael i’w lawrlwytho (11 Gorffennaf 2024).

Gwyddoniaeth yn cyfarfod CGM mewn prosiect cwricwlwm newydd i ysgolion cynradd Wrecsam

Mae Gwyddoniaeth Gogledd Cymru yn elusen sydd â gweledigaeth i fod yn 'Gartref i Ysbrydoli Gwyddoniaeth yng Nghalon y Gymuned'. Mae'r elusen yn rhedeg y ganolfan darganfod gwyddoniaeth, Xplore! Wrecsam, ac yn darparu gweithgareddau rhyngweithiol allgymorth ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

Mae'r tîm yn Xplore! yn cyd-greu pedwar gweithdy mewn cydweithrediad agos â Chanolfan San Silyn Wrecsam, yn arbennig i ysgolion cynradd. Bydd pob gweithdy yn dwyn ynghyd addysgu a dysgu mewn crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) a gwyddoniaeth mewn ffyrdd creadigol a rhyngweithiol.

Ddydd Iau 1 Rhagfyr, bu Ysgol Gynradd y Santes Fair, Owrtyn, yn treialu un o weithdai In Search of Light gyda dysgwyr bl 3 a 4. Mwynhaodd y plant y profiad yn fawr a chanfod llawer o gysylltiadau defnyddiol rhwng y ddau faes pwnc. Mae'r ysgol wedi creu cyfres o collages i ddangos sut roedd y cysylltiadau hyn yn ymwneud â’u cwricwlwm newydd.

Bydd y peilot yn parhau yn 2023, ac yn cynnwys hyd at 20 o ysgolion cynradd yn Wrecsam. Am fanylion pellach ar sut y gall eich ysgol gymryd rhan, cysylltu â ni.

Collages wedi'u creu gan Ysgol Gynradd y Santes Fair, Owrtyn

(gyda diolch i Nia Williams)

Argraffiad cyfyngedig o adnoddau Randalph Ddoeth ar gyfer CGM yn cael eu rhoi i ysgolion cynradd Wrecsam

Randalph the Wise poster English

Ar 22 Tachwedd, rhoddodd Cynghorydd CGM Awdurdod Lleol Wrecsam, Libby Jones, gyflwyniad yng nghyfarfod Briffio Penaethiaid ysgolion cynradd ac uwchradd awdurdod lleol Wrecsam.

Yn ystod y cyflwyniad, rhoddodd Libby negeseuon allweddol i benaethiaid am:
• CGM yn y Cwricwlwm i Gymru;
• Maes Llafur Cytunedig Wrecsam ar gyfer CGM;
• dysgu proffesiynol ar lefel genedlaethol a lleol;
• cymhwyster newydd Agored Cymru Archwilio Bydolygon ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed;
• ac adnoddau i gefnogi’r cwricwlwm.

Fel rhan o'r adnoddau cwricwlwm hyn, dosbarthwyd copïau caled 'argraffiad cyfyngedig' arbennig o'r gyfres llyfr stori, Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr i'r penaethiaid cynradd i fynd yn ôl i'w hysgolion gyda phoster ar gyfer eu hystafelloedd staff. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd llyfr stori Wrecsam newydd yn cael ei gyhoeddi yn y gyfres.

Cafodd yr argraffiad cyfyngedig a llyfr stori Wrecsam eu datblygu a'u noddi gan Ganolfan San Silyn.

Noddwyd y gyfres ddwyieithog ar-lein rhad ac am ddim hon yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi CGM yn y Cwricwlwm i Gymru. Gan ddefnyddio dull integredig o ymdrin â CGM o fewn Maes y Dyniaethau, mae’r gyfres yn cynnwys:
• 6 llyfr stori
• ffilmiau
• cerddoriaeth;
• canllaw i athrawon (diwygiwyd ym mis Tachwedd 2022).

Er ei bod wedi'i hysgrifennu ar gyfer dysgwyr cynradd, byddai'r gyfres hefyd yn gweithio'n dda fel adnodd pontio.

ellir cyrchu’r gyfres drwy Hwb Llywodraeth Cymru, gwefan Canolfan San Silyn neu’n uniongyrchol o wefan Randalph Ddoeth . Gallwch lawrlwytho'r posteri yma:

Canllawiau anstatudol ategol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ysgolion Catholig yng Nghymru

Mae Canolfan San Silyn yn croesawu cyhoeddi'r ddogfen Cwricwlwm i Gymru: canllawiau anstatudol ategol ar gyfer ysgolion Catholig, sy'n ymwneud â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg statudol (CGM). Mae canllawiau ar 'Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb' hefyd wedi'u cynnwys yn y ddogfen.

Nod y ddogfen yw rhoi arweiniad anstatudol ychwanegol i benaethiaid, llywodraethwyr, staff, rhieni a chlerigwyr ysgolion Catholig ar ddefnyddio’r Cwricwlwm i Gymru ‘i ddylunio cwricwlwm sy’n adlewyrchu eu ffydd a’u gwerthoedd Catholig. Mae'n datblygu ymhellach ar ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru, gan ddarparu cefnogaeth o fewn cyd-destun i ysgolion Catholig. Ni fwriedir dyblygu na bod yn wahanol mewn egwyddor i’r canllawiau hynny.' (Tudalen 3)

Yn ogystal â'r datblygiad hwn, mae fersiwn newydd o Gyfeirlyfr y Cwricwlwm Addysg Grefyddol yn cael ei ysgrifennu ar hyn o bryd, a fydd yn ystyried yr holl ofynion statudol ar gyfer ysgolion Cymru.' (Tudalen 6)

Yng nghyd-destun Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM), cydnabyddir:
'Rydym yn byw mewn cymdeithas sy'n cynnwys amrywiaeth o fydolygon crefyddol ac anghrefyddol ac mae angen astudio'r rhain er mwyn paratoi ein pobl ifanc at fywyd yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, a'r byd ehangach. Mae angen i'r dysgu hwn gael ei ategu gan barch at ein gilydd a phawb a goddefgarwch o safbwyntiau eraill. Mae dysgu am grefyddau a bydolygon ar wahân i Gatholigiaeth felly yn dod yn sgil parch dwfn at urddas dynol y sawl sy’n dal y safbwyntiau hyn.' (Tudalen 6)

Gallwch ddarllen y ddogfen ganllaw newydd yn Gymraeg ac yn Saesneg yma (sgroliwch i lawr i waelod y dudalen we).

Qatar, Pêl-droed a Hawliau Dynol: ‘All Things Considered’ yn dod i Wrecsam

Dydd Iau 10fed Tachwedd bydd cyfres ffydd a moeseg arobryn BBC Radio Wales 'All Things Considered' yn cael ei recordio o flaen cynulleidfa fyw ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam . Mae hyn i nodi Gŵyl Bêl-droed Wal Goch, sy’n cael ei dathlu yn Wrecsam o 11-13 Tachwedd.

Mae gwesteion y rhaglen yn cynnwys:
Graham Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cristnogion mewn Chwaraeon a Chyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Cambridge United. Jahangir Mohammad, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Sefydliad Ayaan, Ewa Turczanska , Aelod o grŵp Amnest Rhyngwladol Bae Colwyn a chyfrannwr i ddatganiad gwerthoedd Cwpan y Byd a wnaed yn gynharach eleni gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Faisal Bode o'r Comisiwn Hawliau Dynol Islamaidd.

Mae llawer yn edrych ymlaen at Gwpan Pêl-droed y Byd. Dyma’r tro cyntaf i Gymru fynd trwodd ers 1958, a dyma hefyd y tro cyntaf i Gwpan y Byd gael ei chynnal gan genedl Fwslimaidd, sef Qatar. Fodd bynnag, mae dadleuon wedi taflu cysgod dros y gemau, gyda chwyddwydr yn disgleirio ar hawliau ac amodau gwaith y gweithwyr mudol a fu’n adeiladu'r seilwaith. Mae Paris a dinasoedd eraill yn Ffrainc yn boicotio'r gemau trwy beidio â'u sgrinio mewn mannau cyhoeddus. Mae Amnest Rhyngwladol wedi cwestiynu eu record ar hawliau dynol a hawliau LGBT. Mewn ymateb, mae Emir Qatar, Sheikh Tamim bin Hamad al-Thani, wedi dweud bod Qatar wedi wynebu beirniadaeth ddigynsail ers ennill y cais. Bydd Roy Jenkins a’i westeion yn trafod y materion hyn.

Gallwch wrando ar y drafodaeth bwysig hon ar 13eg Tachwedd ar BBC Radio Wales am 9am, neu gallwch ddod o hyd iddi ar BBC Radio Sounds. Bydd myfyrwyr o Goleg Cambria, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam , a Phrifysgol Bangor yn y gynulleidfa.

Dolen:

https://www.bbc.co.uk/programmes/m001f3cy

Cofrestrwch ar gyfer gweminar ar y cynigion TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd

Fel rhan o’r broses ymgynghori, mae Cymwysterau Cymru yn cynnal gweminar yn rhoi trosolwg o’r cynigion TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd ar 19 Hydref 2022, 16.00 – 17.00.

Bydd TGAU Astudiaethau Crefyddol Newydd yn “annog dysgwyr i wneud synnwyr o’r profiad dynol, y byd naturiol, a’u perthynas ag e, a dehongli hynny, gan ddeffro ymdeimlad o ryfeddod a thanio’r dychymyg. Bydd y cymhwyster yma’n ysbrydoli dysgwyr i wynebu’r dyfodol gyda chwilfrydedd a thrugaredd, drwy ymgysylltu â gwahanol grefyddau, credoau anghrefyddol, materion moesol cyfoes, ac argyhoeddiadau athronyddol yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.”

Gallwch ymuno â’r weminar drwy gofrestru yma:
https://www.eventbrite.co.uk/e/gcse-religious-studies-webinar-qualified-for-the-future-consultation-tickets-429346676467

Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yr Eglwys yng Nghymru

Mae Canolfan San Silyn yn croesawu cyhoeddi’n ddiweddar Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yr Eglwys yng Nghymru.

Gan gyfeirio’n benodol at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, mae Datganiad yr Eglwys yng Nghymru ar Addysg yn dweud:
“Trwy gydol ei hanes mae Cymru wedi croesawu pobl o wahanol ffydd ac o ddiwylliannau gwahanol, a thrwy ei haddysg ar bwnc crefydd, gwerthoedd a moeseg, mae’r Eglwys yng Nghymru yn cefnogi agwedd sy’n hybu dealltwriaeth a pharch tuag at bob crefydd, cred a byd-olwg anghrefyddol, gan adlewyrchu’r amrywiaeth sy’n bodoli yn ein cymdeithas Gymreig flaengar.”

Mae Canllawiau’r Eglwys yng Nghymru yn dilyn yn agos strwythur Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg statudol Llywodraeth Cymru (a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022), tra’n cynnig nodiadau deongliadol pwysig, ychwanegiadau a deunydd enghreifftiol sy’n berthnasol i ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.

Gallwch ddarllen Canllawiau'r Eglwys yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg yma:

Cymraeg
Saesneg

Rhaglen dysgu proffesiynol CBAC ar gyfer 2022/23

Mae CBAC newydd gyflwyno ei raglen dysgu proffesiynol newydd ar gyfer 2022/23. Mae dros 600 o gyrsiau wyneb yn wyneb neu ar-lein yn cael eu cynnig, a fydd yn cael eu rhedeg gan dîm o arbenigwyr CBAC ar draws y wlad.

Bydd Canolfan San Silyn yn ariannu lleoedd i ysgolion Wrecsam ar y cyrsiau Astudiaethau Crefyddol TGAU ac UG/Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol, i gefnogi ei hymarferwyr Astudiaethau Crefyddol lleol ar eu taith dysgu a datblygu proffesiynol.

Os ydych yn athro yn Wrecsam ac nad ydych wedi archebu eich lle ar y cyrsiau Astudiaethau Crefyddol eto, cysylltwch â Libby Jones ar libby.jones@wrexham.gov.uk

Astudiaethau Crefyddol TGAU CBAC: Asesu ac Ymarfer yn y Dosbarth

Lleoliad: Llandudno
Dyddiad: 14 Rhagfyr, 2022
Amser cychwyn: 09:00
Pris (yr un): 210.00 GBP (Cwrs diwrnod llawn)

Ceir rhagor o fanylion am y cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol a sut i gadw lle ar wefan CBAC yma. https://wjec.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/873636386

Astudiaethau Crefyddol UG/Safon Uwch CBAC: Addysgeg ac adnoddau ar gyfer athrawon newydd

Lleoliad: Ar-lein
Dyddiad: 12 Hydref, 2022
Amser cychwyn: 16:00
Pris (yr un): 100.00 GBP (Gweminar)

Ceir rhagor o fanylion am y cwrs UG/Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol a sut i gadw lle ar wefan CBAC yma. https://wjec.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/873636559

Maes Llafur Cytunedig Wrecsam wedi'i gyhoeddi

Mae Maes Llafur Cytunedig newydd Wrecsam ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) 2022 ar gael, a chafodd ei ddosbarthu i benaethiaid yn yr awdurdod lleol yr wythnos diwethaf. Yn nhymor yr hydref, bydd y Maes Llafur Cytunedig hefyd ar wefan awdurdod lleol Wrecsam.

Gallwch ddarllen fersiynau Cymraeg a Saesneg y Maes Llafur Cytunedig ar ein tudalen Materion Cwricwlwm.

Archwilio bydolygon: adnodd ysgogol i grefydd, gwerthoedd a moeseg yng Nghymru

Mae Canolfan San Silyn wedi cyhoeddi adnodd dysgu proffesiynol dwyieithog newydd o’r enw Archwilio bydolygon: adnodd ysgogol i grefydd, gwerthoedd a moeseg yng Nghymru. Lansiwyd yr adnodd mewn sesiwn arbennig o ddysgu proffesiynol a ddarparwyd gan Ganolfan San Silyn ar 9 Mehefin 2022 i ymarferwyr uwchradd yn Wrecsam.

Mae cyhoeddi Archwilio bydolygon: adnodd ysgogol i grefydd, gwerthoedd a moeseg yng Nghymru yn amserol. Yn y Cwricwlwm i Gymru, rhestrir ‘bydolygon’ fel un o’r cysyniadau CGM yn y canllawiau statudol ar Hwb, a sonnir hefyd am ‘fydolygon’ ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Ar ben hynny, mae gan Agored Cymru gyfres newydd o gymwysterau o’r enw “Archwilio Bydolygon”, sy’n defnyddio dull bydolygon i ddarparu ar gyfer AG neu CGM statudol. Bu Canolfan San Silyn ac ymarferwyr Wrecsam yn allweddol yn natblygiad y cymwysterau newydd hyn.

Lluniwyd yr adnodd dysgu proffesiynol i ddarparu’r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen ar ymarferwyr yng Nghymru i ddechrau meddwl am fydolygon o fewn eu cyd-destunau addysgu a dysgu eu hunain. Ei nod hefyd yw ysgogi ymgysylltiad beirniadol a gall gael ei ddefnyddio gan unigolion neu grwpiau. Ym mha fodd bynnag y’i defnyddir, gobeithiwn y bydd yr adnodd yn cynnig man cychwyn defnyddiol i daclo bydolygon yng Nghymru, a gobeithiwn hefyd y bydd yn hawdd i bawb gael mynediad ato. Felly, golyga hyn ein bod wedi cymryd gofal gyda’r cyflwyniad a’r iaith er mwyn sicrhau y gall ymarferwyr arbenigol a heb fod yn arbenigol fynd at yr adnodd yn hawdd ac yn greadigol. I’r rheiny sydd eisiau darllen ymhellach, ceir dolenni byw i ragor o ddeunyddiau.

Gallwch gyrchu’r adnodd hwn am ddim ar ein ' tudalen 'deunydd cefnogi’.

Cymraeg