Dysgu proffesiynol yn CGM: Digwyddiad Mewnwelediad Polisi wedi’i gyhoeddi ar Hwb

RVE Policy Insight Event presentation

Roedd hi’n fraint i staff Canolfan San Silyn, Libby Jones a Tania ap Siôn, gael lletya Digwyddiad Mewnwelediad Polisi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) Llywodraeth Cymru ar ran Cymdeithas CYSAGau Cymru.

Nod y Digwyddiadau Mewnwelediad Polisi ar-lein yw diweddaru rhanddeiliaid â datblygiadau dysgu proffesiynol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Cafwyd presenoldeb da yn y Digwyddiad ar 26 Ebrill 2022, oedd yn canolbwyntio ar adnoddau dysgu proffesiynol i CGM, gyda dros 105 yn mynychu.

Cyflwynwyd y sesiwn awr gan Kevin Palmer (Dirprwy Gyfarwyddwr, Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol) a siaradodd am ei ddiddordeb personol a’i gefnogaeth i CGM, a lle pwysig CGM yn addysg dysgwyr heddiw. Dilynwyd hyn gan fideo byr lle clywyd lleisiau eraill am werth CGM a’i le yn y Cwricwlwm i Gymru. Roedd y rhain yn cynnwys y Gwir Barchedig Mary Stallard, y Rhingyll David Smith, Emma Davies (myfyriwr addysg gynradd), a Gareth Hall (siaradwr ar Ddyneiddiaeth i ysgolion a chaplan prifysgol).

Roedd y Digwyddiad yn egluro pam fod angen adnoddau dysgu proffesiynol cenedlaethol i CGM, pwy sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect, a’r broses a ddilynir. Rhannwyd manylion am yr adnoddau ac edrychwyd yn fanylach ar rai modiwlau drafft. Roedd cyfle hefyd i’r cyfranogwyr siarad am yr hyn roeddent wedi’u weld a’i glywed o’u safbwyntiau nhw.

Os nad oeddech wedi gallu mynychu’r Digwyddiad neu’n dymuno rhannu’r Digwyddiad ag eraill, cyhoeddwyd recordiad ohono ar Hwb, y gellir ei gyrchu yma.

Bydd yr adnoddau dysgu proffesiynol yn cael eu cyhoeddi ar Hwb yn ddiweddarach y tymor hwn, a byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y bydd y rhain ar gael.

Gwrando ar bobl ifanc yn Wrecsam: Senedd yr Ifanc yn trafod CGM yn y Cwricwlwm i Gymru

Senedd yr Ifanc website

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn dod â llawer o newidiadau i’r ddarpariaeth, yr addysgeg a’r ymarfer presennol yn ein hysgolion lleol. Mae Addysg Grefyddol yn mynd yn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) o fis Medi 2022. Felly roedd hi’n bwysig i GYSAG Wrecsam fod llais lleol y dysgwr yn cael ei glywed cyn i Gynhadledd y Maes Llafur Cytunedig argymell maes llafur cytunedig newydd i CGM i’r awdurdod lleol.

Cyfarfu Libby Jones â chynrychiolwyr o Senedd yr Ifanc ddydd Llun 25 Ebrill i ganfod safbwyntiau a barn pobl ifanc 11 – 25 oed ar y newidiadau sy’n effeithio ar addysg grefyddol a’r trawsnewid i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Bu’r bobl ifanc yn gwrando’n astud ac yn barchus, wrth iddyn nhw ystyried y newidiadau gydag aeddfedrwydd a difrifoldeb. Fe ofynnon nhw gwestiynau perthnasol a chraff am sut bydd y newidiadau’n effeithio arnyn nhw a’u cyd-ddysgwyr. Soniodd y cynrychiolwyr hŷn am eu profiadau nhw yn y gorffennol yn yr ysgol gan ddangos empathi a pharch i’w cyfoedion iau a fydd yn cael eu heffeithio’n bennaf gan y newidiadau.

Roedd rhai o’r pwyntiau a godwyd yn cynnwys:

  • pwysigrwydd archwilio gwahanol gredoau crefyddol ac anghrefyddol er mwyn cael cymdeithas gydlynus;
  • pwysigrwydd teimlo eich bod yn cael eich cynnwys yn y gwersi hyn a sut bydd CGM yn gwneud addysgu a dysgu yn fwy hygyrch a pherthnasol iddyn nhw;
  • bydd dysgu am werthoedd a moeseg pobl yn ogystal â’u crefyddau yn fwy diddorol ac apelgar i ddysgwyr o bob oed a chefndir;
  • pryder a fyddai cynnwyd credoau anghrefyddol mewn cwricwlwm sydd eisoes yn llawn yn gorlwytho’r pwnc ac yn gwneud arholiadau CGM felly yn fwy trymlwythog o ran cynnwys;
  • pryder am sut y gall y newidiadau effeithio ar faint maen nhw’n ei ddysgu am eu crefydd eu hunain;
  • pryder am eu hathrawon yn gorfod sicrhau fod eu gwybodaeth bynciol yn ddigon eang i gynnwys ychwanegu credoau anghrefyddol; ac
  • yr angen i sicrhau fod yr addysgu a’r dysgu yn seiliedig ar wybodaeth ddilys a chywir, yn enwedig i grefyddau neu enwadau llai cyfarwydd efallai sy’n cael eu cynrychioli’n lleol ac yn genedlaethol.

Drwyddi draw, roedd Senedd yr Ifanc yn gadarnhaol iawn am CGM, a bydd cyfraniadau gwerthfawr y bobl ifanc oedd yn bresennol yn helpu i lywio’r maes llafur cytunedig ar CGM a’r gefnogaeth a gynigir gan yr awdurdod lleol drwy ei Gyngor Ymgynghorol Sefydlog i ysgolion wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.

Diolch i bawb o’r bobl ifanc a ddaeth i’r cyfarfod ac i Caroline a Tricia am hwyluso.

Y newyddion diweddaraf ar faes llafur cytunedig newydd Wrecsam

Dydd Iau 28 Ebrill 2022, bydd Cynhadledd y Maes Llafur Cytunedig Wrecsam (y Gynhadledd) yn galw ei gyfarfod olaf i gymeradwyo’r maes llafur cytunedig lleol newydd i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Cyfarfu gweithgor y Gynhadledd yn rheolaidd drwy Chwefror a Mawrth i drafod y canllawiau statudol cenedlaethol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar Hwb, ac i baratoi drafft o faes llafur cytundeb Wrecsam i CGM. Bwriad y Gynhadledd yw argymell y maes llafur hwn i’r awdurdod lleol yn ei gyfarfod ar 28 Ebrill a gobeithir y bydd awdurdod lleol Wrecsam yn ei fabwysiadu’n swyddogol fel Maes Llafur Cytunedig Wrecsam mewn pryd i ysgolion yn Wrecsam ei ddefnyddio wrth gynllunio ar gyfer CGM fel rhan o baratoi at y cwricwlwm newydd o fis Medi.

Bydd Canolfan San Silyn yn cynnig sesiynau dysgu proffesiynol i ysgolion cynradd ac uwchradd yn Wrecsam fel rhan o lansio’r maes llafur cytunedig newydd, er mwyn eu cynorthwyo â’r paratoadau pwysig hyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gynhadledd y Maes Llafur Cytunedig neu’r maes llafur ei hun, gallwch gysylltu â Libby Jones, sy’n ymgynghorydd AG/CGM i awdurdod lleol Wrecsam.

Digwyddiad Mewnwelediad Polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer CGM: Diweddariad Dysgu Proffesiynol

Mae’r Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal ‘Digwyddiadau Mewnwelediad Polisi’ ar-lein i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am ddatblygiadau dysgu proffesiynol ar gyfer Cwricwlwm i Gymru.

Mae staff yng Nghanolfan San Silyn yn falch o fod yn rhan o’r Digwyddiad Mewnwelediad Polisi ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Gallwch gofrestru ar gyfer y Digwyddiad a chylchredeg y manylion i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y cyfleoedd dysgu proffesiynol cenedlaethol ar gyfer CGM.

Mae’r manylion canlynol wedi’u cyhoeddi ar Hwb:

26 Ebrill: 2 i 3 pm (Dydd Mawrth)
Mewnwelediad Polisi: Adnoddau Dysgu Proffesiynol ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru
Cyhoeddwyd y canllawiau statudol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar Hwb ym mis Ionawr 2022. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Cymru o Gynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol i greu cyfres o adnoddau Dysgu Proffesiynol cenedlaethol ar-lein i gefnogi ymarferwyr a’u lleoliadau wrth fynd ati i gynllunio a chyflwyno Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Mae tîm o ymarferwyr arbenigol o ysgolion ledled Cymru yn llunio’r adnoddau hyn. Bydd y digwyddiad hwn yn darparu cyfle i ddysgu mwy am y broses o ddatblygu’r adnoddau hyn ac i weld yr hyn fydd ar gael ar-lein.

Mae'r ffurflen gofrestru ar-lein ar gael yma.

Adnodd i gefnogi athrawon a dysgwyr Safon Uwch sy’n archwilio gwyddoniaeth a chrefydd

Yn ddiweddar, mae Canolfan San Silyn wedi cyhoeddi rhifyn arbennig Cymraeg o Herio Materion Crefyddol ar wyddoniaeth a chrefydd. (Cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg yn hydref 2019.)

Yn wreiddiol, mae’r rhifyn arbennig hwn wedi bod yn bosibl drwy gymorth grant gan Sefydliad John Templeton, UDA.

Mae lawrlwythiadau am ddim o’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael yma ar ein tudalen 16+.

Mae erthyglau rhifyn arbennig yn cynnwys:

Technoleg a’r Natur Ddynol gan Adam M. Willows
Mae’r erthygl hon yn adolygu rhai o’r trafodaethau diwinyddol am dechnoleg sy’n datblygu. Mae’n trafod sut mae technolegau newydd yn codi cwestiynau am ein dealltwriaeth o’r natur ddynol, a sut gallai ymatebion diwinyddol gwahanol ddelio â’r cwestiynau hyn.

Esblygiad a’r Ddadl o (neu i) Gynllun gan Jeff Astley
Mae’r erthygl yn crynhoi effaith y mecanwaith a gynigir gan Darwin am esblygiad ar y ddadl ddyluniad dros fodolaeth Duw.

Stiwardiaeth y Greadigaeth gan Andrew Village
Mae’r traddodiad Iddewig-Gristnogol wedi cael ei feio i raddau am greu agwedd tuag at yr amgylchedd sy’n ei weld fel rhywbeth i fodau dynol dra-arglwyddiaethu arno a manteisio arno er eu budd nhw. Mae hefyd yn pwysleisio’r syniad fod pobl yn ‘stiwardiaid’ y greadigaeth, wedi cael y gwaith o edrych ar ôl y blaned dros Dduw. Ond beth yw ystyr stiwardio’r greadigaeth? Mae’r erthygl hon yn disgrifio dwy enghraifft o’r ffordd y mae gweithgarwch dynol wedi ffurfio cynefinoedd gwahanol ac wedi cael effeithiau cymhleth ar yr adar sy’n byw yno.

Meddwl am fod yn Ddynol mewn Bydysawd o Estroniaid gan David Wilkinson
Un o bynciau llosg gwyddonol mwyaf ein cenhedlaeth yw’r Ymchwil am Ddeallusrwydd Allfydol (Search for Extraterrestrial Intelligence neu SETI). Mae’r cwestiwn a ydym ar ein pennau ein hunain yn y bydysawd wedi cyfareddu’r cyfryngau a’r cyhoedd ers tro ac wedi ennyn diddordeb newydd wrth i ecsoblanedau gael eu darganfod, gyda nifer bach ohonynt â nodweddion tebyg i’r Ddaear. Mae darganfod bywyd yn rhywle arall yn y bydysawd, yn enwedig os yw’n ddeallus, yn codi cwestiynau mawr i’r ffydd Gristnogol mewn meysydd fel y creu, ymgnawdoliad, iachawdwriaeth a natur beth mae’n ei olygu i fod yn ddynol.

Ydi’r Greadigaeth yn Gyflawn? Trafodaeth ar Greadigaeth Barhaus gan Timothy Wall
Mae’r erthygl yn archwilio’r syniad fod y greadigaeth yn anghyflawn, drwy’r cysyniad o greadigaeth barhaus. Mae hyn yn codi o’r byd dynamig fel y disgrifir gan wyddoniaeth ac yn y Beibl, ond dadleuir ei fod yn ddiffygiol yn y bôn, yn wyddonol ac yn ddiwinyddol. Yn ei hanfod mae’n broblem dweud fod y greadigaeth yn anghyflawn oherwydd nid yw’n caniatáu dim toriad rhwng creadigaeth a chreadigaeth newydd. Mae’r erthygl yn awgrymu y gall barn am greadigaeth wedi’i gwreiddio yng Nghrist ganiatáu i ni ddweud fod creadigaeth yn gyflawn ac yn ddynamig.

Mae Herio Materion Crefyddol yn gyfnodolyn ar-lein, mynediad agored am ddim a luniwyd i gefnogi athrawon a myfyrwyr sy’n dilyn Astudiaethau Crefyddol Safon Uwch, gan ddod ac ysgolheictod ac ymchwil diweddar a pherthnasol o’r Brifysgol i’r ystafell ddosbarth lefel A.

Caiff fersiwn Gymraeg Herio Materion Crefyddol ei noddi a’i reoli gan Ganolfan San Silyn Wrecsam.

Beth mae Covid yn ei ddatgelu i arbenigwyr AG: Canolfan San Silyn yn rhan o brosiect ymchwil Ewropeaidd

pexels-photo-5697253.jpeg

Mae staff Canolfan San Silyn yn rhan o dîm ymchwil Ewropeaidd sy’n archwilio cwestiynau craidd am yr hyn sydd wir yn bwysig mewn AG yng ngoleuni profiadau Covid-19. Mae’r prosiect ymchwil ansoddol hwn yn edrych ar brofiadau a safbwyntiau arbenigwyr AG, a gobeithir y bydd canlyniadau’r ymchwil yn chwarae rhan mewn llywio cyfeiriad AG yn y dyfodol mewn ysgolion ledled Ewrop.

Lansiwyd Cam 1 y prosiect ar 9 Chwefror 2022 drwy ddosbarthu arolwg ar-lein i aelodau Bwrdd y Fforwm Ewropeaidd i Athrawon Addysg Grefyddol (EFTRE), sy’n cynnwys 26 o wledydd Ewrop.

Cam 2 y prosiect fydd cynnal cyfweliadau grŵp ffocws gydag ymarferwyr AG o sampl llai o bum gwlad Ewropeaidd: Cymru, yr Almaen, Gweriniaeth Iwerddon, Awstria a Hwngari. Bydd Cam 2 yn dechrau yn hwyrach yn 2022.

Dyma aelodau’r tîm ymchwil, sy’n dod o Fyrddau’r Fforwm Ewropeaidd ar gyfer Athrawon Addysg Grefyddol (EFTRE) a’r Comisiwn Rhyng-Ewropeaidd ar Eglwysi ac Ysgolion (ICCS):

  • Canolfan San Silyn staff (Cymru)
  • Bianca Kappelhoff (Comenius-Institute, Yr Almaen)
  • Dr Sandra Cullen (Dublin City University, Iwerddon)
  • Mag. Dr Sonja Danner (Private University College (KPH) Wien/Krems, Awstria)
  • Dr Eszter Kodácsy-Simon (Lutheran Theological University yn Budapest, Hwngari).

Mae Canolfan San Silyn yn croesawu’r cyfle i leisiau Cymreig gael eu cynnwys yn y prosiect cyffrous hwn, gyda sylw arbennig ar ymarferwyr Wrecsam yn ystod cam 2 y prosiect.

Dysgu proffesiynol cenedlaethol i Grefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM)

Mae staff Canolfan San Silyn yn falch iawn o fod yn rhan o dîm prosiect Cymdeithas CYSAGau Cymru a fydd yn goruchwylio datblygiad adnoddau dysgu proffesiynol ar-lein yn genedlaethol i Grefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) yn y Cwricwlwm i Gymru. Cafodd ymarferwyr arbenigol a ddewiswyd o blith ysgolion ledled Cymru y dasg i ffurfio ac ysgrifennu’r adnoddau a fydd yn fwyaf defnyddiol i ysgolion a lleoliadau wrth iddynt baratoi i gyflwyno’r cwricwlwm.

Mae’r prosiect dysgu cenedlaethol hwn yn bosibl drwy bartneriaeth rhwng Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC) a Llywodraeth Cymru, sydd wedi rhyddhau cyllid ar gyfer creu ystod o adnoddau dysgu proffesiynol i CGM. Ar ôl eu cwblhau, bydd yr adnoddau dwyieithog yn eistedd ar Hwb.

Bu staff yng Nghanolfan San Silyn yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r canllawiau Crefydd, gwerthoedd a moeseg statudol, ac maent wrth eu bodd yn rhannu eu harbenigedd a’u profiad yn y prosiect cyffrous hwn.

Gobeithir y bydd yr adnoddau ar gael ar Hwb Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2022. Edrychwn ymlaen at ddiweddar ysgolion a lleoliadau yn Wrecsam!

Fideo ar Grefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) yn y Cwricwlwm i Gymru

Mae Canolfan San Silyn wedi creu fideo am ddim ar CGM yn y Cwricwlwm i Gymru, y gellir ei weld ar wefan y Ganolfan.

Addasiad yw’r fideo 45 munud o sesiwn dysgu proffesiynol a gynigiwyd gan y Ganolfan i bob ysgol yn Wrecsam ar 12 Ionawr 2022. Mynychodd dros 90 o ymarferwyr yn Wrecsam y digwyddiad hwn ar-lein, a lluniwyd y fideo i helpu’r rheiny nad oedd yn gallu bod yn bresennol ar y diwrnod (yn ogystal ag i fod yn adnodd defnyddiol i’r rhai a oedd yno).

Gallai’r fideo dysgu proffesiynol fod o ddefnydd i ysgolion mewn awdurdodau eraill hefyd.

Gallwch weld y fideo ar ein tudalen Cyrsiau yma.(Sylwer: Select the HD option to watch the video in ‘high definition’.) There is also a pdf version of the presentation available.

Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig Wrecsam yn trafod canllawiau CGM statudol a chynlluniau ar gyfer y maes llafur cytunedig lleol

Dydd Iau 13 Ionawr, trefnodd Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig (MLlC) Wrecsam ei gyfarfod cyntaf i gynllunio ar gyfer maes llafur cytunedig lleol Crefydd, gwerthoedd a moeseg.

Roedd hyn ychydig ddiwrnodau ar ôl i’r Canllawiau Crefydd, gwerthoedd a moeseg gael eu cyhoeddi ar Hwb (10 Ionawr), felly cafodd yr aelodau’r cyfle i drafod y canllawiau mewn dyfnder a sefydlu gweithgor i symud ymlaen ar waith y MLlC.

Mae’r gweithgor MLlC eisoes wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf a chynllunnir un arall ar ddechrau Chwefror. Gobeithir y bydd y maes llafur cytunedig newydd i ysgolion a lleoliadau Wrecsam wedi’u gwblhau yn y tymor hwn, yn barod at yr haf.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y MLlC neu’r maes llafur cytunedig, gallwch gysylltu â Libby Jones, sy’n ymgynghorydd AG/CGM i awdurdod lleol Wrecsam.

Cyhoeddi Canllawiau i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg Statudol ar Hwb

Cyhoeddwyd y canllawiau i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) statudol ar Hwb ddoe (10 Ionawr 2022). Mae’r canllawiau CGM wedi’u hintegreiddio’n llawn i’r Cwricwlwm i Gymru, ac mae’n eistedd yn adran ‘Cynllunio eich Cwricwlwm’ Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Gellir gweld gwybodaeth berthnasol ar CGM a’r ddeddfwriaeth yn adran ‘Crynodeb o’r ddeddfwriaeth’ y Cwricwlwm i Gymru.

Dilynwch y dolenni isod i ddarllen y canllaw hanfodol hwn i bawb sy’n gyfrifol am gynllunio cwricwlwm yng Gymru.

Prif ganllawiau CGM

CGM a’r ddeddfwriaeth

Cymraeg