Mae Canolfan San Silyn yn cynnig sesiwn ddysgu proffesiynol ar CGM yn y Cwricwlwm i Gymru i ysgolion Wrecsam

macbook pro on brown wooden table

Mae Canolfan San Silyn yn cynnig sesiwn ddysgu broffesiynol sylfaenol ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn y Cwricwlwm i Gymru i ysgolion yn Wrecsam.

Mae’r sesiwn am ddim a bydd yn cael ei chynnal ar Dimau Microsoft ddydd Mercher, 12 Ionawr 2022 am 4pm. Bydd yn para tua awr, a fydd yn cynnwys amser ar gyfer sesiwn ‘Holi ac Ateb’ ar y diwedd.

Dylai ysgolion Wrecsam sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y sesiwn ddysgu broffesiynol hon cysylltu â ni gydag enw a chyfeiriad e-bost yr aelod(au) staff a fydd yn bresennol erbyn dydd Gwener, 17eg Rhagfyr. Cysylltir â nhw ym mis Ionawr gyda’r gwahoddiad a’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y sesiwn.

Beth sy’n digwydd yn Ewrop?

Yn rhifyn mis Rhagfyr o gylchlythyr ICCS* (a gyhoeddwyd heddiw), gallwch ddarllen am y datblygiadau Ewropeaidd diweddaraf sy’n berthnasol i addysg grefyddol, a’r Eglwys a’r Ysgol.

Mae’r erthyglau newyddion byr yn cynnwys:

  • Adroddiad ar gynhadledd Klingenthal sy’n ymwneud â defnyddio adrodd straeon i gyfathrebu pam mae crefydd mewn addysg yn bwysig;
  • Menter i ddatblygu AG Cristnogol cyffredin yn ‘Lower-Saxony’, yr Almaen (cydweithrediad Catholig-Protestannaidd);
  • Prosiect ymchwil Ewropeaidd ar Covid-19 ac AG;
  • Prosiect i asesu rhaglenni addysgol yn erbyn anoddefgarwch a gwahaniaethu.

Gellir gweld cylchlythyr ICCS yma.

* Rhwydwaith yw’r Comisiwn Rhyng-Ewropeaidd ar yr Eglwys a’r Ysgol (ICCS) a grëwyd yn 1958. Ei nod yw darparu fframwaith ar gyfer cydweithredu mewn monitro a datblygu materion eglwysi ac ysgolion yn Ewrop. Mae’n dwyn ynghyd gynrychiolwyr ac arbenigwyr o ymchwil, ymarfer a pholisi sy’n gweithio ar grefydd ac addysg.

Crefydd a diwylliant poblogaidd, rhywedd,a diwinyddiaeth ffeministaidd yn Herio Materion Crefyddol

Crefydd a diwylliant poblogaidd, rhywedd,a diwinyddiaeth ffeministaidd yw rhai o'r pynciau a drafodir yn y cyfnodolyn, Herio Materion Crefyddol (Rhifyn 14). Yn ddiweddar, mae Canolfan San Silyn wedi cyfieithu a chyhoeddi fersiwn Gymraeg y rhifyn hwn (cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg yn yr Hydref 2018).

Mae crynodeb o'r erthyglau isod. Gallwch lawrlwytho fersiynau Cymraeg a Saesneg yma.

Yr Iawn: Profiad, Stori, Damcaniaeth? gan yr Athro Jeff Astley

Mae’r erthygl hon yn archwilio statws hanesion Cristnogol am yr iawn, yn cynnwys cyfeiriad at ‘wrthrychedd’ a ‘goddrychedd’.

Crefydd a Diwylliant Poblogaidd gan yr Athro Clive Marsh

Mae helpu myfyrwyr i ddeall sut mae crefydd ‘a’ diwylliant poblogaeth yn cysylltu yn codi cwestiynau pryfoclyd o’r cychwyn. Mae’r gair ‘a’ yn awgrymu eu bod ar wahân, fel pe nad oes dim crefydd mewn diwylliant poblogaidd, a bod crefydd rywsut ar wahân i ddiwylliant. Felly, gellir cymryd fod diwylliant poblogaidd yn ‘seciwlar’ neu (hyd yn oed yn waeth) yn niwtral o safbwynt crefydd neu werthoedd. O ongl arall, gall diwylliant poblogaidd ymddangos yn fwy diddorol (neu’n fwy difyr) na chrefydd – yn enwedig i fyfyrwyr anghrefyddol. Neu gellid barnu ei fod yn tynnu sylw neu’n beryglus i fyfyrwyr crefyddol, neu i fyfyrwyr o deuluoedd crefyddol sy’n ymgodymu â’r tensiwn, a’r gwahaniaeth llwyr, rhwng ‘bywyd gartref’ a ‘bywyd yn yr ysgol/coleg’. Yn yr erthygl hon rwyf yn cynnig myfyrdodau syml ac awgrymiadau ar gyfer mynd i’r afael â materion o’r fath, gan fy mod yn teimlo’n bendant ei bod yn hollbwysig i fyfyrwyr fod yn edrych yn ofalus ar y berthynas – ffrwythlon ac adeiladol ond sydd hefyd yn creu straen a phroblemau – rhwng y ddau ‘fyd’ yma.

‘Impersonating Beyonce is Not Your Destiny, Child’: Reflections on Feminist Theology gan Dr Hayley Matthews

Mae’r erthygl hon yn edrych ar yr ystod o safbwyntiau diwinyddol Cristnogol ar rywedd (gender).

Richard Swinburne ar yr Enaid gan yr Athro Jeff Astley

Mae’r erthygl yn crynhoi amddiffyniad Swinburne o ddeuoliaeth sylwedd, a’i gyfrif ef o fywyd ar ôl marwolaeth a hunaniaeth bersonol.

Cymwys ar gyfer y dyfodol: Cyhoeddi adroddiadau ar y ‘genhedlaeth newydd’ o arholiadau TGAU i Gymru

Heddiw, cyhoeddwyd pedwar adroddiad arwyddocaol gan Cymwysterau Cymru. Mae’r rhain yn rhan bwysig o’r broses barhaus o adolygu a diwygio TGAU yng Nghymru yng ngoleuni’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar gymwysterau i ddysgwyr 14 i 16 oed yng Nghymru (27 Ionawr - 16 Ebrill 2021), y prif benawdau i’r Dyniaethau (yn cynnwys AG/CGM yw y bydd Cymwysterau Cymru:

  • yn creu TGAU newydd mewn Busnes, Daearyddiaeth, Hanes, Astudiaethau Crefyddol, ac Astudiaethau Cymdeithasol; ond
  • ni fyddant yn creu TGAU newydd mewn Dyniaethau.

Mae Cymwysterau Cymru yn cynnal dau ddigwyddiad gweminar ‘agored i bawb’ i gyflwyno canfyddiadau a phenderfyniadau’r ymgynghoriad. (14 Hydref, 15.00-16.00 a 15 Hydref, 11.00-12.00). Gallwch archebu'ch lle ar y gweminarau hyn yma. Bydd recordiadau o'r digwyddiadau ar gael yn nes ymlaen ar wefan Cymwysterau Cymru.

Beth sy’n digwydd nesaf: “Bydd y flwyddyn nesaf o gydweithio dwys yn ein paratoi at gyflwyno cynigion ar gyfer cymwysterau newydd erbyn haf 2022 a fydd yn barod i ddysgwyr yn 2025”.

Darllenwch fanylion yr adroddiadau ar ganlyniadau’r ymgynghoriad a’r penderfyniadau yma.
(Sylwer: Mae Astudiaethau Crefyddol yn dod yn adran Dyniaethau’r adroddiadau.)

Gadewch i ni adrodd ein straeon – effaith gadarnhaol crefydd mewn addysg (Klingenthal 2021)

Mae staff Canolfan San Silyn yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn digwyddiad rhyngweithiol Ewropeaidd ar-lein ar 21 Hydref 2021 (1-5pm BST).

Mae’r Comisiwn Rhyng-Ewropeaidd ar yr Eglwys a’r Ysgol (ICCS) a Grŵp Cydlynu Crefydd mewn Addysg yn Ewrop (CoGREE) wedi creu rhaglen gyffrous ar y thema: ‘Gadewch i ni adrodd ein straeon – effaith gadarnhaol crefydd mewn addysg’.

Disgrifir y digwyddiad fel cyfle i: “adnabod dadleuon a naratif, a all ddangos pam fod crefydd mewn addysg yn bwysig. Byddwn yn dysgu am strategaethau cyfathrebu, grym adrodd stori ac am sut i lapio’r dadleuon a nodwyd mewn stori apelgar.”

Bydd Dr Werner Hausmann (Prifysgol Erlangen-Nürnberg) yn cyflwyno ar ‘Public religious education’ a Lena Ohm (hyfforddwr a newyddiadurwr) ar ‘Storytelling – a framework’. Bydd gweithgareddau ymarferol mewn gweithdai yn dilyn.

Roedd y digwyddiad hwn i’w gynnal wyneb yn wyneb yn wreiddiol, dros bum diwrnod yn Château hyfryd Klingenthal yn yr Alsace. Yn anffodus, oherwydd y Pandemig, ni fu modd gwneud hyn, ond rydym yn croesawu’r digwyddiad amgen hwn ar-lein.

Os ydych eisiau ymuno â’r digwyddiad ar-lein am ddim, gellir cael gwybodaeth bellach a chofrestru ar-lein yma. Y diwrnod olaf i gofrestru yw: 4 Hydref 2021.

Dieithriaid, celf Gristnogol, yr enaid, a chrefydd ymhlyg yn Herio Materion Crefyddol

Dieithriaid, celf Gristnogol, yr enaid, a chrefydd ymhlyg yw rhai o'r pynciau a drafodir yn y cyfnodolyn, Herio Materion Crefyddol (Rhifyn 16). Yn ddiweddar, mae Canolfan San Silyn wedi cyfieithu a chyhoeddi fersiwn Gymraeg y rhifyn hwn (cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg yng Ngwanwyn 2020).

Mae crynodeb o'r erthyglau isod. Gallwch lawrlwytho fersiynau Cymraeg a Saesneg yma.

Dieithriaid: Eglwyseg ac 1 Pedr gan Dr John Holdsworth

Yn 1981 gwelwyd dechreuad cyfeiriad newydd yn astudiaeth 1 Pedr, a oedd fel pe wedi cyrraedd lle amhosibl cyn hynny. Mae astudiaethau cymdeithasol gan Elliott a Goppelt wedi mapio ffordd newydd ymlaen sydd wedi helpu i dynnu sylw at ddiwinyddiaeth 1 Pedr, ac yn arbennig ei eglwyseg, ac sydd wedi helpu i ail-ddiffinio astudiaeth eglwysegol. Cynigiodd hyn bosibilrwydd deongliadol newydd hefyd.

Y Geni a’r Croeshoeliad mewn Celf Gristnogol: Gweld, Dehongli ac Addoli gan Dr Bridget Nichols

Mae’r erthygl hon yn trafod rôl celf Gristnogol mewn ffurfio hunaniaeth Gristnogol a phatrymau defosiwn, gan ganolbwyntio ar enedigaeth Crist a’i groeshoeliad.

Y Meddwl, yr Ymennydd a’r Enaid sy’n Uno gan Dr Mark Graves

Mae’r erthygl yn rhoi trosolwg o ddatblygiad hanesyddol y cysyniad o’r enaid mewn athroniaeth a diwylliant Gorllewinol, ac yng nghyd-destun safbwyntiau gwyddonol cyfoes.

Crefydd Ymhlyg: Ymagwedd Newydd at Astudio Crefydd? gan Dr Francis Stewart

Mae’r erthygl yn dadlau mai un newid a wnaed i astudiaeth crefydd drwy ddatblygiad y thesis seciwlareiddio, a’i fethiant yn y pen draw, oedd ymagwedd newydd a oedd yn ceisio ateb y cwestiwn, ‘Beth yw crefydd seciwlar?’ Yr ymagwedd hon oedd Crefydd Ymhlyg, y mae ei tharddiad, ei natur a’i harwyddocâd yn cael ei thrafod yma.

Dirgelwch Anhraethol Duw? gan yr Athro Jeff Astley

Mae’r erthygl yn ystyried cysyniadau am anhraetholdeb, trosgynoldeb a dirgelwch Duw, gan gyfeirio’n arbennig at y profiad crefyddol ac iaith grefyddol.

Gwnaed ar Ddelw Duw: Profiad Merch ag Anabledd yn Nigeria gan Jessie Fubara-Manuel and Elijah Obinna

Mae’r erthygl hon yn trafod y datganiad Cristnogol fod dynoliaeth (gyda neb heb anableddau) wedi’i gwneud ar ddelw Duw. I bobl anabl mae’r datganiad hwn yn gysur a gallai fod yn sail i siwrne dorfol cymdeithas tuag at gydraddoldeb, urddas a chyfiawnder i bob unigolyn.

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Archwilio Bydolygon

Mae gan Agored Cymru ddyfarniad Lefel 2 newydd, sy’n canolbwyntio ar archwilio bydolygon crefyddol ac anghrefyddol (Bydd y dyfarniad Lefel 1 ar gael cyn hir.)

Lluniwyd y gyfres newydd hon o gymwysterau o’r enw Archwilio Bydolygon ar gyfer dysgwyr 14-16, a’i nod yw helpu i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiadau sy’n bwysig i bobl ifanc allu byw a gweithio’n llwyddiannus mewn cymdeithas amrywiol sy’n newid yn gyflym. Gall Archwilio Bydolygon gefnogi dull hyblyg o addysg a dysgu Addysg Grefyddol (a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg) statudol, pan nad yw’r dysgwyr wedi dewis dilyn TGAU Astudiaethau Crefyddol. Fe’i bwriadwyd i fod yn dra gwahanol i’r cymwysterau TGAU, na fydd yn cael eu heffeithio gan y datblygiad hwn.

Mae’r unedau Lefel 2 sydd ar gael erbyn hyn yn cynnwys:

  • Deall Bydolwg
  • Archwilio fy Mydolwg
  • Cwestiynau Mawr
  • Moeseg Feddygol
  • Moeseg Chwaraeon a Hamdden
  • Bydolygon yn fy Nghymuned

Ochr yn ochr â chydweithwyr o awdurdodau lleol Wrecsam ac Abertawe, roedd Canolfan San Silyn yn rhan o gychwyn a chreu’r gyfres newydd hon o gymwysterau er mwyn helpu i gynyddu’r dewisiadau sydd ar gael i ysgolion Wrecsam wrth gyflwyno Addysg Grefyddol (a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg) statudol.

Ceir gwybodaeth bellach am y cymhwyser hwn yma.

Newyddion Ewropeaidd i Eglwysi ac Ysgolion

Efallai y bydd gan y rheiny ohonoch sy’n gweithio ym maes yr Eglwys a’r Ysgol ddiddordeb mewn darllen newyddlen Gorffennaf 2021 gan y Comisiwn Rhyng-Ewropeaidd ar yr Eglwys a’r Ysgol (ICCS) a’r Gymdeithas Addysg Grefyddol Rynglwadol (IV).

Mae’r erthyglau’n cynnwys y newyddion diweddaraf gan:

  • ICCS ac IV;
  • Grŵp Cydlynu Crefydd mewn Addysg yn Ewrop (CoGREE) a’i aelod-fudiadau;
  • Cynhadledd yr Eglwysi Ewropeaidd (CEC) a Chymundeb yr Eglwysi Protestannaidd yn Ewrop (CPCE).

Wedi’i chyhoeddi ar wefan ICCS* gellir gweld y newyddlen yma.

* Rhwydwaith yw’r Comisiwn Rhyng-Ewropeaidd ar yr Eglwys a’r Ysgol (ICCS) a grëwyd yn 1958. Ei nod yw darparu fframwaith ar gyfer cydweithredu mewn monitro a datblygu materion eglwysi ac ysgolion yn Ewrop. Mae’n dwyn ynghyd gynrychiolwyr ac arbenigwyr o ymchwil, ymarfer a pholisi sy’n gweithio ar grefydd ac addysg.

Archwilio Cynefin: Canolfan San Silyn yn cynnig cyfle dysgu proffesiynol

Ar 7 Gorffennaf 2021, cyfarfu grŵp o athrawon arbenigol AG ac arweinwyr o Wrecsam a Sir y Fflint i archwilio cynefin yn y cwricwlwm newydd i Gymru. Nodau’r sesiwn oedd:

• helpu i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd;
• dechrau amlygu a dyfnhau’n gwybodaeth a’n profiad o gynefin;
• annog creadigrwydd a hyder wrth feddwl am gynefin wrth gynllunio.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi pwyslais mawr ar gynefin, sy’n bwysig ym Maes y Dyniaethau ac sy’n cael ei adnabod fel cysyniad pwnc yn CGM. Roedd y sesiwn yn gyfle i’r cyfranogwyr gymryd rhan mewn ymarfer myfyriol seiliedig ar ymchwil i agor eu meddwl am gynefin. Fe dderbynion nhw adnoddau a thystysgrif cyfranogiad gan Ganolfan San Silyn a’i sefydliadau partner, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phrifysgol Esgob Grosseteste.

Mae’r Ganolfan yn edrych ymlaen at rannu mwy o adnoddau a dysgu proffesiynol gydag ymarferwyr yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Cymraeg