Pam fod AG (CGM) yn berthnasol drwy gydol ein bywydau: gweminar newydd i ddysgwyr 14- i 16- mlwydd oed

Core RE webinar

Mae’n bleser gan Ganolfan San Silyn gynnig gweminar newydd sy’n ysgogi meddwl i athrawon a dysgwyr a luniwyd i hybu trafodaeth a diddordeb mewn gwersi AG (CGM) statudol. Crëwyd y gweminar i Ganolfan San Silyn gan Dr Greg Baker ac mae’n rhan o brosiect adnoddau ehangach i gefnogi AG (CGM) ac Astudiaethau Crefyddol ar gamau allweddol 4 a 5.

Mae’r gweminar diweddaraf hwn a recordiwyd yn barod yn dangos sut gall dysgu am grefydd, credoau a gwerthoedd ac amryw o ddamcaniaethau moesegol fod yn wirioneddol werthfawr i ddysgwyr drwy gydol eu bywydau, pa bynnag lwybr maent yn ei ddilyn. Felly, mae gwersi AG (a fydd yn y dyfodol yn cael eu galw’n wersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg) nid yn unig yn cael eu hyrwyddo fel rhywbeth hanfodol, ond diddorol a gwerth chweil hefyd.

Gallwch wylio darn 8 munud o’r adnodd hwn ar ein tudalen gweminarGall athrawon Wrecsam cysylltu â ni i gael y ddolen i’r fideo llawn (28 munud).

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg - ar agor

Dydd Gwener, 21 Mai 2021, agorodd ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar ganllawiau drafft Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Caiff pawb sydd â diddordeb mewn Addysg Grefyddol (a ailenwyd yn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg) eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a chyflwyno’u hymatebion.

Mae’r ymgynghoriad yn rhan bwysig o gamau olaf proses ddatblygu ar y cyd a fwriedir i greu cefnogaeth ychwanegol i ysgolion, lleoliadau a CYSAGau o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Mae Canolfan San Silyn wedi cynhyrchu fideo 20 munud byr sy’n crynhoi’r hyn sydd yn y Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a pham ei fod yno. Gallwch weld y fideo yma. Gallwch gael y ddolen i’r ymgynghoriad yma.

Os ydych yn ymarferydd sy’n gweithio yn Wrecsam ac yr hoffech rannu’ch barn yn uniongyrchol gyda San Silyn, cysylltwch â ni ac fe’ch helpwn i gael eich llais wedi’i glywed.

Y dyddiad cau i ymateb i’r ymgynghoriad yw: 16 Gorffennaf, 2021.

Dathlu cyfieithwyr y Beibl Cymraeg: gwasanaeth arbennig i ysgolion

St Asaph Translators Service for Schools

Mae Esgobaeth Llanelwy wedi rhyddhau gwasanaeth dwyieithog arbennig i ysgolion i ddathlu 400 mlwyddiant cyfieithu’r Beibl i Gymraeg, camp a gafodd effaith mor arwyddocaol ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru.

Mae’r ffilm yn gwneud nifer o gysylltiadau naturiol â mannau lleol (cynefin). Daeth saith o’r wyth cyfieithydd o Esgobaeth Llanelwy, a gwnaeth dysgwyr o ysgolion eglwys lleol gyfraniadau allweddol i’r ffilm, ynghyd ag Esgob Gregory a’r Gwir Barchedig Nigel Williams, ymhlith eraill.

Er ei fod wedi cael ei strwythuro fel ‘gwasanaeth’ (36 munud o hyd), mae rhaniadau defnyddiol sy’n galluogi ysgolion i gynnwys agweddau penodol o’r ffilm yn eu gweithgareddau addysgu a dysgu ehangach i AG (CGM) yn y Dyniaethau.

Gallwch weld y ffilm yma.

Ymateb CYSAG Wrecsam: Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru

Diolch i bawb ohonoch a rannodd eich barn gyda ni am ddyfodol cymwysterau yng Nghymru. Mae’ch llais yn bwysig ac mae Canolfan San Silyn wedi ymrwymo i rannu profiadau a safbwyntiau Wrecsam ar lefelau lleol a chenedlaethol.

Efallai yr hoffech ddarllen ymateb CYSAG Wrecsam i ymgynghoriad diweddar Cymwysterau Cymru yma. Roedd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar dri phrif gwestiwn:

  1. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynigion i adolygu a diwygio TGAU mewn Busnes, Daearyddiaeth, Hanes ac Astudiaethau Crefyddol?
  2. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynnig i greu TGAU newydd mewn Astudiaethau Cymdeithasol, os yw hynny’n ymarferol?
  3. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynnig i gredu TGAU integredig newydd yn y Dyniaethau, os yw hynny’n ymarferol?

Y cam nesaf yn y broses o ddatblygu cymwysterau i’r dyfodol yng Nghymru yw dylunio’r cymwysterau eu hunain. Gallwch ddod o hyd i’r amserlen yma.

Mwy o weminarau i ddysgwyr i gefnogi Astudiaethau Crefyddol TGAU a Safon Uwch!

Gall dysgwyr ac athrawon yn Wrecsam gyrchu set arall o ddeunydd gweminar wedi’i recordio, o dan arweiniad Dr Greg Baker a ddarperir gan Ganolfan San Silyn.

Yn y gyfres ddiweddaraf o adnoddau i ddysgwyr, mae’r sylw ar:

  • TGAU Astudiaethau Crefyddol Uned 2 (Rhan 1 - materion cyffredinol, cwestiynau rhan a) a thermau allweddol, ffynonellau gwybodaeth a chwestiynau rhan b). Rhan 2 - Dylanwad crefydd a chwestiynau rhan c). Cwestiynau gwerthuso rhan ch);
  • Cynnwys lefel UG ac ymarferion AA1 / AA2 (Otto a Chysyniad y Nwminaidd, Myfïaeth Foesegol Stirner);
  • Cynnwys Safon Uwch ac ymarferion AA1 / AA2 (Beirniadaethau Ayer o Iaith Grefyddol, Finnis a’r Ddeddf Naturiol);
  • Trosolwg o nodweddon asesu AA1 ac AA2 UG a Safon Uwch.

Mae’r deunyddiau hyn i gyd mewn ymateb i’r gweminarau byw i athrawon a gynhaliwyd gan Ganolfan San Silyn ym mis Chwefror 2021 ac maent ar gael tan 30 Medi 2021.

Cewch wybod mwy am ein cyfres o weminarau i’r dysgwyr yma.

Hate Hurts Wales Campaign

The Welsh Government has recently launched a social media campaign against hate crime called ‘Hate Hurts Wales’.

The campaign material includes five very short video clips portraying hate crime relating to:

• Religion
• Race
• Sexual orientation
• Disability
• Transgender

There is also a British Sign Language general video clip.

Teachers and schools may find some of this material helpful as a stimulus for aspects of religious education such as prejudice and discrimination, for example.

You can access the campaign materials yma.

Learner webinars for GCSE Religious Studies (Unit 1)

News for teachers in Wrexham! Over two hours of pre-recorded webinar material is now available for GCSE learners. Led by Dr Greg Barker and provided by the St Giles’ Centre, the Religious Studies webinars focus on skills and content relevant to Unit 1.

  • Part 1 (approx. 1 hour) can be used in two parts and includes: (1) general revision issues, part (a) questions and the importance of key terms for all questions; (2) sources of wisdom and part (b) questions.
  • Part 2 (approx. 1 hour) can also be used in two parts and includes: (1) influence of religion, part (c) questions; (2) Evaluative (d) questions and revision insights.

Unit 2 webinar material for learners in Wrexham will be available very soon. Both the Unit 1 and Units 2 resources can be accessed until 30 September 2021. The learner webinars complement the teachers’ professional learning webinar for GCSE that was delivered at the beginning of February this year.

The St Giles’ Centre hopes that these webinars will be helpful to both teachers and learners during this very challenging time.

Dyddiadau cau ymgynghoriad Cymwysterau Cymru yn agosáu

Y dyddiad cau i gyflwyno’ch ymateb i ymgynghoriad Cymwysterau Cymru yw 5pm ar 9 Ebrill 2021. Yn y blog yma, rydym yn ail-ymweld â phrif ddiben yr ymgynghoriad ac yn codi rhai cwestiynau pwysig i feddwl amdanynt.

Pwrpas yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad yn rhan o broses i sicrhau fod cymwysterau TGAU yng Nghymru yn addas i’r diben o fewn cyd-destun y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Dyma’r sail i dri chwestiwn yr ymgynghoriad, sef:

  1. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynigion i adolygu a diwygio TGAU mewn Busnes, Daearyddiaeth, Hanes ac Astudiaethau Crefyddol?
  2. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynnig i greu TGAU newydd mewn Astudiaethau Cymdeithasol, os yw hynny’n ymarferol?
  3. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynnig i gredu TGAU integredig newydd yn y Dyniaethau, os yw hynny’n ymarferol?

Wrth ymateb i’r cwestiynau hyn, efallai y bydd recordiad o wemniar gan Gymwysterau Cymru o ddefnydd i chi. Mae’n trafod rhai o’r ystyriaethau yma.

Rhai cwestiynau i feddwl amdanynt

Gallai rhai o’r cwestiynau canlynol fod o ddefnydd i chi wrth ystyried eich ymateb:

  • A oes angen adolygiad o’r TGAU Astudiaethau Crefyddol (AC) presennol?
  • A fyddai enw/teitl newydd i’r cymhwyster AC newydd yn briodol?
  • Ydi cael fersiwn cwrs byr o’r cymhwyster AC newydd yn bwysig/angenrheidiol?
  • Sut bydd gofynion y maes llafur cytunedig i CGM yn cael eu diwallu gan y cymhwyster newydd hwn?
  • Sut bydd gofynion dulliau lleol gwahanol h.y. meysydd llafur enwadol, yn cael eu diwallu gan y cymhwyster newydd hwn?
  • Beth allai fod canlyniadau anfwriadol TGAU astudiaethau cymdeithasol newydd (yn cynnwys effaith y cymhwyster AC newydd ac effaith CGM gorfodol yn CA4)?
  • Beth allai fod canlyniadau anfwriadol TGAU Dyniaethau newydd (yn cynnwys effaith y cymhwyster AC newydd ac effaith CGM gorfodol yn CA4?

Os hoffech siarad â ni am eich barn a/neu eisiau cynnig unrhyw wybodaeth i gefnogi ymateb yr ALl, cysylltu â ni gan erbyn 8 Ebrill 2021..

Dyma 'r ddogfennaeth a dolenni i’r ymgynghoriad.

Seminar crefydd a bydolygon anghrefyddol mewn addysg ryng-ddiwylliannol

The European Forum of Teachers of RE (EFTRE) is inviting people working in the field of religious education to a free Zoom seminar on ‘dealing with religion and non-religious world views in intercultural education’, which is being held on Friday, 19 March 2021 from 3pm to 7pm.

This is part of the major European ‘Signposts’ project. The original Signposts (edited by Robert Jackson) is a Council of Europe publication focusing on how the study of religions and non-religious world views can contribute to intercultural education in schools in Europe. It provides advice on tackling issues arising from the Council of Europe Recommendation CM/Rec(2008)12 on the dimension of religions and non-religious convictions within intercultural education.

Since its publication, a teacher training module has been developed which builds on the key elements of the publication in a practical and engaging way and this seminar opportunity offers an introduction to that module.

Both the Signposts publication and the teacher training module can be downloaded from the ‘What’s happening in Europe?’ section of our ‘Materion cwricwlwm’ webpage.

If any teachers in Wrexham are interested in attending this event, please cysylltu â ni for the Zoom details. Please note: the Zoom venue can only accommodate a maximum of 100 participants, so priority will be given to the first 100 people who log in.

Bill ‘gwnaed yng Nghymru i Gymru: Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) wedi’i gymeradwyo gan y Senedd

Neithiwr cymeradwywyd Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan y Senedd gyda 32 pleidlais o blaid, 18 pleidlais yn erbyn, ac un yn atal eu pleidlais.

Gallwch wylio yma y Bil yn cael ei gyflwyno i’r Senedd gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ac Aelodau eraill o’r Senedd yn siarad dros ac yn erbyn y Bil – Laura Jones, Siân Gwenllian, Lynne Neagle a Gareth Bennett. (Yr adran berthnasol yn y recordiad yw 4awr 53 mun – 5awr 19mun.)

Darllenwch ein hadroddiadau newyddion yn y blogiau diweddaraf, sydd wedi cofnodi cynnydd y Bil hwn drwy’r Senedd a’i oblygiadau i Grefydd, Moeseg a Gwerthoedd (CGM) yn ogystal ag i ysgolion â chymeriad crefyddol.

Cymraeg