Mae Cam 3 o Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn dechrau heddiw

Mae cyfarfod Senedd oedd yn garreg filltir bwysig ddydd Gwener, 29 Ionawr 2021 wedi gwthio Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) i Gam 3 y broses ddeddfwriaethol.

Yng nghyfarfod diwedd Cam 2 dydd Gwener y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, cytunwyd ar bob un o’r gwelliannau a gynigiwyd gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams. Mae nifer o’r gwelliannau hyn yn uniongyrchol berthnasol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn ogystal ag i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir â chymeriad crefyddol.

Y prif welliannau a gytunwyd arnynt

Roedd y gwelliannau hyn yn cynnwys:

  • Newid cyfeiriadau at Brydain Fawr i ‘Gymru’;
  • Gwneud gwelliannau yn gysylltiedig â chynrychiolaeth ar grŵp/pwyllgor A ar GYSAGau - newidir grŵp / pwyllgor A i gynnwys “argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol eraill” yn ogystal ag ‘enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill ac enwadau’r crefyddau hynny’. Yn ychwanegol, dylai nifer yr aelodau a benodir i gynrychioli crefydd, enwad neu argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol “cyn belled ag sy’n unol â chyflawni swyddogaethau’r grŵp yn effeithiol, adlewyrchu’n fras gryfder cymesurol y grefydd, yr enwad neu’r argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol hwnnw yn yr ardal,” ac y dylai “pob cam rhesymol i sicrhau’r canlyniad [hwn]” gael ei wneud gan yr awdurdod lleol. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru dalu sylw hefyd i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan weinidogion Cymru yn hyn o beth. Mewn trafodaeth, eglurodd Kirsty Williams y byddai aelodau cynrychioliadol ‘argyhoeddiadau athronyddol’ yn eistedd ochr yn ochr ond ar wahân i aelodau eraill y grŵp a oedd yn cynrychioli crefyddau a’u henwadau, fel mae dim ond un grŵp fyddai. Mae gan hyn oblygiadau cysylltiedig i Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig pob CYSAG.
  • Gwneud gwelliannau yn gysylltiedig â maes llafur cytunedig i CGM a fabwysiadwyd gan Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig i sicrhau fod y maes llafur yn adlewyrchu’r ffaith fod amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn cael eu coleddu yng Nghymru, yn ogystal â pharhau i sicrhau fod y meysydd llafur cytunedig yn adlewyrchu’r ffaith fod y traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn Gristnogol gan mwyaf ac ystyried athrawiaethau ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru.
  • Gwneud gwelliannau yn gysylltiedig ag addysgu a dysgu CGM i ddygwyr ôl-16 yng Nghymru sy’n adlewyrchu’r ffaith fod y traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn Gristnogol gan mwyaf, gan ystyried athrawiaethau ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru, ac ystod o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol a goleddir yng Nghymru.
  • Gwneud gwelliannau yn gysylltiedig â CGM mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir â chymeriad crefyddol – mae gofyn i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir â chymeriad crefyddol “ddarparu ar gyfer addysgu a dysgu CGM anenwadol sy’n ‘talu sylw’ i’r maes llafur cytunedig (yn hytrach na CGM sy’n ‘cyd-fynd â’r maes llafur CGM).”

(Cymerwyd o’r hysbysiadau ynghylch gwelliannau a’r tablau diben ac effaith.)

Pwyntiau diddorol eraill o’r drafodaeth

Mae gwybodaeth ddiddorol arall a ddaeth i’r amlwg o gynnwys y drafodaeth yn cynnwys trafod safbwynt Kirsty Williams ar:

  • [yn Saesneg] sut mae Llywodraeth Cymru yn deall y term ‘convictions’ – sy’n dilyn y ddealltwriaeth bresennol o ‘convictions’ fel y gwelir mewn cyfraith achos er mwyn defnydd cyffredin ac osgoi dryswch drwy gyflwyno dealltwriaeth wahanol;
  • amserlen cyhoeddi’r Fframwaith ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg – cyhoeddir y canllawiau terfynol cyn diwedd 2021, ac ni fydd newid i’r amserlen oherwydd yr angen am ymgynghoriad priodol;
  • y term ‘rhoi sylw’ (have regard) mewn deddfwriaeth, a’r effaith a fwriedir ar ymarfer ysgol;
  • amrywiaeth i gael ei wreiddio ar draws y cwricwlwm ac nid yn MDdaPh y Dyniaethau yn unig;
  • iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr (ac athrawon), a ddylai fod yn greiddiol i’r penderfyniadau a wneir o fewn y cwricwlwm cyfan.

Gwyliwch y drafodaeth ar Senedd.tv (mae darn o’r drafodaeth sy’n berthnasol i CGM ar gael 1h 45m – 2h 5m yn ogystal â 2h 48m i’r drafodaeth ‘talu sylw’).

Mae Cam 3 o’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn golygu ystyried y gwelliannau mewn Cyfarfod Llawn, a bydd y dyddiadau perthnasol yn cael eu cyhoeddi cynir. Bydd memorandwm diwygiedig o’r penderfyniadau a wnaed yng nghyfarfod dydd Gwener yn cael ei gyhoeddi o leiaf bum diwrnod cyn Cam 3.

Edrych ar y papurau perthnasol
Gwylio’r drafodaeth

Recordiad o gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 29 Ionawr 2021 (mae’r darn 20 munud diddorol o 1h 45m – 2h 5m yn ogystal â 2h 48m i mewn i’r drafodaeth ‘talu sylw’).

Beth yw cefndir y Bil?

Mae’r Bil Cwricwlwm ac Asesu yn ymwneud â sefydlu “fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig” i gefnogi gweithredu trefniadau cwricwlwm ac asesu newydd yng Nghymru” (Senedd Cymru).

Rhoddwyd cychwyn ar Fil Llywodraeth Cymru gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ac mae’r Pwyllgor Busnes wedi rhoi cyfrifoldeb i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Fe adroddon ni ar Gam 1 y bil yn ein blog ar 6 Ionawr, lle y cysylltwyd â’r 66 o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei adroddiad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), rhywfaint o’r rhain yn ymwneud yn uniongyrchol ag AG / CGM a CYSAGau.

Ar ddiwedd Cam 1 lle cafodd pleidlais o aelodau’r Senedd ar 15 Rhagfyr o blaid parhad y Bil drwy’r broses ddeddfwriaethol, symudodd y Bil ymlaen i Gam 2, a ddaeth i ben gyda chyfarfod dydd Gwener.

Ydych chi'n chwilio am help i ennyn diddordeb dysgwyr ar-lein a chydag asesiadau? Cyhoeddir dyddiadau gweminar i athrawon heddiw

Mae Canolfan San Silyn yn cynnig gweminarau am ddim i athrawon yn Wrecsam dan arweiniad Dr Greg Barker. Ar ôl ymgynghori ag athrawon, bydd y gweminarau TGAU a Safon Uwch yn canolbwyntio ar:

  • ennyn diddordeb dysgwyr mewn dysgu ar-lein;
  • cefnogi athrawon ag asesiad di-arholiad.

Ewch i’n tudalen Cyrsiau i gael manylion am y sesiynau gweminar rhyngweithiol TGAU a Safon Uwch ym mis Chwefror.

Gweminarau TGAU / Lefel A i ddysgwyr ac athrawon Wrecsam

Mae’n parhau i fod yn amser heriol iawn i athrawon a dysgwyr TGAU / Lefel A yn Wrecsam, yn enwedig gyda’r holl ansicrwydd am gynlluniau asesu’r bwrdd arholi.

Mae Canolfan San Silyn yn gobeithio y bydd cyfres o weminarau am ddim i athrawon a dysgwyr yn mynd rywfaint o’r ffordd i helpu ysgolion Wrecsam a Choleg Cambria yn y misoedd anodd sydd o’n blaenau.

Bydd y gweminarau, dan arweiniad Dr Greg Barker, yn cael eu rhyddhau'r tymor hwn.

Cewch wybod y diweddaraf am y datblygiadau hyn drwy edrych ar ein tudalen gweminar i ddysgwyr a’n tudalen cyrsiau proffesiynol i athrawon.

Progress update on the Curriculum and Assessment (Wales) Bill; and what that means for RE/RVE

Concerns have been raised by The Children, Young People and Education Committee in its report on the Curriculum and Assessment (Wales) Bill, about how the Bill will ensure all school children in Wales receive the same opportunities and experiences from their education. The report was published on Friday, 4 December 2020.

The Committee makes 66 recommendations in its report, across a wide range of issues, some of which are directly related to religious education (RE)/ religion, values and ethics (RVE) – see recommendations 25-32.

A debate on the Bill, informed by the Committee’s Stage 1 report, and involving all 60 Members of the Senedd, took place in the Senedd Chamber on Tuesday, 15 December 2020. During this debate, all Members of the Senedd had a chance to discuss their views on the Bill. Following the debate, a vote was held on whether the Senedd as a whole believed the Bill ought to progress to the next stage of the Senedd’s law-making process. The Senedd voted in favour of the Bill progressing, and so the Bill has now entered Stage 2.

Dyma is the link to the debate in the Senedd, on the General Principles of the Curriculum and Assessment (Wales) Bill.

Herio Materion Crefyddol Rhifyn 17 newydd ei gyhoeddi

Mae Rhifyn 17 o’r cyfnodolyn Challenging Religious Issues sy’n cefnogi dysgwyr ac athrawon UG / Safon Uwch newydd ei gyhoeddi. Mae’r cyfnodolyn hwn nid yn unig ar gyfer y rheini sy’n ymwneud ag Astudiaethau Crefyddol lefel A – mae ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cynyddu neu ddiweddaru eu gwybodaeth mewn ffordd ddiddorol ac academaidd feirniadol.

Mae uchafbwyntiau o'r rhifyn hwn yn cynnwys erthyglau ar y pynciau canlynol:

  • Y Goeden Deulu: Pwy yw’r Baban Iesu?
  • Crefydd yn mynd yn Feiral: Ffydd a Chred mewn Pandemig
  • Stephen Hawking a Bydysawd heb Dduw?
  • A yw Sail Enetig Bywyd ar y Ddaear yn gwneud Bywyd ar ôl Marwolaeth yn Beth Amhosibl?
  • Ar Fwdhaeth a Thrais
  • Rhai Tueddiadau mewn Eco-ddiwinyddiaeth

Ewch i’n tudalen 16+ i gael mynediad am ddim i rifyn diweddaraf y cylchgrawn.

Cymraeg